Historical
18 Ac ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr Arglwydd at Eleias, yn y drydedd flwyddyn, gan ddywedyd, Dos, ymddangos i Ahab; a mi a roddaf law ar wyneb y ddaear. 2 Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab. A’r newyn oedd dost yn Samaria. 3 Ac Ahab a alwodd Obadeia, yr hwn oedd benteulu iddo: (ac Obadeia oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr: 4 Canys pan ddistrywiodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd, Obadeia a gymerodd gant o broffwydi, ac a’u cuddiodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a’u porthodd hwynt â bara ac â dwfr.) 5 Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia, Dos i’r wlad, at bob ffynnon ddwfr, ac at yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y ceffylau a’r mulod, fel na adawom i’r holl anifeiliaid golli. 6 Felly hwy a ranasant y wlad rhyngddynt i’w cherdded: Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan, ac Obadeia a aeth y ffordd arall ei hunan.
7 Ac fel yr oedd Obadeia ar y ffordd, wele Eleias yn ei gyfarfod ef: ac efe a’i hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, Onid ti yw fy arglwydd Eleias? 8 Yntau a ddywedodd wrtho, Ie, myfi: dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. 9 Dywedodd yntau, Pa bechod a wneuthum i, pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i’m lladd? 10 Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y frenhiniaeth a’r genedl, na chawsent dydi. 11 Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd, Dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. 12 A phan elwyf fi oddi wrthyt ti, ysbryd yr Arglwydd a’th gymer di lle nis gwn i; a phan ddelwyf i fynegi i Ahab, ac yntau heb dy gael di, efe a’m lladd i: ond y mae dy was di yn ofni yr Arglwydd o’m mebyd. 13 Oni fynegwyd i’m harglwydd yr hyn a wneuthum i, pan laddodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd, fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr Arglwydd, bob yn ddengwr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt â bara ac â dwfr? 14 Ac yn awr ti a ddywedi, Dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias: ac efe a’m lladd i. 15 A dywedodd Eleias, Fel mai byw Arglwydd y lluoedd, yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron, heddiw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef. 16 Yna Obadeia a aeth i gyfarfod Ahab, ac a fynegodd iddo. Ac Ahab a aeth i gyfarfod Eleias. 17 A phan welodd Ahab Eleias, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel? 18 Ac efe a ddywedodd, Ni flinais i Israel; ond tydi, a thŷ dy dad: am i chwi wrthod gorchmynion yr Arglwydd, ac i ti rodio ar ôl Baalim. 19 Yn awr gan hynny anfon, a chasgl ataf holl Israel i fynydd Carmel, a phroffwydi Baal, pedwar cant a deg a deugain, a phroffwydi y llwyni, pedwar cant, y rhai sydd yn bwyta ar fwrdd Jesebel. 20 Felly Ahab a anfonodd at holl feibion Israel, ac a gasglodd y proffwydi ynghyd i fynydd Carmel. 21 Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd, Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr Arglwydd sydd Dduw, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A’r bobl nid atebasant iddo air. 22 Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr Arglwydd; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain. 23 Rhodder gan hynny i ni ddau fustach: a dewisant hwy iddynt un bustach, a darniant ef, a gosodant ar goed, ond na osodant dân dano: a minnau a baratoaf y bustach arall, ac a’i gosodaf ar goed, ac ni roddaf dân dano. 24 A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr Arglwydd: a’r Duw a atebo trwy dân, bydded efe Dduw. A’r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant, Da yw y peth. 25 Ac Eleias a ddywedodd wrth broffwydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dân dano. 26 A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a’i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o’r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni; ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid. 27 A bu, ar hanner dydd, i Eleias eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch â llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef. 28 A hwy a waeddasant â llef uchel, ac a’u torasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll ac ag ellynod, nes i’r gwaed ffrydio arnynt. 29 Ac wedi iddi fyned dros hanner dydd, a phroffwydo ohonynt nes offrymu yr hwyr‐offrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried. 30 A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A’r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, yr hon a ddrylliasid. 31 Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw di. 32 Ac efe a adeiladodd â’r meini allor yn enw yr Arglwydd; ac a wnaeth ffos o gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor. 33 Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a’i gosododd ar y coed; 34 Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith. 35 A’r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr. 36 A phan offrymid yr hwyr‐offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn. 37 Gwrando fi, O Arglwydd, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr Arglwydd Dduw, ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn. 38 Yna tân yr Arglwydd a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r coed, a’r cerrig, a’r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffos. 39 A’r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr Arglwydd, efe sydd Dduw, yr Arglwydd, efe sydd Dduw. 40 Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy, Deliwch broffwydi Baal; na ddihanged gŵr ohonynt. A hwy a’u daliasant: ac Eleias a’u dygodd hwynt i waered i afon Cison, ac a’u lladdodd hwynt yno.
