Historical
I’r Pencerdd, Salm Dafydd i goffa.
70 O Dduw, prysura i’m gwaredu; brysia, Arglwydd, i’m cymorth. 2 Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi. 3 Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, Ha, ha. 4 Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger Duw. 5 Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O Dduw, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O Arglwydd; na hir drig.
71 Ynot ti, O Arglwydd, y gobeithiais; na’m cywilyddier byth. 2 Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi. 3 Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa. 4 Gwared fi, O fy Nuw, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws. 5 Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd Dduw; fy ymddiried o’m hieuenctid. 6 Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti. 7 Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa. 8 Llanwer fy ngenau â’th foliant, ac â’th ogoniant beunydd. 9 Na fwrw fi ymaith yn amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth. 10 Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i’m herbyn; a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant, 11 Gan ddywedyd, Duw a’i gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd. 12 O Dduw, na fydd bell oddi wrthyf: fy Nuw, brysia i’m cymorth. 13 Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi. 14 Minnau a obeithiaf yn wastad, ac a’th foliannaf di fwyfwy. 15 Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt. 16 Yng nghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi. 17 O’m hieuenctid y’m dysgaist, O Dduw: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau. 18 Na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon, a’th gadernid i bob un a ddelo. 19 Dy gyfiawnder hefyd, O Dduw, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O Dduw, sydd debyg i ti? 20 Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a’m bywhei drachefn, ac a’m cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear. 21 Amlhei fy mawredd, ac a’m cysuri oddi amgylch. 22 Minnau a’th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy Nuw: canaf i ti â’r delyn, O Sanct Israel. 23 Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti; a’m henaid, yr hwn a waredaist. 24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.
Salm i Solomon.
72 O Dduw, dod i’r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder. 2 Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder, a’th drueiniaid â barn. 3 Y mynyddoedd a ddygant heddwch i’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder. 4 Efe a farn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd. 5 Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant, yn oes oesoedd. 6 Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear. 7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad. 8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear. 9 O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch. 10 Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd. 11 Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef. 12 Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo. 13 Efe a arbed y tlawd a’r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus. 14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef. 15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef. 16 Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear. 17 Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig. 18 Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw, Duw Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau. 19 Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen. 20 Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.
Salm Asaff.
73 Yn ddiau da yw Duw i Israel; sef i’r rhai glân o galon. 2 Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad. 3 Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol. 4 Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth; a’u cryfder sydd heini. 5 Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill. 6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn. 7 Eu llygaid a saif allan gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth. 8 Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel. 9 Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a’u tafod a gerdd trwy y ddaear. 10 Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn. 11 Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr Duw? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf? 12 Wele, dyma y rhai annuwiol, a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud. 13 Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd. 14 Canys ar hyd y dydd y’m maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore. 15 Os dywedwn, Mynegaf fel hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam. 16 Pan amcenais wybod hyn, blin oedd hynny yn fy ngolwg i; 17 Hyd onid euthum i gysegr Duw: yna y deellais eu diwedd hwynt. 18 Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr. 19 Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn. 20 Fel breuddwyd wrth ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, y dirmygi eu gwedd hwynt. 21 Fel hyn y gofidiodd fy nghalon, ac y’m pigwyd yn fy arennau. 22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod; anifail oeddwn o’th flaen di. 23 Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau. 24 A’th gyngor y’m harweini; ac wedi hynny y’m cymeri i ogoniant. 25 Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaear neb gyda thydi. 26 Pallodd fy nghnawd a’m calon: ond nerth fy nghalon a’m rhan yw Duw yn dragywydd. 27 Canys wele, difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt. 28 Minnau, nesáu at Dduw sydd dda i mi: yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.