Historical
35 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2 Gosod dy wyneb, fab dyn, tuag at fynydd Seir, a phroffwyda yn ei erbyn, 3 A dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn di, mynydd Seir; estynnaf hefyd fy llaw i’th erbyn, a gwnaf di yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch. 4 Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffeithwch, a thithau a fyddi yn anghyfannedd; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd. 5 Am fod gennyt alanastra tragwyddol, a thywallt ohonot waed meibion Israel â min y cleddyf, yn amser eu gofid, yn amser diwedd eu hanwiredd hwynt: 6 Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, mi a’th wnaf di yn waed, a gwaed a’th ymlid di: gan na chasei waed, gwaed a’th ddilyn. 7 Gwnaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith ac yn ddiffeithwch; a thorraf ymaith ohono yr hwn a elo allan, a’r hwn a ddychwelo. 8 Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef â’i laddedigion: yn dy fryniau, a’th ddyffrynnoedd, a’th holl afonydd, y syrth y rhai a laddwyd â’r cleddyf. 9 Gwnaf di yn anrhaith tragwyddol, a’th ddinasoedd ni ddychwelant; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. 10 Am ddywedyd ohonot, Y ddwy genedl a’r ddwy wlad hyn fyddant eiddof fi, a nyni a’i meddiannwn; er bod yr Arglwydd yno: 11 Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, gwnaf yn ôl dy ddig, ac yn ôl dy genfigen, y rhai o’th gas yn eu herbyn hwynt a wnaethost; fel y’m hadwaener yn eu mysg hwynt, pan y’th farnwyf di. 12 A chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd, ac i mi glywed dy holl gabledd a draethaist yn erbyn mynyddoedd Israel, gan ddywedyd, Anrheithiwyd hwynt, i ni y rhoddwyd hwynt i’w difa. 13 Ymfawrygasoch hefyd â’ch geneuau yn fy erbyn i, ac amlhasoch eich geiriau i’m herbyn: mi a’u clywais. 14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan lawenycho yr holl wlad, mi a’th wnaf di yn anghyfannedd. 15 Yn ôl dy lawenydd di am feddiant tŷ Israel, oherwydd ei anrheithio, felly y gwnaf i tithau: anrhaith fyddi di, mynydd Seir, ac Edom oll i gyd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
36 Tithau fab dyn, proffwyda wrth fynyddoedd Israel, a dywed, Gwrandewch, fynyddoedd Israel, air yr Arglwydd. 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Oherwydd dywedyd o’r gelyn hyn amdanoch chwi, Aha, aeth yr hen uchelfaon hefyd yn etifeddiaeth i ni: 3 Am hynny proffwyda, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; oherwydd iddynt eich anrheithio, a’ch llyncu o amgylch, i fod ohonoch yn etifeddiaeth i weddill y cenhedloedd, a myned ohonoch yn watwargerdd tafodau, ac yn ogan pobloedd: 4 Am hynny, mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd Dduw; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, wrth y diffeithwch anghyfanheddol, ac wrth y dinasoedd gwrthodedig, y rhai a aeth yn ysbail ac yn watwar i’r rhan arall o’r cenhedloedd o’u hamgylch: 5 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Diau yn angerdd fy eiddigedd y lleferais yn erbyn y rhan arall o’r cenhedloedd, ac yn erbyn holl Edom, y rhai a roddasant fy nhir i yn etifeddiaeth iddynt eu hun, â llawenydd eu holl galon, trwy feddwl dirmygus, i’w yrru allan yn ysbail. 6 Am hynny proffwyda am dir Israel, a dywed wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele, yn fy eiddigedd ac yn fy llid y lleferais, oherwydd dwyn ohonoch waradwydd y cenhedloedd. 7 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Myfi a dyngais, Diau y dwg y cenhedloedd sydd o’ch amgylch chwi eu gwaradwydd.
