Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Historical

Read the books of the Bible as they were written historically, according to the estimated date of their writing.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Obadeia

Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am Edom; Clywsom sôn oddi wrth yr Arglwydd, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi. Wele, mi a’th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.

Balchder dy galon a’th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a’m tyn i’r llawr? Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhlith y sêr, mi a’th ddisgynnwn oddi yno, medd yr Arglwydd. Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y’th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni weddillasent rawn? Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef! Yr holl wŷr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a’th yrasant hyd y terfyn; y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a’th dwyllasant, ac a’th orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall ynddo. Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y doethion allan o Edom, a’r deall allan o fynydd Esau? Dy gedyrn di, Teman, a ofnant; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa.

10 Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a’th orchuddia, a thi a dorrir ymaith byth. 11 Y dydd y sefaist o’r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddieithriaid i’w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt. 12 Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithriwyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd. 13 Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd; ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt: 14 Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd. 15 Canys agos yw dydd yr Arglwydd ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun. 16 Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ie, yfant, a llyncant, a byddant fel pe na buasent.

17 Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thŷ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt. 18 Yna y bydd tŷ Jacob yn dân, a thŷ Joseff yn fflam, a thŷ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difânt hwynt; ac ni bydd un gweddill o dŷ Esau: canys yr Arglwydd a’i dywedodd. 19 Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau. a’r gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead; 20 A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau. 21 A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau: a’r frenhiniaeth fydd eiddo yr Arglwydd.

Jona 1-4

A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jona mab Amitai, gan ddywedyd, Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys eu drygioni hwynt a ddyrchafodd ger fy mron. A Jona a gyfododd i ffoi i Tarsis oddi gerbron yr Arglwydd: ac efe a aeth i waered i Jopa, ac a gafodd long yn myned i Tarsis, ac a dalodd ei llong-log hi, ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarsis, oddi gerbron yr Arglwydd.

Ond yr Arglwydd a gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr dymestl fawr, fel y tybygwyd y drylliai y llong. Yna y morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw, a bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i’r môr, i ymysgafnhau ohonynt: ond Jona a aethai i waered i ystlysau y llong, ac a orweddasai, ac a gysgasai. A meistr y llong a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddarfu i ti, gysgadur? cyfod, galw ar dy Dduw: fe allai yr ystyr y Duw hwnnw wrthym, fel na’n coller. A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a’r coelbren a syrthiodd ar Jona. A dywedasant wrtho, Atolwg, dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o ba le y daethost? pa le yw dy wlad? ac o ba bobl yr wyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a’r sychdir. 10 A’r gwŷr a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr Arglwydd, oherwydd efe a fynegasai iddynt.

11 A dywedasant wrtho, Beth a wnawn i ti, fel y gostego y môr oddi wrthym? canys gweithio yr oedd y môr, a therfysgu. 12 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Cymerwch fi, a bwriwch fi i’r môr; a’r môr a ostega i chwi; canys gwn mai o’m hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi. 13 Er hyn y gwŷr a rwyfasant i’w dychwelyd i dir; ond nis gallent: am fod y môr yn gweithio, ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy. 14 Llefasant gan hynny ar yr Arglwydd, a dywedasant, Atolwg, Arglwydd, atolwg, na ddifether ni am einioes y gŵr hwn, ac na ddyro i’n herbyn waed gwirion: canys ti, O Arglwydd, a wnaethost fel y gwelaist yn dda. 15 Yna y cymerasant Jona, ac a’i bwriasant ef i’r môr: a pheidiodd y môr â’i gyffro. 16 A’r gwŷr a ofnasant yr Arglwydd ag ofn mawr, ac a aberthasant aberth i’r Arglwydd, ac a addunasant addunedau.

17 A’r Arglwydd a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jona. A Jona a fu ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos.

