Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Historical

Read the books of the Bible as they were written historically, according to the estimated date of their writing.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Actau 11-13

11 A’r apostolion a’r brodyr oedd yn Jwdea, a glywsant ddarfod i’r Cenhedloedd hefyd dderbyn gair Duw. A phan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, y rhai o’r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef, Gan ddywedyd, Ti a aethost i mewn at wŷr dienwaededig, ac a fwyteaist gyda hwynt. Eithr Pedr a ddechreuodd, ac a eglurodd y peth iddynt mewn trefn, gan ddywedyd, Yr oeddwn i yn ninas Jopa yn gweddïo; ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth, Rhyw lestr megis llenlliain fawr yn disgyn, wedi ei gollwng o’r nef erbyn ei phedair congl; a hi a ddaeth hyd ataf fi. Ar yr hon pan edrychais, yr ystyriais, ac mi a welais bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef. Ac mi a glywais lef yn dywedyd wrthyf, Cyfod, Pedr; lladd, a bwyta. Ac mi a ddywedais, Nid felly, Arglwydd: canys dim cyffredin neu aflan nid aeth un amser i’m genau. Eithr y llais a’m hatebodd i eilwaith o’r nef, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin. 10 A hyn a wnaed dair gwaith: a’r holl bethau a dynnwyd i fyny i’r nef drachefn. 11 Ac wele, yn y man yr oedd tri wŷr yn sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo, wedi eu hanfon o Cesarea ataf fi. 12 A’r Ysbryd a archodd i mi fyned gyda hwynt, heb amau dim. A’r chwe brodyr hyn a ddaethant gyda mi; a nyni a ddaethom i mewn i dŷ y gŵr. 13 Ac efe a fynegodd i ni pa fodd y gwelsai efe angel yn ei dŷ, yn sefyll ac yn dywedyd wrtho, Anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, a gyfenwir Pedr: 14 Yr hwn a lefara eiriau wrthyt, trwy y rhai y’th iacheir di a’th holl dŷ. 15 Ac a myfi yn dechrau llefaru, syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt, megis arnom ninnau yn y dechreuad. 16 Yna y cofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedasai efe, Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; eithr chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân. 17 Os rhoddes Duw gan hynny iddynt hwy gyffelyb rodd ag i ninnau, y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw? 18 A phan glywsant y pethau hyn, distawu a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Fe roddes Duw, gan hynny i’r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd.

19 A’r rhai a wasgarasid oherwydd y blinder a godasai ynghylch Steffan, a dramwyasant hyd yn Phenice, a Cyprus, ac Antiochia, heb lefaru’r gair wrth neb ond wrth yr Iddewon yn unig. 20 A rhai ohonynt oedd wŷr o Cyprus ac o Cyrene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu. 21 A llaw yr Arglwydd oedd gyda hwynt: a nifer mawr a gredodd, ac a drodd at yr Arglwydd.

22 A’r gair a ddaeth i glustiau yr eglwys oedd yn Jerwsalem am y pethau hyn: a hwy a anfonasant Barnabas i fyned hyd Antiochia. 23 Yr hwn pan ddaeth, a gweled gras Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyrfryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd. 24 Oblegid yr oedd efe yn ŵr da, ac yn llawn o’r Ysbryd Glân, ac o ffydd: a llawer o bobl a chwanegwyd i’r Arglwydd. 25 Yna yr aeth Barnabas i Darsus, i geisio Saul. Ac wedi iddo ei gael, efe a’i dug i Antiochia. 26 A bu iddynt flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr eglwys, a dysgu pobl lawer; a bod galw y disgyblion yn Gristionogion yn gyntaf yn Antiochia.

27 Ac yn y dyddiau hynny daeth proffwydi o Jerwsalem i waered i Antiochia. 28 Ac un ohonynt, a’i enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocaodd trwy yr Ysbryd, y byddai newyn mawr dros yr holl fyd: yr hwn hefyd a fu dan Claudius Cesar. 29 Yna y disgyblion, bob un yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymorth i’r brodyr oedd yn preswylio yn Jwdea: 30 Yr hyn beth hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul.

