Historical
11 Ac wedi pen y flwyddyn, yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, danfonodd Dafydd Joab a’i weision gydag ef, a holl Israel; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabba: ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem.
2 A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen tŷ y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu wraig yn ymolchi; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg. 3 A Dafydd a anfonodd ac a ymofynnodd am y wraig: ac un a ddywedodd, Onid hon yw Bathseba merch Elïam, gwraig Ureias yr Hethiad? 4 A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a’i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac efe a orweddodd gyda hi: ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid: a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun. 5 A’r wraig a feichiogodd, ac a anfonodd ac a fynegodd i Dafydd, ac a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn feichiog.
6 A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywedyd, Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad. A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd. 7 A phan ddaeth Ureias ato ef, Dafydd a ymofynnodd am lwyddiant Joab, ac am lwyddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel. 8 Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias, Dos i waered i’th dŷ, a golch dy draed. Ac Ureias a aeth allan o dŷ y brenin, a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef. 9 Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws tŷ y brenin gyda holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun. 10 Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i’w dŷ ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun? 11 A dywedodd Ureias wrth Dafydd, Yr arch, ac Israel hefyd, a Jwda, sydd yn aros mewn pebyll; a Joab fy arglwydd, a gweision fy arglwydd, sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes: a af fi gan hynny i’m tŷ fy hun, i fwyta, ac i yfed, ac i orwedd gyda’m gwraig? fel mai byw di, ac fel mai byw dy enaid di, ni wnaf y peth hyn. 12 A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Aros yma eto heddiw, ac yfory y’th ollyngaf di. Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth. 13 A Dafydd a’i galwodd ef, i fwyta ac i yfed ger ei fron ef, ac a’i meddwodd ef: ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun.
14 A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias. 15 Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef, fel y trawer ef, ac y byddo marw. 16 A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo. 17 A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant â Joab: a syrthiodd rhai o’r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
18 Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel: 19 Ac a orchmynnodd i’r gennad, gan ddywedyd, Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin: 20 Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin, ac os dywed wrthyt, Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer? 21 Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur, fel y bu efe farw yn Thebes? paham y nesasoch at y mur? yna y dywedi, Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
22 Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o’i blegid. 23 A’r gennad a ddywedodd wrth Dafydd, Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni, ac a ddaethant atom ni i’r maes, a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth. 24 A’r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mur; a rhai o weision y brenin a fuant feirw; a’th was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. 25 Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad, Fel hyn y dywedi di wrth Joab; Na fydded hyn ddrwg yn dy olwg di: canys y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf: cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas, a distrywiwch hi; a chysura dithau ef.
26 A phan glybu gwraig Ureias farw Ureias ei gŵr, hi a alarodd am ei phriod. 27 A phan aeth y galar heibio, Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd hi i’w dŷ, i fod iddo yn wraig; a hi a ymddûg iddo fab. A drwg yng ngolwg yr Arglwydd oedd y peth a wnaethai Dafydd.
12 A’r Arglwydd a anfonodd Nathan at Dafydd. Ac efe a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Dau ŵr oedd yn yr un ddinas; y naill yn gyfoethog, a’r llall yn dlawd. 2 Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawn o ddefaid a gwartheg: 3 A chan y tlawd nid oedd dim ond un oenig fechan, yr hon a brynasai efe, ac a fagasai; a hi a gynyddasai gydag ef, a chyda’i blant: o’i damaid ef y bwytâi hi, ac o’i gwpan ef yr yfai hi, ac yn ei fynwes ef y gorweddai hi, ac yr oedd hi iddo megis merch. 4 Ac ymdeithydd a ddaeth at y gŵr cyfoethog; ond efe a arbedodd gymryd o’i ddefaid ei hun, ac o’i wartheg ei hun, i arlwyo i’r ymdeithydd a ddaethai ato; ond efe a gymerth oenig y gŵr tlawd, ac a’i paratôdd i’r gŵr a ddaethai ato. 5 A digofaint Dafydd a enynnodd yn ddirfawr wrth y gŵr; ac efe a ddywedodd wrth Nathan, Fel mai byw yr Arglwydd, euog o farwolaeth yw y gŵr a wnaeth hyn. 6 A’r oenig a dâl efe adref yn bedwar dyblyg; oherwydd iddo wneuthur y peth hyn, ac nad arbedodd.