8 A chwithau, mynyddoedd Israel, a fwriwch allan eich ceinciau, ac a ddygwch eich ffrwyth i’m pobl Israel; canys agos ydynt ar ddyfod. 9 Canys wele fi atoch, ie, troaf atoch, fel y’ch coledder ac y’ch heuer. 10 Amlhaf ddynion ynoch chwi hefyd, holl dŷ Israel i gyd, fel y cyfanhedder y dinasoedd, ac yr adeilader y diffeithwch. 11 Ie, amlhaf ynoch ddyn ac anifail; a hwy a chwanegant ac a ffrwythant; a gwnaf i chwi breswylio fel yr oeddech gynt; ie, gwnaf i chwi well nag yn eich dechreuad, tel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. 12 Ie, gwnaf i ddynion rodio arnoch, sef fy mhobl Israel; a hwy a’th etifeddant di, a byddi yn etifeddiaeth iddynt, ac ni ychwanegi eu gwneuthur hwy yn amddifaid mwy. 13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd eu bod yn dywedyd wrthych, Yr wyt ti yn difa dynion, ac yn gwneuthur dy genhedloedd yn amddifaid: 14 Am hynny ni fwytei ddynion mwy, ac ni wnei dy genhedloedd mwyach yn amddifaid, medd yr Arglwydd Dduw. 15 Ac ni adawaf glywed gwaradwydd y cenhedloedd ynot ti mwy, ni ddygi chwaith warth y cenhedloedd mwyach, ac ni wnei mwy i’th genhedloedd syrthio, medd yr Arglwydd Dduw.
16 Daeth hefyd air yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 17 Ha fab dyn, pan oedd tŷ Israel yn trigo yn eu tir eu hun, hwy a’i halogasant ef â’u ffordd ac â’u gweithredoedd eu hun: eu ffordd ydoedd ger fy mron i fel aflendid gwraig fisglwyfus. 18 Yna y tywelltais fy llid arnynt, am y gwaed a dywalltasent ar y tir, ac am eu delwau trwy y rhai yr halogasent ef; 19 Ac a’u gwasgerais hwynt ymhlith y cenhedloedd, a hwy a chwalwyd ar hyd y gwledydd; yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl eu gweithredoedd y bernais hwynt. 20 A phan ddaethant at y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd, pan ddywedid wrthynt, Dyma bobl yr Arglwydd, ac o’i wlad ef yr aethant allan.
21 Er hynny arbedais hwynt er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogodd tŷ Israel ymysg y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt. 22 Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Nid er eich mwyn chwi, tŷ Israel, yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, ond er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogasoch chwi ymysg y cenhedloedd lle yr aethoch. 23 A mi a sancteiddiaf fy enw mawr, yr hwn a halogwyd ymysg y cenhedloedd, yr hwn a halogasoch chwi yn eu mysg hwynt; fel y gwypo y cenhedloedd mai myfi yw yr Arglwydd, medd yr Arglwydd Dduw, pan ymsancteiddiwyf ynoch o flaen eich llygaid. 24 Canys mi a’ch cymeraf chwi o fysg y cenhedloedd, ac a’ch casglaf chwi o’r holl wledydd, ac a’ch dygaf i’ch tir eich hun.