12 Ac ynghylch y pryd hwnnw yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo i ddrygu rhai o’r eglwys. Ac efe a laddodd Iago brawd Ioan â’r cleddyf. A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd. (A dyddiau’r bara croyw ydoedd hi.) Yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yng ngharchar, ac a’i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i’w gadw; gan ewyllysio, ar ôl y Pasg, ei ddwyn ef allan at y bobl. Felly Pedr a gadwyd yn y carchar: eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef. A phan oedd Herod â’i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a’r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar. Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y carchar: ac efe a drawodd ystlys Pedr, ac a’i cyfododd ef, gan ddywedyd, Cyfod yn fuan. A’i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo. A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac felly y gwnaeth efe. Yna y dywedodd, Bwrw dy wisg amdanat, a chanlyn fi. Ac efe a aeth allan, ac a’i canlynodd ef: ac ni wybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr angel; eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd. 10 Ac wedi myned ohonynt heblaw y gyntaf a’r ail wyliadwriaeth, hwy a ddaethant i’r porth haearn yr hwn sydd yn arwain i’r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o’i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd un heol; ac yn ebrwydd yr angel a aeth ymaith oddi wrtho. 11 A Phedr, wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei angel, a’m gwared i allan o law Herod, ac oddi wrth holl ddisgwyliad pobl yr Iddewon. 12 Ac wedi iddo gymryd pwyll, efe a ddaeth i dŷ Mair mam Ioan, yr hwn oedd â’i gyfenw Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu, ac yn gweddïo. 13 Ac fel yr oedd Pedr yn curo drws y porth, morwyn a ddaeth i ymwrando, a’i henw Rhode. 14 A phan adnabu hi lais Pedr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd; eithr hi a redodd i mewn, ac a fynegodd fod Pedr yn sefyll o flaen y porth. 15 Hwythau a ddywedasant wrthi, Yr wyt ti’n ynfydu. Hithau a daerodd mai felly yr oedd. Eithr hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw. 16 A Phedr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agori, hwy a’i gwelsant ef, ac a synasant. 17 Ac efe a amneidiodd arnynt â llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar: ac efe a ddywedodd, Mynegwch y pethau hyn i Iago, ac i’r brodyr. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall. 18 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr, pa beth a ddaethai o Pedr. 19 Eithr Herod, pan ei ceisiodd ef, ac heb ei gael, a holodd y ceidwaid, ac a orchmynnodd eu cymryd hwy ymaith. Yntau a aeth i waered o Jwdea i Cesarea, ac a arhosodd yno.

20 Eithr Herod oedd yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon: a hwy a ddaethant yn gytûn ato; ac wedi ennill Blastus, yr hwn oedd ystafellydd y brenin, hwy a ddeisyfasant dangnefedd; am fod eu gwlad hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin. 21 Ac ar ddydd nodedig, Herod, gwedi gwisgo dillad brenhinol, a eisteddodd ar orseddfainc, ac a areithiodd wrthynt. 22 A’r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dyn ydyw. 23 Ac allan o law y trawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai’r gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.

24 A gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd. 25 A Barnabas a Saul, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, a ddychwelasant o Jerwsalem, gan gymryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc.

13 Yr oedd hefyd yn yr eglwys ydoedd yn Antiochia, rai proffwydi ac athrawon; Barnabas, a Simeon, yr hwn a elwid Niger, a Lwcius o Cyrene, a Manaen, brawdmaeth Herod y tetrarch, a Saul. Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, Neilltuwch i mi Barnabas a Saul, i’r gwaith y gelwais hwynt iddo. Yna, wedi iddynt ymprydio a gweddïo, a dodi eu dwylo arnynt, hwy a’u gollyngasant ymaith.

