Historical
8 Yna Solomon a gasglodd henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, a thywysogion tadau meibion Israel, at y brenin Solomon, yn Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o ddinas Dafydd, honno yw Seion. 2 A holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin Solomon, ar yr ŵyl, ym mis Ethanim, hwnnw yw y seithfed mis. 3 A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r offeiriaid a godasant yr arch i fyny. 4 A hwy a ddygasant i fyny arch yr Arglwydd, a phabell y cyfarfod, a holl lestri’r cysegr y rhai oedd yn y babell, a’r offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny. 5 A’r brenin Solomon, a holl gynulleidfa Israel, y rhai a ymgynullasai ato ef, oedd gydag ef o flaen yr arch, yn aberthu defaid, a gwartheg, y rhai ni rifid ac ni chyfrifid, gan luosowgrwydd. 6 Felly yr offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i’w lle ei hun, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y ceriwbiaid. 7 Canys y ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch; a’r ceriwbiaid a orchuddient yr arch, a’i barrau oddi arnodd. 8 A’r barrau a estynasant, fel y gwelid pennau y barrau o’r cysegr o flaen y gafell, ond nis gwelid oddi allan: yno y maent hwy hyd y dydd hwn. 9 Nid oedd dim yn yr arch ond y ddwy lech faen a osodasai Moses yno yn Horeb, lle y cyfamododd yr Arglwydd â meibion Israel, pan oeddynt yn dyfod o wlad yr Aifft. 10 A phan ddaeth yr offeiriaid allan o’r cysegr, y cwmwl a lanwodd dŷ yr Arglwydd, 11 Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu, oherwydd y cwmwl: canys gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ yr Arglwydd.
12 Yna y dywedodd Solomon, Yr Arglwydd a ddywedodd, y preswyliai efe yn y tywyllwch. 13 Gan adeiladu yr adeiledais dŷ yn breswylfod i ti; trigle i ti i aros yn dragywydd ynddo. 14 A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel. A holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll. 15 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a’i cwblhaodd â’i law, gan ddywedyd, 16 Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o’r Aifft, ni ddewisais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, fel y byddai fy enw i yno: eithr dewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel. 17 Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel. 18 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon: 19 Eto nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaw allan o’th lwynau di, efe a adeilada y tŷ i’m henw i. 20 A’r Arglwydd a gywirodd ei air a lefarodd efe; a mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar deyrngadair Israel, megis y llefarodd yr Arglwydd, ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel. 21 A mi a osodais yno le i’r arch, yr hon y mae ynddi gyfamod yr Arglwydd, yr hwn a gyfamododd efe â’n tadau ni, pan ddug efe hwynt allan o wlad yr Aifft.
22 A Solomon a safodd o flaen allor yr Arglwydd, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd: 23 Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi, yn y nefoedd oddi uchod, nac ar y ddaear oddi isod, yn cadw cyfamod a thrugaredd â’th weision sydd yn rhodio ger dy fron di â’u holl galon; 24 Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho: traethaist hefyd â’th enau, a chwblheaist â’th law, megis heddiw y mae. 25 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Israel, cadw â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a gadwant eu ffordd, i rodio ger fy mron i, megis y rhodiaist ti ger fy mron. 26 Ac yn awr, O Dduw Israel, poed gwir, atolwg, fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd fy nhad. 27 Ai gwir yw, y preswylia Duw ar y ddaear? wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy gynnwys di; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i! 28 Eto edrych ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiad ef, O Arglwydd fy Nuw, i wrando ar y llef a’r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron di: 29 Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma nos a dydd, tua’r lle y dywedaist amdano, Fy enw a fydd yno: i wrando ar y weddi a weddïo dy was yn y lle hwn. 30 Gwrando gan hynny ddeisyfiad dy was, a’th bobl Israel, pan weddïant yn y lle hwn: clyw hefyd o le dy breswylfa, sef o’r nefoedd; a phan glywych, maddau.
31 Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn: 32 Yna clyw di yn y nefoedd, gwna hefyd, a barna dy weision, gan ddamnio’r drygionus i ddwyn ei ffordd ef ar ei ben; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo ef yn ôl ei gyfiawnder.
33 Pan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn di, os dychwelant atat ti, a chyfaddef dy enw, a gweddïo, ac ymbil â thi yn y tŷ hwn: 34 Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i’r tir a roddaist i’w tadau hwynt.
35 Pan gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i’th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech di hwynt: 36 Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy weision, a’th bobl Israel, fel y dysgych iddynt y ffordd orau y rhodiant ynddi, a dyro law ar dy dir a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth.