41 Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab, Dos i fyny, bwyta ac yf; canys wele drwst llawer o law. 42 Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed. Ac Eleias a aeth i fyny i ben Carmel; ac a ymostyngodd ar y ddaear, ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau; 43 Ac a ddywedodd wrth ei lanc, Dos i fyny yn awr, edrych tua’r môr. Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd, ac a ddywedodd, Nid oes dim. Dywedodd yntau, Dos eto saith waith. 44 A’r seithfed waith y dywedodd efe, Wele gwmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn dyrchafu o’r môr. A dywedodd yntau, Dos i fyny, dywed wrth Ahab, Rhwym dy gerbyd, a dos i waered, fel na’th rwystro y glaw. 45 Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dduodd gan gymylau a gwynt; a bu glaw mawr. Ac Ahab a farchogodd, ac a aeth i Jesreel. 46 A llaw yr Arglwydd oedd ar Eleias; ac efe a wregysodd ei lwynau, ac a redodd o flaen Ahab nes ei ddyfod i Jesreel.
19 Ac Ahab a fynegodd i Jesebel yr hyn oll a wnaethai Eleias; a chyda phob peth, y modd y lladdasai efe yr holl broffwydi â’r cleddyf. 2 Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo y duwiau, ac fel hyn y chwanegont, oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy. 3 A phan welodd efe hynny, efe a gyfododd, ac a aeth am ei einioes, ac a ddaeth i Beerseba, yr hon sydd yn Jwda, ac a adawodd ei lanc yno.
4 Ond efe a aeth i’r anialwch daith diwrnod, ac a ddaeth ac a eisteddodd dan ferywen; ac a ddeisyfodd iddo gael marw: dywedodd hefyd, Digon yw; yn awr, Arglwydd, cymer fy einioes: canys nid ydwyf fi well na’m tadau. 5 Ac fel yr oedd efe yn gorwedd ac yn cysgu dan ferywen, wele, angel a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Cyfod, bwyta. 6 Ac efe a edrychodd: ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor, a ffiolaid o ddwfr wrth ei ben ef. Ac efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a gysgodd drachefn. 7 Ac angel yr Arglwydd a ddaeth drachefn yr ail waith, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd, Cyfod a bwyta; canys y mae i ti lawer o ffordd. 8 Ac efe a gyfododd, ac a fwytaodd ac a yfodd; a thrwy rym y bwyd hwnnw y cerddodd efe ddeugain niwrnod a deugain nos, hyd Horeb mynydd Duw.
9 Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a letyodd yno. Ac wele air yr Arglwydd ato ef; ac efe a ddywedodd wrtho, Beth a wnei di yma, Eleias? 10 Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau. 11 Ac efe a ddywedodd, Dos allan, a saf yn y mynydd gerbron yr Arglwydd. Ac wele yr Arglwydd yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo’r mynyddoedd, ac yn dryllio’r creigiau o flaen yr Arglwydd; ond nid oedd yr Arglwydd yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt, daeargryn; ond nid oedd yr Arglwydd yn y ddaeargryn: 12 Ac ar ôl y ddaeargryn, tân; ond nid oedd yr Arglwydd yn y tân: ac ar ôl y tân, llef ddistaw fain. 13 A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias? 14 Dywedodd yntau, Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent fy einioes innau i’w dwyn hi ymaith. 15 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel i’th ffordd i anialwch Damascus: a phan ddelych, eneinia Hasael yn frenin ar Syria; 16 A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel; ac Eliseus mab Saffat, o Abel‐mehola, a eneini di yn broffwyd yn dy le dy hun. 17 A’r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael, Jehu a’i lladd ef: ac Eliseus a ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu. 18 A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y gliniau oll ni phlygasant i Baal, a phob genau a’r nis cusanodd ef.
19 Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, â deuddeg cwpl o ychen o’i flaen, ac efe oedd gyda’r deuddegfed. Ac Eleias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef. 20 Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a’m mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel; canys beth a wneuthum i ti? 21 Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymerth gwpl o ychen, ac a’u lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt, ac a’i rhoddodd i’r bobl, a hwy a fwytasant. Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias, ac a’i gwasanaethodd ef.