A hwythau, wedi eu danfon ymaith gan yr Ysbryd Glân, a ddaethant i Seleucia; ac oddi yno a fordwyasant i Cyprus. A phan oeddynt yn Salamis, hwy a bregethasant air Duw yn synagogau yr Iddewon: ac yr oedd hefyd ganddynt Ioan yn weinidog. Ac wedi iddynt dramwy trwy’r ynys hyd Paffus, hwy a gawsant ryw swynwr, gau broffwyd o Iddew, a’i enw Bar‐iesu; Yr hwn oedd gyda’r rhaglaw, Sergius Paulus, gŵr call: hwn, wedi galw ato Barnabas a Saul, a ddeisyfodd gael clywed gair Duw. Eithr Elymas y swynwr, (canys felly y cyfieithir ei enw ef,) a’u gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyrdroi’r rhaglaw oddi wrth y ffydd. Yna Saul, (yr hwn hefyd a elwir Paul,) yn llawn o’r Ysbryd Glân, a edrychodd yn graff arno ef, 10 Ac a ddywedodd, O gyflawn o bob twyll a phob ysgelerder, tydi mab diafol, a gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di â gŵyro union ffyrdd yr Arglwydd? 11 Ac yn awr wele, y mae llaw yr Arglwydd arnat ti, a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser. Ac yn ddiatreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch; ac efe a aeth oddi amgylch gan geisio rhai i’w arwain erbyn ei law. 12 Yna y rhaglaw, pan welodd yr hyn a wnaethid, a gredodd, gan ryfeddu wrth ddysgeidiaeth yr Arglwydd. 13 A Phaul a’r rhai oedd gydag ef a aethant ymaith o Paffus, ac a ddaethant i Perga yn Pamffylia: eithr Ioan a ymadawodd oddi wrthynt, ac a ddychwelodd i Jerwsalem.

14 Eithr hwynt‐hwy, wedi ymado o Perga, a ddaethant i Antiochia yn Pisidia, ac a aethant i mewn i’w synagog ar y dydd Saboth, ac a eisteddasant. 15 Ac ar ôl darllen y gyfraith a’r proffwydi, llywodraethwyr y synagog a anfonasant atynt, gan ddywedyd, Ha wŷr, frodyr, od oes gennych air o gyngor i’r bobl, traethwch. 16 Yna y cyfododd Paul i fyny, a chan amneidio â’i law am osteg, a ddywedodd, O wŷr o Israel, a’r rhai ydych yn ofni Duw, gwrandewch. 17 Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni, ac a ddyrchafodd y bobl, pan oeddynt yn ymdeithio yng ngwlad yr Aifft, ac â braich uchel y dug efe hwynt oddi yno allan. 18 Ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd efe eu harferion hwynt yn yr anialwch. 19 Ac wedi iddo ddinistrio saith genedl yn nhir Canaan, â choelbren y parthodd efe dir y rhai hynny iddynt hwy. 20 Ac wedi’r pethau hyn, dros ysbaid ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain, efe a roddes farnwyr iddynt, hyd Samuel y proffwyd. 21 Ac ar ôl hynny y dymunasant gael brenin: ac fe a roddes Duw iddynt Saul mab Cis, gŵr o lwyth Benjamin, ddeugain mlynedd. 22 Ac wedi ei ddiswyddo ef, y cyfododd efe Dafydd yn frenin iddynt; am yr hwn y tystiolaethodd, ac y dywedodd, Cefais Dafydd mab Jesse, gŵr yn ôl fy nghalon, yr hwn a gyflawna fy holl ewyllys. 23 O had hwn, Duw, yn ôl ei addewid, a gyfododd i Israel yr Iachawdwr Iesu: 24 Gwedi i Ioan ragbregethu o flaen ei ddyfodiad ef i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel. 25 Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa, efe a ddywedodd, Pwy yr ydych chwi yn tybied fy mod i? Nid myfi yw efe: eithr wele, y mae un yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn nid wyf yn deilwng i ddatod esgidiau ei draed. 26 Ha wŷr frodyr, plant o genedl Abraham, a’r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon. 27 Canys y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem, a’u tywysogion, heb adnabod hwn, a lleferydd y proffwydi y rhai a ddarllenid bob Saboth, gan ei farnu ef, a’u cyflawnasant. 28 Ac er na chawsant ynddo ddim achos angau, hwy a ddymunasant ar Peilat ei ladd ef. 29 Ac wedi iddynt gwblhau pob peth a’r a ysgrifenasid amdano ef, hwy a’i disgynasant ef oddi ar y pren, ac a’i dodasant mewn bedd. 30 Eithr Duw a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw: 31 Yr hwn a welwyd dros ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fyny gydag ef o Galilea i Jerwsalem, y rhai sydd dystion iddo wrth y bobl. 32 Ac yr ydym ni yn efengylu i chwi yr addewid a wnaed i’r tadau, ddarfod i Dduw gyflawni hon i ni eu plant hwy, gan iddo atgyfodi’r Iesu: 33 Megis ag yr ysgrifennwyd yn yr ail Salm, Fy Mab i ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais. 34 Ac am iddo ei gyfodi ef o’r meirw, nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y dywedodd fel hyn, Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd. 35 Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn Salm arall, Ni adewi i’th Sanct weled llygredigaeth. 36 Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth: 37 Eithr yr hwn a gyfododd Duw, ni welodd lygredigaeth. 38 Am hynny bydded hysbys i chwi, ha wŷr frodyr, mai trwy hwn yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant pechodau: 39 A thrwy hwn y cyfiawnheir pob un sydd yn credu, oddi wrth yr holl bethau y rhai ni allech trwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddi wrthynt. 40 Gwyliwch gan hynny na ddêl arnoch y peth a ddywedwyd yn y proffwydi; 41 Edrychwch, O ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflennwch: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith ni chredwch ddim, er i neb ei ddangos i chwi.

