Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Historical

Read the books of the Bible as they were written historically, according to the estimated date of their writing.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Samuel 14-15

14 Yna Joab mab Serfia a wybu fod calon y brenin tuag at Absalom. A Joab a anfonodd i Tecoa, ac a gyrchodd oddi yno wraig ddoeth, ac a ddywedodd wrthi, Cymer arnat, atolwg, alaru, a gwisg yn awr alarwisg, ac nac ymira ag olew, eithr bydd fel gwraig yn galaru er ys llawer o ddyddiau am y marw: A thyred at y brenin, a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn. A Joab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi.

A’r wraig o Tecoa, pan ddywedodd wrth y brenin, a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Cynorthwya, O frenin. A dywedodd y brenin wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? A hi a ddywedodd, Yn wir gwraig weddw ydwyf fi, a’m gŵr a fu farw. Ac i’th lawforwyn yr oedd dau fab, a hwynt ill dau a ymrysonasant yn y maes; ond nid oedd athrywynwr rhyngddynt hwy; ond y naill a drawodd y llall, ac a’i lladdodd ef. Ac wele, yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, Dyro yr hwn a drawodd ei frawd, fel y lladdom ni ef, am einioes ei frawd a laddodd efe; ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adael i’m gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear. A’r brenin a ddywedodd wrth y wraig, Dos i’th dŷ; a mi a roddaf orchymyn o’th blegid di. A’r wraig o Tecoa a ddywedodd wrth y brenin, Bydded y camwedd hwn arnaf fi, fy arglwydd frenin, ac ar dŷ fy nhad i, a’r brenin a’i orseddfainc ef yn ddieuog. 10 A’r brenin a ddywedodd, Dwg ataf fi yr hwn a yngano wrthyt, ac ni chaiff mwyach gyffwrdd â thi. 11 Yna hi a ddywedodd, Cofied, atolwg, y brenin dy Arglwydd Dduw, rhag amlhau dialwyr y gwaed i ddistrywio, a rhag difetha ohonynt hwy fy mab i. Ac efe a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni syrth un o wallt pen dy fab di i lawr. 12 Yna y dywedodd y wraig, Atolwg, gad i’th lawforwyn ddywedyd gair wrth fy arglwydd frenin. Yntau a ddywedodd, Dywed. 13 A’r wraig a ddywedodd, Paham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl Dduw? canys y mae’r brenin yn llefaru y gair hwn megis un beius, gan na ddug y brenin adref ei herwr. 14 Canys gan farw yr ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir: gan na ddug Duw ei einioes, efe a feddyliodd foddion, fel na yrrer ymaith ei herwr oddi wrtho. 15 Ac yn awr mi a ddeuthum i ymddiddan â’m harglwydd frenin am y peth hyn, oblegid i’r bobl fy nychrynu i: am hynny y dywedodd dy lawforwyn, Ymddiddanaf yn awr â’r brenin; ond odid fe a wna y brenin ddymuniad ei lawforwyn. 16 Canys y brenin a wrendy, fel y gwaredo efe ei lawforwyn o law y gŵr a fynnai fy nifetha i a’m mab hefyd o etifeddiaeth Dduw. 17 A’th lawforwyn a ddywedodd, Bydded, atolwg, gair fy arglwydd frenin yn gysur: canys fel angel Duw yw fy Arglwydd frenin, i wrando’r da a’r drwg: a’r Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi. 18 Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd wrth y wraig, Na chela, atolwg, oddi wrthyf fi y peth yr ydwyf yn ei ofyn i ti. A dywedodd y wraig, Llefared yn awr fy arglwydd frenin. 19 A’r brenin a ddywedodd, A ydyw llaw Joab gyda thi yn hyn oll? A’r wraig a atebodd ac a ddywedodd, Fel mai byw dy enaid di, fy arglwydd frenin, nid gwiw troi ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin: canys dy was Joab a orchmynnodd i mi, ac a osododd yr holl eiriau hyn yng ngenau dy lawforwyn: 20 Ar fedr troi’r chwedl y gwnaeth dy was Joab y peth hyn: ond fy arglwydd sydd ddoeth, fel doethineb angel Duw, i wybod yr hyn oll sydd ar y ddaear.

21 A’r brenin a ddywedodd wrth Joab, Wele yn awr, gwneuthum y peth hyn: dos, a dwg y llanc Absalom yn ei ôl. 22 A Joab a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd, ac a fendithiodd y brenin. A Joab a ddywedodd, Heddiw y gwybu dy was di gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin, am i’r brenin gyflawni dymuniad ei was. 23 A Joab a gyfododd, ac a aeth i Gesur, ac a ddug Absalom i Jerwsalem. 24 A’r brenin a ddywedodd, Troed i’w dŷ ei hun; ac nac edryched yn fy wyneb i. Felly Absalom a drodd i’w dŷ ei hun, ac ni welodd wyneb y brenin.