37 Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, llosgfa, malltod, locustiaid, os bydd y lindys; pan warchaeo ei elyn arno ef yng ngwlad ei ddinasoedd; pa bla bynnag, pa glefyd bynnag, a fyddo; 38 Pob gweddi, pob deisyfiad, a fyddo gan un dyn, neu gan dy holl bobl Israel, y rhai a wyddant bawb bla ei galon ei hun, ac a estynnant eu dwylo tua’r tŷ hwn: 39 Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a maddau; gwna hefyd, a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn yr adwaenost ei galon; (canys ti yn unig a adwaenost galonnau holl feibion dynion;) 40 Fel y’th ofnont di yr holl ddyddiau y byddont byw ar wyneb y tir a roddaist i’n tadau ni.
41 Ac am y dieithrddyn hefyd ni byddo o’th bobl Israel, ond dyfod o wlad bell er mwyn dy enw; 42 (Canys clywant am dy enw mawr di, a’th law gref, a’th fraich estynedig;) pan ddêl a gweddïo tua’r tŷ hwn: 43 Gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a’r a lefo’r dieithrddyn arnat amdano: fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, i’th ofni di, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i.
44 Os â dy bobl di allan i ryfel yn erbyn eu gelyn, ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddïant ar yr Arglwydd tua ffordd y ddinas a ddewisaist ti, a’r tŷ yr hwn a adeiledais i’th enw di: 45 Yna gwrando yn y nefoedd ar eu gweddi hwynt, ac ar eu deisyfiad, a gwna farn iddynt.
46 Os pechant i’th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a digio ohonot wrthynt, a’u rhoddi hwynt o flaen eu gelynion, fel y caethgludont hwynt yn gaethion i wlad y gelyn, ymhell neu yn agos; 47 Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac erfyn arnat yng ngwlad y rhai a’u caethgludasant, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol; 48 A dychwelyd atat ti â’u holl galon, ac â’u holl enaid, yng ngwlad eu gelynion a’u caethgludasant hwynt, a gweddïo arnat ti tua’u gwlad a roddaist i’w tadau, a’r ddinas a ddewisaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di: 49 Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt, a’u deisyfiad, a gwna farn iddynt, 50 A maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn, a’u holl gamweddau yn y rhai y troseddasant i’th erbyn, a phâr iddynt gael trugaredd gerbron y rhai a’u caethgludasant, fel y trugarhaont wrthynt hwy: 51 Canys dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist ti allan o’r Aifft, o ganol y ffwrn haearn: 52 Fel y byddo dy lygaid yn agored i ddeisyfiad dy was, a deisyfiad dy bobl Israel, i wrando arnynt hwy pa bryd bynnag y galwont arnat ti. 53 Canys ti a’u neilltuaist hwynt yn etifeddiaeth i ti o holl bobl y ddaear, fel y lleferaist trwy law Moses dy was, pan ddygaist ein tadau ni allan o’r Aifft, O Arglwydd Dduw. 54 Ac wedi gorffen o Solomon weddïo ar yr Arglwydd yr holl weddi a’r deisyfiad yma, efe a gyfododd oddi gerbron allor yr Arglwydd, o ostwng ar ei liniau, ac o estyn ei ddwylo tua’r nefoedd. 55 Ac efe a safodd, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel â llef uchel, gan ddywedyd, 56 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a roddes lonyddwch i’w bobl Israel, yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe: ni syrthiodd un gair o’i holl addewidion da ef, y rhai a addawodd efe trwy law Moses ei was. 57 Yr Arglwydd ein Duw fyddo gyda ni, fel y bu gyda’n tadau: na wrthoded ni, ac na’n gadawed ni: 58 I ostwng ein calonnau ni iddo ef, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion ef, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau ni. 59 A bydded fy ngeiriau hyn, y rhai a ddeisyfais gerbron yr Arglwydd, yn agos at yr Arglwydd ein Duw ddydd a nos, i wneuthur barn â’i was, a barn â’i bobl Israel beunydd, fel y byddo’r achos: 60 Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr Arglwydd sydd Dduw, ac nad oes arall. 61 Bydded gan hynny eich calon yn berffaith gyda’r Arglwydd ein Duw ni, i rodio yn ei ddeddfau ef, ac i gadw ei orchmynion ef, fel heddiw.
62 A’r brenin a holl Israel gydag ef a aberthasant aberth gerbron yr Arglwydd. 63 A Solomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymodd efe i’r Arglwydd, sef dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech ugain mil o ddefaid. Felly y brenin a holl feibion Israel a gysegrasant dŷ yr Arglwydd. 64 Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr Arglwydd: canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau, a’r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd: oherwydd yr allor bres, yr hon oedd gerbron yr Arglwydd, oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau, a’r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd. 65 A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw ŵyl, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft, gerbron yr Arglwydd ein Duw, saith o ddyddiau a saith o ddyddiau, sef pedwar diwrnod ar ddeg. 66 A’r wythfed dydd y gollyngodd efe ymaith y bobl: a hwy a fendithiasant y brenin, ac a aethant i’w pebyll yn hyfryd ac â chalon lawen, am yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Dafydd ei was, ac i Israel ei bobl.