25 Ac a daenellaf arnoch ddwfr glân, fel y byddoch lân: oddi wrth eich holl frynti, ac oddi wrth eich holl eilunod, y glanhaf chwi. 26 A rhoddaf i chwi galon newydd, ysbryd newydd hefyd a roddaf o’ch mewn chwi; a thynnaf y galon garreg o’ch cnawd chwi, ac mi a roddaf i chwi galon gig. 27 Rhoddaf hefyd fy ysbryd o’ch mewn, a gwnaf i chwi rodio yn fy neddfau, a chadw fy marnedigaethau, a’u gwneuthur. 28 Cewch drigo hefyd yn y tir a roddais i’ch tadau; a byddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf Dduw i chwithau. 29 Achubaf chwi hefyd oddi wrth eich holl aflendid: a galwaf am yr ŷd, ac a’i hamlhaf; ac ni roddaf arnoch newyn. 30 Amlhaf hefyd ffrwyth y coed, a chynnyrch y maes, fel na ddygoch mwy waradwydd newyn ymysg y cenhedloedd. 31 Yna y cofiwch eich ffyrdd drygionus, a’ch gweithredoedd nid oeddynt dda, a byddwch yn ffiaidd gennych eich hunain am eich anwireddau ac am eich ffieidd‐dra. 32 Nid er eich mwyn chwi yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, medd yr Arglwydd Dduw; bydded hysbys i chwi: tŷ Israel, gwridwch a chywilyddiwch am eich ffyrdd eich hun. 33 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yn y dydd y glanhawyf chwi o’ch holl anwireddau, y paraf hefyd i chwi gyfanheddu y dinasoedd, ac yr adeiledir yr anghyfaneddleoedd. 34 A’r tir anrheithiedig a goleddir, lle y bu yn anrhaith yng ngolwg pob cyniweirydd. 35 A hwy a ddywedant, Y tir anrheithiedig hwn a aeth fel gardd Eden, a’r dinasoedd anghyfannedd, ac anrheithiedig, a dinistriol, a aethant yn gaerog, ac a gyfanheddir. 36 Felly y cenhedloedd y rhai a weddillir o’ch amgylch, a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn adeiladu y lleoedd dinistriol, ac yn plannu eich mannau anrheithiedig: myfi yr Arglwydd a’i lleferais, ac a’i gwnaf. 37 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ymofynnir â myfi eto gan dŷ Israel, i wneuthur hyn iddynt; amlhaf hwynt â dynion fel praidd. 38 Fel y praidd sanctaidd, fel praidd Jerwsalem yn ei huchel wyliau, felly y dinasoedd anghyfannedd fyddant lawn o finteioedd o ddynion; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
37 Bu llaw yr Arglwydd arnaf, ac a’m dug allan yn ysbryd yr Arglwydd, ac a’m gosododd yng nghanol dyffryn, a hwnnw oedd yn llawn esgyrn. 2 Ac efe a wnaeth i mi fyned heibio iddynt o amgylch ogylch: ac wele hwynt yn aml iawn ar wyneb y dyffryn; wele hefyd, sychion iawn oeddynt. 3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, a fydd byw yr esgyrn hyn? A mi a ddywedais, O Arglwydd Dduw, ti a’i gwyddost. 4 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda am yr esgyrn hyn, a dywed wrthynt, O esgyrn sychion, clywch air yr Arglwydd. 5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth yr esgyrn hyn; Wele fi yn dwyn anadl i’ch mewn, fel y byddoch byw. 6 Giau hefyd a roddaf arnoch, a pharaf i gig gyfodi arnoch, gwisgaf chwi hefyd â chroen, a rhoddaf anadl ynoch: fel y byddoch byw, ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. 7 Yna y proffwydais fel y’m gorchmynasid; ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu sŵn, ac wele gynnwrf, a’r esgyrn a ddaethant ynghyd, asgwrn at ei asgwrn. 8 A phan edrychais, wele, cyfodasai giau a chig arnynt, a gwisgasai croen amdanynt; ond nid oedd anadl ynddynt. 9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda tua’r gwynt, proffwyda, fab dyn, a dywed wrth y gwynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; O anadl, tyred oddi wrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw. 10 Felly y proffwydais fel y’m gorchmynasid; a’r anadl a ddaeth ynddynt, a buant fyw, a safasant ar eu traed, yn llu mawr iawn.
11 Yna y dywedodd wrthyf, Ha fab dyn, yr esgyrn hyn ydynt dŷ Israel oll: wele, dywedant, Ein hesgyrn a wywasant, a’n gobaith a gollodd; torrwyd ni ymaith o’n rhan ni. 12 Am hynny proffwyda, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl, codaf chwi hefyd o’ch beddau, a dygaf chwi i dir Israel. 13 A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan agorwyf eich beddau, a phan gyfodwyf chwi i fyny o’ch beddau, fy mhobl; 14 Ac y rhoddwyf fy ysbryd ynoch, ac y byddoch byw, ac y gosodwyf chwi yn eich tir eich hun: yna y cewch wybod mai myfi yr Arglwydd a leferais, ac a wneuthum hyn, medd yr Arglwydd.
