Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Historical

Read the books of the Bible as they were written historically, according to the estimated date of their writing.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Cronicl 9-10

A holl Israel a rifwyd wrth eu hachau, ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd.

Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r Nethiniaid. Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda, ac o feibion Benjamin, ac o feibion Effraim, a Manasse: Uthai mab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda. Ac o’r Siloniaid; Asaia y cyntaf‐anedig, a’i feibion. Ac o feibion Sera; Jeuel, a’u brodyr, chwe chant a deg a phedwar ugain. Ac o feibion Benjamin, Salu mab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua, Ibneia hefyd mab Jeroham, ac Ela mab Ussi, fab Michri, a Mesulam mab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija; A’u brodyr yn ôl eu cenedlaethau, naw cant a deg a deugain a chwech. Y dynion hyn oll oedd bennau‐cenedl ar dŷ eu tadau.

10 Ac o’r offeiriaid; Jedaia, a Jehoiarib, a Jachin, 11 Asareia hefyd mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, tywysog tŷ Dduw; 12 Adaia hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Malceia; a Maasia, mab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer. 13 A’u brodyr, pennaf ar dŷ eu tadau, yn fil a saith gant a thrigain; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ Dduw. 14 Ac o’r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari, 15 Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab Asaff; 16 Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid. 17 Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a’u brodyr; Salum ydoedd bennaf; 18 A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi oedd borthorion. 19 Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a’r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a’u tadau hwynt ar lu yr Arglwydd, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn. 20 Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o’r blaen: a’r Arglwydd ydoedd gydag ef. 21 Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod. 22 Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthorion wrth y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt‐hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd. 23 Felly hwynt a’u meibion a safent wrth byrth tŷ yr Arglwydd, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau. 24 Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau. 25 A’u brodyr, y rhai oedd yn eu trefydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o amser i amser, gyda hwynt. 26 Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ Dduw.

27 Ac o amgylch tŷ Dduw y lletyent hwy, canys arnynt hwy yr oedd yr oruchwyliaeth, ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore. 28 Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth, ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan. 29 A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y cysegr, ac ar y peilliaid, a’r gwin, a’r olew, a’r thus, a’r aroglau peraidd. 30 Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o’r aroglau peraidd. 31 A Matitheia, un o’r Lefiaid, yr hwn oedd gyntaf‐anedig Salum y Corahiad, ydoedd mewn swydd ar waith y radell. 32 Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i’w ddarparu bob Saboth. 33 A dyma y cantorion, pennau‐cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos. 34 Dyma bennau‐cenedl y Lefiaid, pennau trwy eu cenedlaethau: hwy a drigent yn Jerwsalem.

35 Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon, Jehiel; ac enw ei wraig ef oedd Maacha: 36 A’i fab cyntaf‐anedig ef oedd Abdon, yna Sur, a Chis, a Baal, a Ner, a Nadab, 37 A Gedor, ac Ahïo, a Sechareia a Micloth. 38 A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwythau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a drigasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr. 39 Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal. 40 A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha. 41 A meibion Micha oedd, Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas. 42 Ac Ahas a genhedlodd Jara, a Jara a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa: 43 A Mosa a genhedlodd Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau. 44 Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt; Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Dyma feibion Asel.

10 A’r Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel, a ffodd gwŷr Israel o flaen y Philistiaid, ac a gwympasant yn archolledig ym mynydd Gilboa. A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul, ac ar ôl ei feibion: a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malcisua, meibion Saul. A’r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul, a’r perchen bwâu a’i cawsant ef, ac efe a archollwyd gan y saethyddion. Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a gwân fi ag ef, rhag dyfod y rhai dienwaededig hyn a’m gwatwar i. Ond arweinydd ei arfau ef nis gwnâi, canys ofnodd yn ddirfawr. Yna y cymerth Saul gleddyf, ac a syrthiodd arno. A phan welodd arweinydd ei arfau ef farw o Saul, syrthiodd yntau hefyd ar y cleddyf, ac a fu farw. Felly y bu farw Saul, a’i dri mab ef, a’i holl dylwyth a fuant feirw ynghyd. A phan welodd holl wŷr Israel, y rhai oedd yn y dyffryn, ffoi ohonynt hwy, a marw Saul a’i feibion; hwy a ymadawsant o’u dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt.

A thrannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i feibion yn feirw ym mynydd Gilboa. Ac wedi iddynt ei ddiosg, hwy a gymerasant ei ben ef, a’i arfau, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch, i ddangos i’w delwau, ac i’r bobl. 10 A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ eu duwiau, a’i benglog a grogasant hwy yn nhŷ Dagon.

11 A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul, 12 Pob gŵr nerthol a godasant, ac a gymerasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, ac a’u dygasant i Jabes, ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes, ac a ymprydiasant saith niwrnod.

13 Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr Arglwydd, sef yn erbyn gair yr Arglwydd yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori â dewines, i ymofyn â hi; 14 Ac heb ymgynghori â’r Arglwydd: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y frenhiniaeth i Dafydd mab Jesse.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.