7 A dywedodd Nathan wrth Dafydd, Ti yw y gŵr. Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Myfi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a’th waredais di o law Saul: 8 Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes, a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda; a phe rhy fychan fuasai hynny, myfi a roddaswn i ti fwy o lawer. 9 Paham y dirmygaist air yr Arglwydd, i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Ureias yr Hethiad a drewaist ti â’r cleddyf, a’i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig, a thi a’i lleddaist ef â chleddyf meibion Ammon. 10 Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf â’th dŷ di byth; oherwydd i ti fy nirmygu i, a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti. 11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, myfi a gyfodaf i’th erbyn ddrwg o’th dŷ dy hun, a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid, ac a’u rhoddaf hwynt i’th gymydog, ac efe a orwedd gyda’th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn. 12 Er i ti wneuthur mewn dirgelwch; eto myfi a wnaf y peth hyn gerbron holl Israel, a cherbron yr haul. 13 A dywedodd Dafydd wrth Nathan, Pechais yn erbyn yr Arglwydd. A Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Yr Arglwydd hefyd a dynnodd ymaith dy bechod di: ni byddi di marw. 14 Eto, oherwydd i ti beri i elynion yr Arglwydd gablu trwy y peth hyn, y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau.
15 A Nathan a aeth i’w dŷ. A’r Arglwydd a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd; ac efe a aeth yn glaf iawn. 16 Dafydd am hynny a ymbiliodd â Duw dros y bachgen; a Dafydd a ymprydiodd ympryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos. 17 A henuriaid ei dŷ ef a gyfodasant ato ef, i beri iddo godi oddi ar y ddaear: ond ni fynnai efe, ac ni fwytâi fara gyda hwynt. 18 Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasant, Wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawai ar ein llais, pa fodd gan hynny yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn? 19 Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, A fu farw y plentyn? A hwy a ddywedasant, Efe a fu farw. 20 Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ yr Arglwydd, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe i’w dŷ ei hun; ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd. 21 Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef, Pa beth yw hyn a wnaethost ti? dros y plentyn byw yr ymprydiaist, ac yr wylaist; ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara. 22 Ac efe a ddywedodd, Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw, yr ymprydiais ac yr wylais: canys mi a ddywedais, Pwy a ŵyr a drugarha yr Arglwydd wrthyf, fel y byddo byw y plentyn? 23 Ond yn awr efe fu farw, i ba beth yr ymprydiwn? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach? myfi a af ato ef, ond ni ddychwel efe ataf fi.
24 A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn ati hi, ac a orweddodd gyda hi: a hi a ymddûg fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A’r Arglwydd a’i carodd ef. 25 Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr Arglwydd.
26 A Joab a ymladdodd yn erbyn Rabba meibion Ammon, ac a enillodd y frenhinol ddinas. 27 A Joab a anfonodd genhadau at Dafydd, ac a ddywedodd, Rhyfelais yn erbyn Rabba, ac a enillais ddinas y dyfroedd. 28 Yn awr gan hynny casgl weddill y bobl, a gwersylla yn erbyn y ddinas, ac ennill hi; rhag i mi ennill y ddinas, a galw fy enw i arni hi. 29 A Dafydd a gasglodd yr holl bobl, ac a aeth i Rabba, ac a ymladdodd yn ei herbyn, ac a’i henillodd hi. 30 Ac efe a gymerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben; a’i phwys hi oedd dalent o aur, gyda’r maen gwerthfawr: a hi a osodwyd ar ben Dafydd. Ac efe a ddug ymaith o’r ddinas anrhaith fawr iawn. 31 Ac efe a ddug ymaith y bobl oedd ynddi, ac a’u gosododd dan lifiau, a than ogau heyrn, a than fwyeill heyrn, ac a’u bwriodd hwynt i’r odynau calch: ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meibion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem.