15 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 16 Tithau fab dyn, cymer i ti un pren, ac ysgrifenna arno, I Jwda, ac i feibion Israel ei gyfeillion. A chymer i ti bren arall, ac ysgrifenna arno, I Joseff, pren Effraim, ac i holl dŷ Israel ei gyfeillion: 17 A chydia hwynt y naill wrth y llall yn un pren i ti; fel y byddont yn un yn dy law di.
18 A phan lefaro meibion dy bobl wrthyt, gan ddywedyd, Oni fynegi i ni beth yw hyn gennyt? 19 Dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cymryd pren Joseff, yr hwn sydd yn llaw Effraim, a llwythau Israel ei gyfeillion, a mi a’u rhoddaf hwynt gydag ef, sef gyda phren Jwda, ac a’u gwnaf hwynt yn un pren, fel y byddont yn fy llaw yn un.
20 A bydded yn dy law, o flaen eu llygaid hwynt, y prennau yr ysgrifennych arnynt; 21 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cymryd meibion Israel o fysg y cenhedloedd yr aethant atynt, ac mi a’u casglaf hwynt o amgylch, ac a’u dygaf hwynt i’w tir eu hun; 22 A gwnaf hwynt yn un genedl o fewn y tir ym mynyddoedd Israel, ac un brenin fydd yn frenin iddynt oll: ni byddant hefyd mwy yn ddwy genedl, ac ni rennir hwynt mwyach yn ddwy frenhiniaeth: 23 Ac ni ymhalogant mwy wrth eu heilunod, na thrwy eu ffieidd‐dra, nac yn eu holl anwireddau: eithr cadwaf hwynt o’u holl drigfaon, y rhai y pechasant ynddynt, a mi a’u glanhaf hwynt; fel y byddont yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau. 24 A’m gwas Dafydd fydd frenin arnynt; ie, un bugail fydd iddynt oll: yn fy marnedigaethau hefyd y rhodiant, a’m deddfau a gadwant ac a wnânt. 25 Trigant hefyd yn y tir a roddais i’m gwas Jacob, yr hwn y trigodd eich tadau ynddo; a hwy a drigant ynddo, hwy a’u meibion, a meibion eu meibion byth; a Dafydd fy ngwas fydd dywysog iddynt yn dragywydd. 26 Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod hedd; amod tragwyddol a fydd â hwynt: a gosodaf hwynt, ac a’u hamlhaf, a rhoddaf fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd. 27 A’m tabernacl fydd gyda hwynt; ie, myfi a fyddaf iddynt yn Dduw, a hwythau a fyddant i mi yn bobl. 28 A’r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn sancteiddio Israel; gan fod fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd.
38 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 2 Gosod dy wyneb, fab dyn, yn erbyn Gog, tir Magog, pen‐tywysog Mesech a Thubal, a phroffwyda yn ei erbyn, 3 A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dy erbyn di, Gog, pen‐tywysog Mesech a Thubal. 4 Dychwelaf di hefyd, a rhoddaf fachau yn dy fochgernau, a mi a’th ddygaf allan, a’th holl lu, y meirch a’r marchogion, wedi eu gwisgo i gyd â phob rhyw arfau, yn gynulleidfa fawr â tharianau ac estylch, hwynt oll yn dwyn cleddyfau: 5 Persia, Ethiopia, a Libya, gyda hwynt; hwynt oll yn dwyn tarian a helm: 6 Gomer a’i holl fyddinoedd; tŷ Togarma o ystlysau y gogledd, a’i holl fyddinoedd; a phobl lawer gyda thi. 7 Ymbaratoa, ie, paratoa i ti dy hun, ti a’th holl gynulleidfa y rhai a ymgynullasant atat, a bydd yn gadwraeth iddynt.
