Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Historical

Read the books of the Bible as they were written historically, according to the estimated date of their writing.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Brenhinoedd 15-17

15 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam mab Nebat, yr aeth Abeiam yn frenin ar Jwda. Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom. Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o’i flaen ef: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r Arglwydd ei Dduw, fel calon Dafydd ei dad. Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr Arglwydd ei Dduw iddo ef oleuni yn Jerwsalem; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i sicrhau Jerwsalem: Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddyddiau ei einioes, ond yn achos Ureia yr Hethiad. A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jeroboam holl ddyddiau ei einioes. A’r rhan arall o weithredoedd Abeiam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? A rhyfel a fu rhwng Abeiam a Jeroboam. Ac Abeiam a hunodd gyda’i dadau, a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd. Ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin ar Jwda. 10 Ac un flynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom. 11 Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad. 12 Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o’r wlad, ac a fwriodd ymaith yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau. 13 Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron. 14 Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd: eto calon Asa oedd berffaith gyda’r Arglwydd ei holl ddyddiau ef. 15 Ac efe a ddug i mewn gysegredig bethau ei dad, a’r pethau a gysegrasai efe ei hun, i dŷ yr Arglwydd, yn arian, yn aur, ac yn llestri.

16 A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt. 17 A Baasa brenin Israel a aeth i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama; fel na adawai efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda. 18 Yna Asa a gymerodd yr holl arian a’r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision: a’r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab Tabrimon, mab Hesion, brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd, 19 Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, rhwng fy nhad i a’th dad di: wele, mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur; tyred, diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi. 20 Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Ijon, a Dan, ac Abel‐beth‐maacha, a holl Cinneroth, gyda holl wlad Nafftali. 21 A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama; ac a drigodd yn Tirsa. 22 Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant gerrig Rama, a’i choed, â’r rhai yr adeiladasai Baasa; a’r brenin Asa a adeiladodd â hwynt Geba Benjamin, a Mispa. 23 A’r rhan arall o holl hanes Asa, a’i holl gadernid ef, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r dinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o’i draed. 24 Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

25 A Nadab mab Jeroboam a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd. 26 Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ei bechod ef â’r hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

27 A Baasa mab Ahïa, o dŷ Issachar, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a Baasa a’i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon. 28 A Baasa a’i lladdodd ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef. 29 A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dŷ Jeroboam; ni adawodd un perchen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y Siloniad: 30 Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio Arglwydd Dduw Israel. 31 A’r rhan arall o hanes Nadab, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 32 A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt. 33 Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahïa ar holl Israel yn Tirsa, bedair blynedd ar hugain. 34 Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

16 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jehu mab Hanani yn erbyn Baasa, gan ddywedyd, Oherwydd i mi dy ddyrchafu o’r llwch, a’th wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel, a rhodio ohonot tithau yn ffordd Jeroboam, a pheri i’m pobl Israel bechu, gan fy nigio â’u pechodau; Wele fi yn torri ymaith hiliogaeth Baasa, a hiliogaeth ei dŷ ef: a mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat. Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo Baasa yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo ef yn y maes. A’r rhan arall o hanes Baasa, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid ef, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? A Baasa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Tirsa; ac Ela ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. Hefyd trwy law Jehu mab Hanani y proffwyd y bu gair yr Arglwydd yn erbyn Baasa, ac yn erbyn ei dŷ ef, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yng ngolwg yr Arglwydd, gan ei ddigio ef trwy waith ei ddwylo; gan fod fel tŷ Jeroboam, ac oblegid iddo ei ladd ef.

Yn y chweched flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Ela mab Baasa ar Israel yn Tirsa, ddwy flynedd. A Simri ei was ef, tywysog ar hanner y cerbydau, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef, ac efe yn yfed yn feddw, yn Tirsa, yn nhŷ Arsa, yr hwn oedd benteulu yn Tirsa. 10 A Simri a aeth ac a’i trawodd ef, ac a’i lladdodd, yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef.

11 A phan ddechreuodd efe deyrnasu, ac eistedd ar ei deyrngadair, efe a laddodd holl dŷ Baasa: ni adawodd efe iddo ef un gwryw, na’i geraint, na’i gyfeillion. 12 Felly Simri a ddinistriodd holl dŷ Baasa, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd efe yn erbyn Baasa trwy law Jehu y proffwyd. 13 Oherwydd holl bechodau Baasa, a phechodau Ela ei fab ef, trwy y rhai y pechasant hwy, a thrwy y rhai y gwnaethant i Israel bechu, gan ddigio Arglwydd Dduw Israel â’u gwagedd. 14 A’r rhan arall o hanes Ela, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

15 Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Simri saith niwrnod yn Tirsa: a’r bobl oedd yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon eiddo y Philistiaid. 16 A chlybu y bobl y rhai oedd yn y gwersyll ddywedyd, Simri a gydfwriadodd, ac a laddodd y brenin. A holl Israel a goronasant Omri, tywysog y llu, yn frenin y dwthwn hwnnw ar Israel, yn y gwersyll. 17 Ac Omri a aeth i fyny, a holl Israel gydag ef, o Gibbethon; a hwy a warchaeasant ar Tirsa. 18 A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei hennill, efe a aeth i balas tŷ y brenin, ac a losgodd dŷ y brenin am ei ben â thân, ac a fu farw; 19 Am ei bechodau yn y rhai y pechodd efe, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd, gan rodio yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod a wnaeth efe i beri i Israel bechu. 20 A’r rhan arall o hanes Simri, a’i gydfradwriaeth a gydfwriadodd efe; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

21 Yna yr ymrannodd pobl Israel yn ddwy ran: rhan o’r bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath, i’w osod ef yn frenin, a rhan ar ôl Omri. 22 A’r bobl oedd ar ôl Omri a orchfygodd y bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath: felly Tibni a fu farw, ac Omri a deyrnasodd.