25 Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel: o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef. 26 A phan gneifiai efe ei ben, (canys un waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt: oherwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe a’i torrai ef;) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sicl, wrth bwys y brenin. 27 A thri mab a anwyd i Absalom, ac un ferch, a’i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig deg yr olwg.

28 Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem, ac ni welodd wyneb y brenin. 29 Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, i’w anfon ef at y brenin; ond ni ddeuai efe ato ef: ac efe a anfonodd eto yr ail waith, ond ni ddeuai efe ddim. 30 Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision, Gwelwch randir Joab ger fy llaw i, a haidd sydd ganddo ef yno; ewch a llosgwch hi â thân. A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân. 31 Yna Joab a gyfododd, ac a ddaeth at Absalom i’w dŷ, ac a ddywedodd wrtho, Paham y llosgodd dy weision di fy rhandir i â thân? 32 Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, Wele, mi a anfonais atat ti, gan ddywedyd, Tyred yma, fel y’th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, I ba beth y deuthum i o Gesur? gwell fuasai i mi fy mod yno eto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin; ac od oes gamwedd ynof, lladded fi. 33 Yna Joab a ddaeth at y brenin, ac a fynegodd iddo ef. Ac efe a alwodd am Absalom. Yntau a ddaeth at y brenin, ac a ymgrymodd iddo i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin. A’r brenin a gusanodd Absalom.

15 Ac wedi hyn y paratôdd Absalom iddo ei hun gerbydau, a meirch, a dengwr a deugain i redeg o’i flaen. Ac Absalom a gyfodai yn fore, ac a safai gerllaw ffordd y porth: ac Absalom a alwai ato bob gŵr yr oedd iddo fater i ddyfod at y brenin am farn, ac a ddywedai, O ba ddinas yr ydwyt ti? Yntau a ddywedai, O un o lwythau Israel y mae dy was. Ac Absalom a ddywedai wrtho ef, Wele, y mae dy faterion yn dda, ac yn uniawn; ond nid oes neb dan y brenin a wrandawo arnat ti. Dywedai Absalom hefyd, O na’m gosodid i yn farnwr yn y wlad, fel y delai ataf fi bob gŵr a fyddai ganddo hawl neu gyngaws; myfi a wnawn gyfiawnder iddo! A phan nesâi neb i ymgrymu iddo ef, efe a estynnai ei law, ac a ymaflai ynddo ef, ac a’i cusanai. Ac fel hyn y gwnâi Absalom i holl Israel y rhai a ddeuent am farn at y brenin. Felly Absalom a ladrataodd galon holl wŷr Israel.

Ac ymhen deugain mlynedd y dywedodd Absalom wrth y brenin, Gad i mi fyned, atolwg, a thalu fy adduned a addunedais i’r Arglwydd, yn Hebron. Canys dy was a addunedodd adduned, pan oeddwn i yn aros o fewn Gesur yn Syria, gan ddywedyd, Os gan ddychwelyd y dychwel yr Arglwydd fi i Jerwsalem, yna y gwasanaethaf yr Arglwydd. A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Dos mewn heddwch. Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Hebron.

10 Eithr Absalom a anfonodd ysbïwyr trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Pan glywoch lais yr utgorn, yna dywedwch, Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron. 11 A dau cant o wŷr a aethant gydag Absalom o Jerwsalem, ar wahodd; ac yr oeddynt yn myned yn eu gwiriondeb, ac heb wybod dim oll. 12 Ac Absalom a anfonodd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorwr Dafydd, o’i ddinas, o Gilo, tra oedd efe yn offrymu aberthau. A’r cydfradwriaeth oedd gryf; a’r bobl oedd yn amlhau gydag Absalom yn wastadol.