13 Ac ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg, a’i henw Tamar: ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi. 2 Ac yr oedd mor flin ar Amnon, fel y clafychodd efe oherwydd Tamar ei chwaer: canys gwyry oedd hi; ac anodd y gwelai Amnon wneuthur dim iddi hi. 3 Ond gan Amnon yr oedd cyfaill, a’i enw Jonadab, mab Simea, brawd Dafydd: a Jonadab oedd ŵr call iawn. 4 Ac efe a ddywedodd wrtho ef, Ti fab y brenin, paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd? oni fynegi di i mi? Ac Amnon a ddywedodd wrtho ef, Caru yr ydwyf fi Tamar, chwaer Absalom fy mrawd. 5 A Jonadab a ddywedodd wrtho ef, Gorwedd ar dy wely, a chymer arnat fod yn glaf: a phan ddelo dy dad i’th edrych, dywed wrtho ef, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i roddi bwyd i mi, ac i arlwyo’r bwyd yn fy ngolwg, fel y gwelwyf, ac y bwytawyf o’i llaw hi.
6 Felly Amnon a orweddodd, ac a gymerth arno fod yn glaf. A’r brenin a ddaeth i’w edrych ef; ac Amnon a ddywedodd wrth y brenin, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i grasu dwy deisen yn fy ngolwg i, fel y bwytawyf o’i llaw hi. 7 Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar, gan ddywedyd, Dos yn awr i dŷ Amnon dy frawd, a pharatoa fwyd iddo. 8 Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd; ac efe oedd yn gorwedd: a hi a gymerth beilliaid, ac a’i tylinodd, ac a wnaeth deisennau yn ei ŵydd ef, ac a grasodd y teisennau. 9 A hi a gymerth badell, ac a’u tywalltodd hwynt ger ei fron ef: ond efe a wrthododd fwyta. Ac Amnon a ddywedodd, Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi. A phawb a aethant allan oddi wrtho ef. 10 Yna Amnon a ddywedodd wrth Tamar, Dwg y bwyd i’r ystafell, fel y bwytawyf o’th law di. A Thamar a gymerth y teisennau a wnaethai hi, ac a’u dug at Amnon ei brawd i’r ystafell. 11 A phan ddug hi hwynt ato ef i fwyta, efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddywedodd wrthi hi, Tyred, gorwedd gyda mi, fy chwaer. 12 A hi a ddywedodd wrtho, Paid, fy mrawd; na threisia fi: canys ni wneir fel hyn yn Israel: na wna di yr ynfydrwydd hyn. 13 A minnau, i ba le y bwriaf ymaith fy ngwarth? a thi a fyddi fel un o’r ynfydion yn Israel. Yn awr, gan hynny, ymddiddan, atolwg, â’r brenin: canys ni omedd efe fi i ti. 14 Ond ni fynnai efe wrando ar ei llais hi; eithr efe a fu drech na hi, ac a’i treisiodd, ac a orweddodd gyda hi.
15 Yna Amnon a’i casaodd hi â chas mawr iawn: canys mwy oedd y cas â’r hwn y casasai efe hi, na’r cariad â’r hwn y carasai efe hi. Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, Cyfod, dos ymaith. 16 A hi a ddywedodd wrtho ef, Nid oes achos: y drygioni hwn, sef fy ngyrru ymaith, sydd fwy na’r llall a wnaethost â mi. Ond ni wrandawai efe arni hi. 17 Eithr efe a alwodd ar ei lanc, ei weinidog, ac a ddywedodd, Gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthyf fi; a chloa’r drws ar ei hôl hi. 18 Ac amdani hi yr oedd mantell symudliw: canys â’r cyfryw fentyll y dilledid merched y brenin, y rhai oedd forynion. Yna ei weinidog ef a’i dug hi allan, ac a glodd y drws ar ei hôl hi.