9 A phan orffennodd Solomon adeiladu tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, a chwbl o ddymuniad Solomon yr hyn a ewyllysiodd efe ei wneuthur; 2 Yr Arglwydd a ymddangosodd i Solomon yr ail waith, fel yr ymddangosasai iddo yn Gibeon. 3 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi di a’th ddeisyfiad di, yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i: cysegrais y tŷ yma a adeiledaist, i osod fy enw ynddo byth; fy llygaid hefyd a’m calon fydd yno yn wastadol. 4 Ac os rhodi di ger fy mron i, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, mewn perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti, ac os cedwi fy neddfau a’m barnedigaethau: 5 Yna mi a sicrhaf orseddfainc dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd, fel y lleferais wrth Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni phalla i ti ŵr ar orseddfainc Israel. 6 Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a’ch meibion oddi ar fy ôl i, ac heb gadw fy ngorchmynion a’m deddfau, y rhai a roddais o’ch blaen chwi, eithr myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy: 7 Yna y torraf Israel oddi ar wyneb y tir a roddais iddynt hwy; a’r tŷ hwn a gysegrais i’m henw, a fwriaf allan o’m golwg; ac Israel fydd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd: 8 A’r tŷ uchel hwn, pawb a gyniweiro heibio iddo, a synna wrtho, ac a chwibana; dywedant hefyd, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r wlad hon, ac i’r tŷ yma? 9 A hwy a ddywedant, Am iddynt wrthod yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft, ac ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a’u gwasanaethu hwynt; am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy yr holl ddrwg hyn.
10 Ac ymhen yr ugain mlynedd, wedi adeiladu o Solomon y ddau dŷ, sef tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, 11 (Am i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Solomon goed cedr, a choed ffynidwydd, ac aur, yn ôl ei holl ewyllys ef,) y brenin Solomon a roddes i Hiram ugain dinas yng ngwlad Galilea. 12 A Hiram a ddaeth o Tyrus i edrych y dinasoedd a roddasai Solomon iddo ef; ac nid oeddynt wrth ei fodd ef. 13 Ac efe a ddywedodd, Pa ddinasoedd yw y rhai hyn a roddaist i mi, fy mrawd? Ac efe a’u galwodd hwynt Gwlad Cabul, hyd y dydd hwn. 14 A Hiram a anfonodd i’r brenin chwech ugain talent o aur.
15 A dyma swm y dreth a gododd y brenin Solomon, i adeiladu tŷ yr Arglwydd, a’i dŷ ei hun, a Milo, a mur Jerwsalem, Hasor, a Megido, a Geser. 16 Pharo brenin yr Aifft a aethai i fyny, ac a enillasai Geser, ac a’i llosgasai hi â thân, ac a laddasai y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas, ac a’i rhoddasai hi yn anrheg i’w ferch, gwraig Solomon. 17 A Solomon a adeiladodd Geser, a Beth‐horon isaf, 18 A Baalath, a Thadmor yn yr anialwch, o fewn y wlad, 19 A holl ddinasoedd y trysorau y rhai oedd gan Solomon, a dinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y gwŷr meirch, a’r hyn oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei lywodraeth. 20 Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid, a’r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o feibion Israel; 21 Sef eu meibion hwy, y rhai a adawsid ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni allodd meibion Israel eu lladd; ar y rhai hynny y cyfododd Solomon dreth wrogaeth hyd y dydd hwn. 22 Ond o feibion Israel ni wnaeth Solomon un yn gaethwas: rhyfelwyr iddo ef oeddynt, a gweision iddo, a thywysogion iddo, a chapteiniaid iddo, a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch. 23 Y rhai hyn oedd bennaf ar y swyddogion oedd ar waith Solomon, pum cant a deg a deugain, oedd yn llywodraethu y bobl oedd yn gweithio yn y gwaith.
24 A merch Pharo a ddaeth i fyny o ddinas Dafydd i’w thŷ ei hun, yr hwn a adeiladasai Solomon iddi hi: yna efe a adeiladodd Milo.
25 A thair gwaith yn y flwyddyn yr offrymai Solomon boethoffrymau ac offrymau hedd ar yr allor a adeiladasai efe i’r Arglwydd: ac efe a arogldarthodd ar yr allor oedd gerbron yr Arglwydd. Felly efe a orffennodd y tŷ.
26 A’r brenin Solomon a wnaeth longau yn Esion‐gaber, yr hon sydd wrth Eloth, ar fin y môr coch, yng ngwlad Edom. 27 A Hiram a anfonodd ei weision yn y llongau, y rhai oedd longwyr yn medru oddi wrth y môr, gyda gweision Solomon. 28 A hwy a ddaethant i Offir, ac a ddygasant oddi yno bedwar cant ac ugain o dalentau aur, ac a’u dygasant at y brenin Solomon.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.