20 A Benhadad brenin Syria a gasglodd ei holl lu, a deuddeg brenin ar hugain gydag ef, a meirch, a cherbydau: ac efe a aeth i fyny, ac a warchaeodd ar Samaria, ac a ryfelodd i’w herbyn hi. 2 Ac efe a anfonodd genhadau at Ahab brenin Israel, i’r ddinas, 3 Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Benhadad, Dy arian a’th aur sydd eiddof fi; dy wragedd hefyd, a’th feibion glanaf, ydynt eiddof fi. 4 A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Yn ôl dy air di, fy arglwydd frenin, myfi a’r hyn oll sydd gennyf ydym eiddot ti. 5 A’r cenhadau a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Fel hyn yr ymadroddodd Benhadad, gan ddywedyd, Er i mi anfon atat ti, gan ddywedyd, Dy arian a’th aur, a’th wragedd, a’th feibion, a roddi di i mi: 6 Eto ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf fy ngweision atat ti, a hwy a chwiliant dy dŷ di, a thai dy weision: a phob peth dymunol yn dy olwg a gymerant hwy yn eu dwylo, ac a’i dygant ymaith. 7 Yna brenin Israel a alwodd holl henuriaid y wlad, ac a ddywedodd, Gwybyddwch, atolwg, a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn: canys efe a anfonodd ataf fi am fy ngwragedd, ac am fy meibion, ac am fy arian, ac am fy aur; ac nis gomeddais ef. 8 Yr holl henuriaid hefyd, a’r holl bobl, a ddywedasant wrtho ef, Na wrando, ac na chytuna ag ef. 9 Am hynny y dywedodd efe wrth genhadau Benhadad, Dywedwch i’m harglwydd y brenin, Am yr hyn oll yr anfonaist ti at dy was ar y cyntaf, mi a’i gwnaf: ond ni allaf wneuthur y peth hyn. A’r cenhadau a aethant, ac a ddygasant air iddo drachefn. 10 A Benhadad a anfonodd ato ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo y duwiau i mi, ac fel hyn y chwanegont, os bydd pridd Samaria ddigon o ddyrneidiau i’r holl bobl sydd i’m canlyn i. 11 A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Dywedwch wrtho, Nac ymffrostied yr hwn a wregyso ei arfau, fel yr hwn sydd yn eu diosg. 12 A phan glywodd efe y peth hyn, (ac efe yn yfed, efe a’r brenhinoedd, yn y pebyll,) efe a ddywedodd wrth ei weision, Ymosodwch. A hwy a ymosodasant yn erbyn y ddinas.
13 Ac wele, rhyw broffwyd a nesaodd at Ahab brenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oni welaist ti yr holl dyrfa fawr hon? wele, mi a’i rhoddaf yn dy law di heddiw, fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd. 14 Ac Ahab a ddywedodd, Trwy bwy? Dywedodd yntau, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Trwy wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau. Ac efe a ddywedodd, Pwy a drefna y fyddin? Dywedodd yntau, Tydi. 15 Yna efe a gyfrifodd wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau, ac yr oeddynt yn ddau cant a deuddeg ar hugain: ac ar eu hôl hwynt efe a gyfrifodd yr holl bobl, cwbl o feibion Israel, yn saith mil. 16 A hwy a aethant allan ganol dydd. A Benhadad oedd yn yfed yn feddw yn y pebyll, efe a’r brenhinoedd, y deuddeg brenin ar hugain oedd yn ei gynorthwyo ef. 17 A gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau a aethant allan yn gyntaf: a Benhadad a anfonodd allan, a hwy a fynegasant iddo gan ddywedyd, Daeth gwŷr allan o Samaria. 18 Ac efe a ddywedodd, Os am heddwch y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw; ac os i ryfel y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw. 19 Felly yr aethant hwy allan o’r ddinas, sef gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau, a’r llu yr hwn oedd ar eu hôl hwynt. 20 A hwy a laddasant bawb ei ŵr: a’r Syriaid a ffoesant, ac Israel a’u herlidiodd hwynt: a Benhadad brenin Syria a ddihangodd ar farch, gyda’r gwŷr meirch. 21 A brenin Israel a aeth allan, ac a drawodd y meirch a’r cerbydau, ac a laddodd y Syriaid â lladdfa fawr.
22 A’r proffwyd a nesaodd at frenin Israel, ac a ddywedodd wrtho, Dos, ymgryfha, gwybydd hefyd, ac edrych beth a wnelych; canys ymhen y flwyddyn brenin Syria a ddaw i fyny i’th erbyn di. 23 A gweision brenin Syria a ddywedasant wrtho ef, Duwiau y mynyddoedd yw eu duwiau hwynt, am hynny trech fuant na ni: ond ymladdwn â hwynt yn y gwastadedd, a ni a’u gorthrechwn hwynt. 24 A gwna hyn; Tyn ymaith y brenhinoedd bob un o’i le, a gosod gapteiniaid yn eu lle hwynt. 25 Rhifa hefyd i ti lu, fel y llu a gollaist, meirch am feirch, a cherbyd am gerbyd: a ni a ymladdwn â hwynt yn y gwastatir, ac a’u gorthrechwn hwynt. Ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt, ac a wnaeth felly. 26 Ac ymhen y flwyddyn Benhadad a gyfrifodd y Syriaid, ac a aeth i fyny i Affec, i ryfela yn erbyn Israel. 27 A meibion Israel a gyfrifwyd, ac oeddynt oll yn bresennol, ac a aethant i’w cyfarfod hwynt: a meibion Israel a wersyllasant ar eu cyfer hwynt, fel dwy ddiadell fechan o eifr; a’r Syriaid oedd yn llenwi’r wlad.