8 Wedi dyddiau lawer yr ymwelir â thi; yn y blynyddoedd diwethaf y deui i dir wedi ei ddwyn yn ei ôl oddi wrth y cleddyf, wedi ei gasglu o bobloedd lawer yn erbyn mynyddoedd Israel, y rhai a fuant yn anghyfannedd bob amser: eithr efe a ddygwyd allan o’r bobloedd, a hwynt oll a drigant mewn diogelwch. 9 Dringi hefyd fel tymestl; deui, a byddi fel cwmwl i guddio y ddaear, ti a’th holl fyddinoedd, a phobloedd lawer gyda thi. 10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Bydd hefyd yn y dydd hwnnw i bethau ddyfod i’th feddwl, a thi a feddyli feddwl drwg. 11 A thi a ddywedi, Mi a af i fyny i wlad maestrefydd; af at y rhai llonydd, y rhai sydd yn preswylio yn ddiogel, gan drigo oll heb gaerau, ac heb drosolion na dorau iddynt, 12 I ysbeilio ysbail, i ysglyfaethu ysglyfaeth, i ddychwelyd dy law ar anghyfaneddleoedd, y rhai a gyfanheddir yr awr hon, ac ar y bobl a gasglwyd o’r cenhedloedd, y rhai a ddarparasant anifeiliaid a golud, ac ydynt yn trigo yng nghanol y wlad. 13 Seba, a Dedan, a marchnadyddion Tarsis hefyd, â’u holl lewod ieuainc, a ddywedant wrthyt, Ai i ysbeilio ysbail y daethost ti? ai i ysglyfaethu ysglyfaeth y cesglaist y gynulleidfa? ai i ddwyn ymaith arian ac aur, i gymryd anifeiliaid a golud, i ysbeilio ysbail fawr?
14 Am hynny proffwyda, fab dyn, a dywed wrth Gog, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Y dydd hwnnw, pan breswylio fy mhobl Israel yn ddiofal, oni chei di wybod? 15 A thi a ddeui o’th fangre dy hun o ystlysau y gogledd, ti, a phobl lawer gyda thi, hwynt oll yn marchogaeth ar feirch, yn dyrfa fawr, ac yn llu lluosog. 16 A thi a ei i fyny yn erbyn fy mhobl Israel, fel cwmwl i guddio y ddaear: yn y dyddiau diwethaf y bydd hyn; a mi a’th ddygaf yn erbyn fy nhir, fel yr adwaeno y cenhedloedd fi, pan ymsancteiddiwyf ynot ti, Gog, o flaen eu llygaid hwynt. 17 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai tydi yw yr hwn y lleferais amdano yn y dyddiau gynt, trwy law fy ngweision, proffwydi Israel, y rhai a broffwydasant y dyddiau hynny flynyddoedd lawer, y dygwn di yn eu herbyn hwynt? 18 A bydd yn y dydd hwnnw, yn y dydd y delo Gog yn erbyn tir Israel, medd yr Arglwydd Dduw, i’m llid gyfodi yn fy soriant. 19 Canys yn fy eiddigedd, ac yn angerdd fy nicllonedd y dywedais, Yn ddiau bydd yn y dydd hwnnw ddychryn mawr yn nhir Israel; 20 Fel y cryno pysgod y môr, ac ehediaid y nefoedd, a bwystfilod y maes, a phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a phob dyn ar wyneb y ddaear, ger fy mron i; a’r mynyddoedd a ddryllir i lawr, a’r grisiau a syrthiant, a phob mur a syrth i lawr. 21 A mi a alwaf am gleddyf yn ei erbyn trwy fy holl fynyddoedd, medd yr Arglwydd Dduw: cleddyf pob un fydd yn erbyn ei frawd. 22 Mi a ddadleuaf hefyd yn ei erbyn ef â haint ac â gwaed: glawiaf hefyd gurlaw, a cherrig cenllysg, tân a brwmstan, arno ef, ac ar ei holl fyddinoedd, ac ar y bobloedd lawer sydd gydag ef. 23 Fel hyn yr ymfawrygaf, ac yr ymsancteiddiaf; a pharaf fy adnabod yng ngolwg cenhedloedd lawer, fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.