Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Historical

Read the books of the Bible as they were written historically, according to the estimated date of their writing.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 90-95

Gweddi Moses gŵr Duw.

90 Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth. Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt Dduw, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion. Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos. Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir. Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa. Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd. Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb. Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl. 10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith. 11 Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter. 12 Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb. 13 Dychwel, Arglwydd, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision. 14 Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau. 15 Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd. 16 Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy. 17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.

91 Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog. Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf. Canys efe a’th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon. A’i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti. Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd: Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd. Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw: ond ni ddaw yn agos atat ti. Yn unig ti a ganfyddi â’th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol. Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti; 10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell. 11 Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd. 12 Ar eu dwylo y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg. 13 Ar y llew a’r asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri. 14 Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw. 15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef. 16 Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.

Salm neu Gân ar y dydd Saboth.

92 Da yw moliannu yr Arglwydd, a chanu mawl i’th enw di, y Goruchaf: A mynegi y bore am dy drugaredd, a’th wirionedd y nosweithiau; Ar ddectant, ac ar y nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol. Canys llawenychaist fi, O Arglwydd, â’th weithred: yng ngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf. Mor fawredig, O Arglwydd, yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau. Gŵr annoeth ni ŵyr, a’r ynfyd ni ddeall hyn. Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i’w dinistrio byth bythoedd. Tithau, Arglwydd, wyt ddyrchafedig yn dragywydd. Canys wele, dy elynion, O Arglwydd, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd. 10 Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn: ag olew ir y’m heneinir. 11 Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i’m herbyn. 12 Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus. 13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr Arglwydd, a flodeuant yng nghynteddoedd ein Duw. 14 Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant: 15 I fynegi mai uniawn yw yr Arglwydd fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.

93 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr Arglwydd nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo. Darparwyd dy orseddfainc erioed: ti wyt er tragwyddoldeb. Y llifeiriaint, O Arglwydd, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau. Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr. Sicr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O Arglwydd, byth.

94 O Arglwydd Dduw y dial, O Dduw y dial, ymddisgleiria. Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i’r beilchion. Pa hyd, Arglwydd, y caiff yr annuwiolion, pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu? Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd? Dy bobl, Arglwydd, a ddrylliant; a’th etifeddiaeth a gystuddiant. Y weddw a’r dieithr a laddant, a’r amddifad a ddieneidiant. Dywedant hefyd, Ni wêl yr Arglwydd; ac nid ystyria Duw Jacob hyn. Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch? Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad? 10 Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn? 11 Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt. 12 Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysgi yn dy gyfraith: 13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol. 14 Canys ni ad yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth. 15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl. 16 Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd? 17 Oni buasai yr Arglwydd yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd. 18 Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed: dy drugaredd di, O Arglwydd, a’m cynhaliodd. 19 Yn amlder fy meddyliau o’m mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid. 20 A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith? 21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog. 22 Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi: a’m Duw yw craig fy nodded. 23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a’u tyr hwynt ymaith.

95 Deuwch, canwn i’r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd. Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau. Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau. Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo. Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir. Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr. Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd, Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch: Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd. 10 Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd: 11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.