28 A gŵr i Dduw a nesaodd, ac a lefarodd wrth frenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd dywedyd o’r Syriaid, Duw y mynyddoedd yw yr Arglwydd, ac nid Duw y dyffrynnoedd yw efe; am hynny y rhoddaf yr holl dyrfa fawr hon i’th law di, a chwi a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 29 A hwy a wersyllasant y naill ar gyfer y llall saith niwrnod. Ac ar y seithfed dydd y rhyfel a aeth ynghyd: a meibion Israel a laddasant o’r Syriaid gan mil o wŷr traed mewn un diwrnod. 30 A’r lleill a ffoesant i Affec, i’r ddinas; a’r mur a syrthiodd ar saith mil ar hugain o’r gwŷr a adawsid: a Benhadad a ffodd, ac a ddaeth i’r ddinas o ystafell i ystafell.
31 A’i weision a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, clywsom am frenhinoedd tŷ Israel, mai brenhinoedd trugarog ydynt hwy: gosodwn, atolwg, sachliain am ein llwynau, a rhaffau am ein pennau, ac awn at frenin Israel; ond odid efe a geidw dy einioes di. 32 Yna y gwregysasant sachliain am eu llwynau, a rhaffau am eu pennau, ac a ddaethant at frenin Israel, ac a ddywedasant, Benhadad dy was a ddywed, Atolwg, gad i mi fyw. Dywedodd yntau, A ydyw efe eto yn fyw? fy mrawd yw efe. 33 A’r gwŷr oedd yn disgwyl yn ddyfal a ddeuai dim oddi wrtho ef, ac a’i cipiasant ar frys: ac a ddywedasant, Dy frawd Benhadad. Dywedodd yntau, Ewch, dygwch ef. Yna Benhadad a ddaeth allan ato ef; ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny i’r cerbyd. 34 A Benhadad a ddywedodd wrtho, Y dinasoedd a ddug fy nhad i oddi ar dy dad di, a roddaf drachefn; a chei wneuthur heolydd i ti yn Damascus, fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria. A dywedodd Ahab, Mi a’th ollyngaf dan yr amod hwn. Felly efe a wnaeth gyfamod ag ef, ac a’i gollyngodd ef ymaith.
35 A rhyw ŵr o feibion y proffwydi a ddywedodd wrth ei gymydog trwy air yr Arglwydd, Taro fi, atolwg. A’r gŵr a wrthododd ei daro ef. 36 Dywedodd yntau wrtho, Oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd, wele, pan elych oddi wrthyf, llew a’th ladd di. Ac efe a aeth oddi wrtho ef, a llew a’i cyfarfu ef, ac a’i lladdodd. 37 Yna efe a gafodd ŵr arall, ac a ddywedodd, Taro fi, atolwg. A’r gŵr a’i trawodd ef, gan ei daro a’i archolli. 38 Felly y proffwyd a aeth ymaith, ac a safodd o flaen y brenin ar y ffordd, ac a ymddieithrodd â lludw ar ei wyneb. 39 A phan ddaeth y brenin heibio, efe a lefodd ar y brenin, ac a ddywedodd, Dy was a aeth i ganol y rhyfel, ac wele, gŵr a drodd heibio, ac a ddug ŵr ataf fi, ac a ddywedodd, Cadw y gŵr hwn: os gan golli y cyll efe, yna y bydd dy einioes di yn lle ei einioes ef, neu ti a deli dalent o arian. 40 A thra yr oedd dy was yn ymdroi yma ac acw, efe a ddihangodd. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Felly y bydd dy farn di; ti a’i rhoddaist ar lawr. 41 Ac efe a frysiodd, ac a dynnodd ymaith y lludw oddi ar ei wyneb: a brenin Israel a’i hadnabu ef, mai o’r proffwydi yr oedd efe. 42 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd i ti ollwng ymaith o’th law y gŵr a nodais i’w ddifetha, dy einioes di fydd yn lle ei einioes ef, a’th bobl di yn lle ei bobl ef. 43 A brenin Israel a aeth i’w dŷ ei hun yn drist ac yn ddicllon, ac a ddaeth i Samaria.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.