42 A phan aeth yr Iddewon allan o’r synagog, y Cenhedloedd a atolygasant gael pregethu’r geiriau hyn iddynt y Saboth nesaf. 43 Ac wedi gollwng y gynulleidfa, llawer o’r Iddewon ac o’r proselytiaid crefyddol a ganlynasant Paul a Barnabas; y rhai gan lefaru wrthynt, a gyngorasant iddynt aros yng ngras Duw.

44 A’r Saboth nesaf, yr holl ddinas agos a ddaeth ynghyd i wrando gair Duw. 45 Eithr yr Iddewon, pan welsant y torfeydd, a lanwyd o genfigen, ac a ddywedasant yn erbyn y pethau a ddywedid gan Paul, gan wrthddywedyd a chablu. 46 Yna Paul a Barnabas a aethant yn hy, ac a ddywedasant, Rhaid oedd llefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf: eithr oherwydd eich bod yn ei wrthod, ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, wele, yr ydym yn troi at y Cenhedloedd. 47 Canys felly y gorchmynnodd yr Arglwydd i ni, gan ddywedyd, Mi a’th osodais di yn oleuni i’r Cenhedloedd, i fod ohonot yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear. 48 A’r Cenhedloedd pan glywsant, a fu lawen ganddynt, ac a ogoneddasant air yr Arglwydd: a chynifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragwyddol, a gredasant. 49 A gair yr Arglwydd a daenwyd trwy’r holl wlad. 50 A’r Iddewon a anogasant y gwragedd crefyddol ac anrhydeddus, a phenaethiaid y ddinas, ac a godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a’u bwriasant hwy allan o’u terfynau. 51 Eithr hwy a ysgydwasant y llwch oddi wrth eu traed yn eu herbyn hwynt, ac a ddaethant i Iconium. 52 A’r disgyblion a gyflawnwyd o lawenydd, ac o’r Ysbryd Glân.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.