19 A Thamar a gymerodd ludw ar ei phen, ac a rwygodd y fantell symudliw oedd amdani, ac a osododd ei llaw ar ei phen, ac a aeth ymaith dan weiddi. 20 Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi, Ai Amnon dy frawd a fu gyda thi? er hynny yn awr taw â sôn, fy chwaer: dy frawd di yw efe; na osod dy galon ar y peth hyn. Felly Tamar a drigodd yn amddifad yn nhŷ Absalom ei brawd.
21 Ond pan glybu’r brenin Dafydd yr holl bethau hynny, efe a ddigiodd yn aruthr. 22 Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da: canys Absalom a gasaodd Amnon, oherwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef.
23 Ac ar ôl dwy flynedd o ddyddiau, yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yn Baal‐hasor, yr hwn sydd wrth Effraim: ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenin. 24 Ac Absalom a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Wele yn awr rai yn cneifio i’th was di; deued, atolwg, y brenin a’i weision gyda’th was. 25 A dywedodd y brenin wrth Absalom, Nage, fy mab, ni ddeuwn ni i gyd yn awr; rhag i ni ormesu arnat ti. Ac efe a fu daer arno: ond ni fynnai efe fyned; eithr efe a’i bendithiodd ef. 26 Yna y dywedodd Absalom, Oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyda ni? A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, I ba beth yr â efe gyda thi? 27 Eto Absalom a fu daer arno, fel y gollyngodd efe Amnon gydag ef, a holl feibion y brenin.
28 Ac Absalom a orchmynnodd i’w lanciau, gan ddywedyd, Edrychwch, atolwg, pan fyddo llawen calon Amnon gan win, a phan ddywedwyf wrthych, Trewch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion. 29 A llanciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchmynasai Absalom. A holl feibion y brenin a gyfodasant, a phob un a farchogodd ar ei ful, ac a ffoesant.
30 A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Dafydd, gan ddywedyd, Absalom a laddodd holl feibion y brenin, ac ni adawyd un ohonynt. 31 Yna y brenin a gyfododd, ac a rwygodd ei ddillad, ac a orweddodd ar y ddaear; a’i holl weision oedd yn sefyll gerllaw, â’u gwisgoedd yn rhwygedig. 32 A Jonadab mab Simea, brawd Dafydd, a atebodd ac a ddywedodd, Na thybied fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl lanciau, sef meibion y brenin; canys Amnon yn unig a fu farw: canys yr oedd ym mryd Absalom hynny, er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef. 33 Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenin y peth at ei galon, gan dybied farw holl feibion y brenin: canys Amnon yn unig a fu farw. 34 Ond Absalom a ffodd. A’r llanc yr hwn oedd yn gwylio a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele bobl lawer yn dyfod ar hyd y ffordd o’i ôl ef, ar hyd ystlys y mynydd. 35 A Jonadab a ddywedodd wrth y brenin, Wele feibion y brenin yn dyfod: fel y dywedodd dy was, felly y mae. 36 A phan orffenasai efe ymddiddan, wele, meibion y brenin a ddaethant, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. A’r brenin hefyd a’i holl weision a wylasant ag wylofain mawr iawn.
37 Ac Absalom a ffodd, ac a aeth at Talmai mab Ammihud brenin Gesur: a Dafydd a alarodd am ei fab bob dydd. 38 Ond Absalom a ffodd, ac a aeth i Gesur; ac yno y bu efe dair blynedd. 39 Ac enaid Dafydd y brenin a hiraethodd am fyned at Absalom: canys efe a gysurasid am Amnon, gan ei farw efe.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.