23 Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Omri ar Israel ddeuddeng mlynedd: yn Tirsa y teyrnasodd efe chwe blynedd. 24 Ac efe a brynodd fynydd Samaria gan Semer, er dwy dalent o arian; ac a adeiladodd yn y mynydd, ac a alwodd enw y ddinas a adeiladasai efe, ar ôl enw Semer, arglwydd y mynydd, Samaria.

25 Ond Omri a wnaeth ddrygioni yng ngŵydd yr Arglwydd, ac a wnaeth yn waeth na’r holl rai a fuasai o’i flaen ef. 26 Canys efe a rodiodd yn holl ffordd Jeroboam mab Nebat, ac yn ei bechod ef, trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu, gan ddigio Arglwydd Dduw Israel â’u gwagedd hwynt. 27 A’r rhan arall o hanes Omri, yr hyn a wnaeth efe, a’i rymuster a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 28 Ac Omri a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

29 Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asa brenin Jwda: ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar hugain. 30 Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd y tu hwnt i bawb o’i flaen ef. 31 Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac a aeth ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo. 32 Ac efe a gyfododd allor i Baal yn nhŷ Baal, yr hwn a adeiladasai efe yn Samaria. 33 Ac Ahab a wnaeth lwyn. Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio Arglwydd Dduw Israel na holl frenhinoedd Israel a fuasai o’i flaen ef.

34 Yn ei ddyddiau ef Hïel y Betheliad a adeiladodd Jericho: yn Abiram ei gyntaf‐anedig y sylfaenodd efe hi, ac yn Segub ei fab ieuangaf y gosododd efe ei phyrth hi, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law Josua mab Nun.

17 Ac Eleias y Thesbiad, un o breswylwyr Gilead, a ddywedodd wrth Ahab, Fel mai byw Arglwydd Dduw Israel, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na glaw, ond yn ôl fy ngair i. A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dos oddi yma, a thro tua’r dwyrain, ac ymguddia wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. Ac o’r afon yr yfi; a mi a berais i’r cigfrain dy borthi di yno. Felly efe a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair yr Arglwydd; canys efe a aeth, ac a arhosodd wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. A’r cigfrain a ddygent iddo fara a chig y bore, a bara a chig brynhawn: ac efe a yfai o’r afon. Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon, oblegid na buasai law yn y wlad.

A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Cyfod, dos i Sareffta, yr hon sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno: wele, gorchmynnais i wraig weddw dy borthi di yno. 10 Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Sareffta. A phan ddaeth efe at borth y ddinas, wele yno wraig weddw yn casglu briwydd: ac efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi ychydig ddwfr mewn llestr, fel yr yfwyf. 11 Ac a hi yn myned i’w gyrchu, efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi damaid o fara yn dy law. 12 A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes gennyf deisen, ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ystên: ac wele fi yn casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i’m mab, fel y bwytaom hynny, ac y byddom feirw. 13 Ac Eleias a ddywedodd wrthi, Nac ofna; dos, gwna yn ôl dy air: eto gwna i mi o hynny deisen fechan yn gyntaf, a dwg i mi; a gwna i ti ac i’th fab ar ôl hynny. 14 Canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Y blawd yn y celwrn ni threulir, a’r olew o’r ystên ni dderfydd, hyd y dydd y rhoddo yr Arglwydd law ar wyneb y ddaear. 15 A hi a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair Eleias: a hi a fwytaodd, ac yntau, a’i thylwyth, ysbaid blwyddyn. 16 Ni ddarfu y celwrn blawd, a’r ystên olew ni ddarfu, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a ddywedasai efe trwy law Eleias.

17 Ac wedi y pethau hyn y clafychodd mab gwraig y tŷ, ac yr oedd ei glefyd ef mor gryf, fel na thrigodd anadl ynddo. 18 A hi a ddywedodd wrth Eleias, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, gŵr Duw? a ddaethost ti ataf i goffáu fy anwiredd, ac i ladd fy mab? 19 Ac efe a ddywedodd wrthi, Moes i mi dy fab. Ac efe a’i cymerth ef o’i mynwes hi, ac a’i dug ef i fyny i ystafell yr oedd efe yn aros ynddi, ac a’i gosododd ef ar ei wely ei hun. 20 Ac efe a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd fy Nuw, a ddrygaist ti y wraig weddw yr ydwyf fi yn ymdeithio gyda hi, gan ladd ei mab hi? 21 Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, ac a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd fy Nuw, dychweled, atolwg, enaid y bachgen hwn iddo eilwaith. 22 A’r Arglwydd a wrandawodd ar lef Eleias; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo, ac efe a ddadebrodd. 23 Ac Eleias a gymerodd y bachgen, ac a’i dug ef i waered o’r ystafell i’r tŷ, ac a’i rhoddes ef i’w fam: ac Eleias a ddywedodd, Gwêl, byw yw dy fab.

24 A’r wraig a ddywedodd wrth Eleias, Yn awr wrth hyn y gwn mai gŵr Duw ydwyt ti, ac mai gwirionedd yw gair yr Arglwydd yn dy enau di.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.