13 A daeth cennad at Dafydd, gan ddywedyd, Y mae calon gwŷr Israel ar ôl Absalom. 14 A dywedodd Dafydd wrth ei holl weision y rhai oedd gydag ef yn Jerwsalem, Cyfodwch, a ffown; canys ni ddihangwn ni gan Absalom: brysiwch i fyned; rhag iddo ef frysio a’n dala ni, a dwyn drwg arnom ni, a tharo’r ddinas â min y cleddyf. 15 A gweision y brenin a ddywedasant wrth y brenin, Wele dy weision yn barod, ar ôl yr hyn oll a ddewiso fy arglwydd frenin. 16 A’r brenin a aeth, a’i holl dylwyth ar ei ôl. A’r brenin a adawodd ddeg o ordderchwragedd i gadw y tŷ. 17 A’r brenin a aeth ymaith, a’r holl bobl ar ei ôl; a hwy a arosasant mewn lle o hirbell. 18 A’i holl weision ef oedd yn cerdded ger ei law ef: yr holl Gerethiaid, a’r holl Belethiaid, a’r holl Gethiaid, y chwe channwr a ddaethai ar ei ôl ef o Gath, oedd yn cerdded o flaen y brenin.

19 Yna y dywedodd y brenin wrth Ittai y Gethiad, Paham yr ei di hefyd gyda ni? Dychwel, a thrig gyda’r brenin: canys alltud ydwyt ti, a dieithr hefyd allan o’th fro dy hun. 20 Doe y daethost ti; a fudwn i di heddiw i fyned gyda ni? Myfi a af: dychwel di, a dwg dy frodyr gyda thi: trugaredd a gwirionedd fyddo gyda thi. 21 Ac Ittai a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw fy arglwydd frenin, yn ddiau yn y lle y byddo fy arglwydd frenin ynddo, pa un bynnag ai mewn angau ai mewn einioes, yno y bydd dy was hefyd. 22 A Dafydd a ddywedodd wrth Ittai, Dos, a cherdda drosodd. Ac Ittai y Gethiad a aeth drosodd, a’i holl wŷr, a’r holl blant oedd gydag ef. 23 A’r holl wlad oedd yn wylofain â llef uchel; a’r holl bobl a aethant drosodd. A’r brenin a aeth dros afon Cidron, a’r holl bobl a aeth drosodd, tua ffordd yr anialwch.

24 Ac wele Sadoc, a’r holl Lefiaid oedd gydag ef, yn dwyn arch cyfamod Duw; a hwy a osodasant i lawr arch Duw: ac Abiathar a aeth i fyny, nes darfod i’r holl bobl ddyfod allan o’r ddinas. 25 A dywedodd y brenin wrth Sadoc, Dychwel ag arch Duw i’r ddinas: os caf fi ffafr yng ngolwg yr Arglwydd, efe a’m dwg eilwaith, ac a bair i mi ei gweled hi, a’i babell. 26 Ond os fel hyn y dywed efe; Nid wyf fodlon i ti; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg. 27 A’r brenin a ddywedodd wrth Sadoc yr offeiriad, Onid gweledydd ydwyt ti? dychwel i’r ddinas mewn heddwch, a’th ddau fab gyda thi, sef Ahimaas dy fab, a Jonathan mab Abiathar. 28 Gwelwch, mi a drigaf yng ngwastadedd yr anialwch, nes dyfod gair oddi wrthych i’w fynegi i mi. 29 Felly Sadoc ac Abiathar a ddygasant yn ei hôl arch Duw i Jerwsalem; ac a arosasant yno.

30 A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo, a’i ben wedi ei orchuddio, ac yr oedd efe yn myned yn droednoeth. A’r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben, ac a aethant i fyny, gan fyned ac wylo.

31 A mynegwyd i Dafydd, gan ddywedyd, Y mae Ahitoffel ymysg y cydfwriadwyr gydag Absalom. A Dafydd a ddywedodd, O Arglwydd, tro, atolwg, gyngor Ahitoffel yn ffolineb.

32 A phan ddaeth Dafydd i ben y bryn yr addolodd efe Dduw ynddo, wele Husai yr Arciad yn ei gyfarfod ef, wedi rhwygo ei bais, a phridd ar ei ben. 33 A Dafydd a ddywedodd wrtho, Od ei drosodd gyda mi, ti a fyddi yn faich arnaf: 34 Ond os dychweli i’r ddinas, a dywedyd wrth Absalom, Dy was di, O frenin, fyddaf fi; gwas dy dad fûm hyd yn hyn, ac yn awr dy was dithau fyddaf: ac felly y diddymi i mi gyngor Ahitoffel. 35 Oni bydd gyda thi yno Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid? am hynny pob gair a glywych o dŷ y brenin, mynega i Sadoc ac i Abiathar yr offeiriaid. 36 Wele, y mae yno gyda hwynt eu dau fab, Ahimaas mab Sadoc, a Jonathan mab Abiathar: danfonwch gan hynny gyda hwynt ataf fi bob peth a’r a glywoch. 37 Felly Husai, cyfaill Dafydd, a ddaeth i’r ddinas; ac Absalom a ddaeth i Jerwsalem.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.