A Jona a weddïodd ar yr Arglwydd ei Dduw o fol y pysgodyn, Ac a ddywedodd, O’m hing y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a’m hatebodd; o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef. Ti a’m bwriaist i’r dyfnder, i ganol y môr; a’r llanw a’m hamgylchodd: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof. A minnau a ddywedais, Bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tua’th deml sanctaidd. Y dyfroedd a’m hamgylchasant hyd yr enaid; y dyfnder a ddaeth o’m hamgylch; ymglymodd yr hesg am fy mhen. Disgynnais i odre’r mynyddoedd; y ddaear a’i throsolion oedd o’m hamgylch yn dragywydd: eto ti a ddyrchefaist fy einioes o’r ffos, O Arglwydd fy Nuw. Pan lewygodd fy enaid ynof, cofiais yr Arglwydd; a’m gweddi a ddaeth i mewn atat i’th deml sanctaidd. Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun. A minnau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti, talaf yr hyn a addunedais. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd.

10 A llefarodd yr Arglwydd wrth y pysgodyn, ac efe a fwriodd Jona ar y tir sych.

A gair yr Arglwydd a ddaeth yr ail waith at Jona, gan ddywedyd, Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyt. A Jona a gyfododd ac a aeth i Ninefe, yn ôl gair yr Arglwydd. A Ninefe oedd ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod. A Jona a ddechreuodd fyned i’r ddinas daith un diwrnod, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Deugain niwrnod fydd eto, a Ninefe a gwympir.

A gwŷr Ninefe a gredasant i Dduw, ac a gyhoeddasant ympryd, ac a wisgasant sachliain, o’r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt. Canys gair a ddaeth at frenin Ninefe, ac efe a gyfododd o’i frenhinfainc, ac a ddiosgodd oddi amdano ei frenhinwisg, ac a roddes amdano liain sach, ac a eisteddodd mewn lludw. Ac efe a barodd gyhoeddi, a dywedyd trwy Ninefe, trwy orchymyn y brenin a’i bendefigion, gan ddywedyd, Dyn ac anifail, eidion a dafad, na phrofant ddim; na phorant, ac nac yfant ddwfr. Gwisger dyn ac anifail â sachlen, a galwant ar Dduw yn lew: ie, dychwelant bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth y trawster sydd yn eu dwylo. Pwy a ŵyr a dry Duw ac edifarhau, a throi oddi wrth angerdd ei ddig, fel na ddifether ni?

10 A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt, droi ohonynt o’u ffyrdd drygionus; ac edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedasai y gwnâi iddynt, ac nis gwnaeth.

A bu ddrwg iawn gan Jona hyn, ac efe a ddigiodd yn fawr. Ac efe a weddïodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, Arglwydd, oni ddywedais i hyn pan oeddwn eto yn fy ngwlad? am hynny yr achubais flaen i ffoi i Tarsis; am y gwyddwn dy fod di yn Dduw graslon a thrugarog, hwyrfrydig i ddig, aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. Am hynny yn awr, O Arglwydd, cymer, atolwg, fy einioes oddi wrthyf: canys gwell i mi farw na byw.

A’r Arglwydd a ddywedodd, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot? A Jona a aeth allan o’r ddinas, ac a eisteddodd o’r tu dwyrain i’r ddinas, ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun, ac a eisteddodd dano yn y cysgod, hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas. A’r Arglwydd Dduw a ddarparodd gicaion, ac a wnaeth iddo dyfu dros Jona, i fod yn gysgod uwch ei ben ef, i’w waredu o’i ofid: a bu Jona lawen iawn am y cicaion. A’r Arglwydd a baratôdd bryf ar godiad y wawr drannoeth, ac efe a drawodd y cicaion, ac yntau a wywodd. A phan gododd haul, bu i Dduw ddarparu poethwynt y dwyrain; a’r haul a drawodd ar ben Jona, fel y llewygodd, ac y deisyfodd farw o’i einioes, ac a ddywedodd, Gwell i mi farw na byw. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jona, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot am y cicaion? Ac efe a ddywedodd, Da yw i mi ymddigio hyd angau. 10 A’r Arglwydd a ddywedodd, Ti a dosturiaist wrth y cicaion ni lafuriaist wrtho, ac ni pheraist iddo dyfu: mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu: 11 Ac oni arbedwn i Ninefe y ddinas fawr, yr hon y mae ynddi fwy na deuddeng myrdd o ddynion, y rhai ni wyddant ragor rhwng eu llaw ddeau a’u llaw aswy, ac anifeiliaid lawer?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.