Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Brenhinoedd 12-14

12 Yna Rehoboam a aeth i Sichem: canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin. A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac efe eto yn yr Aifft, (canys efe a ffoesai o ŵydd Solomon y brenin, a Jeroboam a arosasai yn yr Aifft;) Hwy a anfonasant, ac a alwasant arno ef. A Jeroboam a holl gynulleidfa Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant â Rehoboam, gan ddywedyd, Dy dad di a wnaeth ein hiau ni yn drom: ac yn awr ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o’i iau drom ef a roddodd efe arnom ni, ac ni a’th wasanaethwn di. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch eto dridiau; yna dychwelwch ataf fi. A’r bobl a aethant ymaith.

A’r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â’r henuriaid a fuasai yn sefyll gerbron Solomon ei dad ef, tra yr ydoedd efe yn fyw, ac a ddywedodd, Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb i’r bobl hyn? A hwy a lefarasant wrtho ef, gan ddywedyd, Os byddi di heddiw was i’r bobl hyn, a’u gwasanaethu hwynt, a’u hateb hwynt, a llefaru wrthynt eiriau teg; yna y byddant weision i ti byth. Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid, yr hwn a gyngorasent iddo ef; ac efe a ymgynghorodd â’r gwŷr ieuainc a gynyddasai gydag ef, a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef: Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha yr iau a roddodd dy dad arnom ni? 10 A’r gwŷr ieuainc, y rhai a gynyddasent gydag ef, a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi di wrth y bobl yma, y rhai a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad di a drymhaodd ein hiau ni, ond ysgafnha di hi arnom ni; fel hyn y lleferi di wrthynt; Fy mys bach fydd breisgach na llwynau fy nhad. 11 Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd â iau drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch cosbodd chwi â ffrewyllau, a mi a’ch cosbaf chwi ag ysgorpionau.

12 A daeth Jeroboam a’r holl bobl at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llefarasai y brenin, gan ddywedyd, Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd. 13 A’r brenin a atebodd y bobl yn arw, ac a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo; 14 Ac a lefarodd wrthynt hwy yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau. 15 Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl. Oherwydd yr achos oedd oddi wrth yr Arglwydd, fel y cwblheid ei air ef, yr hwn a lefarasai yr Arglwydd trwy law Ahia y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.

16 A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, dos i’th bebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a aethant i’w pebyll. 17 Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy. 18 A’r brenin Rehoboam a anfonodd Adoram, yr hwn oedd ar y dreth; a holl Israel a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw. Am hynny y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i’w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem. 19 Felly Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn. 20 A phan glybu holl Israel ddychwelyd o Jeroboam, hwy a anfonasant ac a’i galwasant ef at y gynulleidfa, ac a’i gosodasant ef yn frenin ar holl Israel: nid oedd yn myned ar ôl tŷ Dafydd, ond llwyth Jwda yn unig.

21 A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd holl dŷ Jwda, a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd yn erbyn tŷ Israel, i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam mab Solomon. 22 Ond gair Duw a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd, 23 Adrodd wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda, ac wrth holl dŷ Jwda a Benjamin, a gweddill y bobl, gan ddywedyd, 24 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel; dychwelwch bob un i’w dŷ ei hun: canys trwof fi y mae y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar air yr Arglwydd, ac a ddychwelasant i fyned ymaith, yn ôl gair yr Arglwydd.

25 Yna Jeroboam a adeiladodd Sichem ym mynydd Effraim, ac a drigodd ynddi hi; ac a aeth oddi yno, ac adeiladodd Penuel. 26 A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon, Yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dafydd. 27 Os â y bobl hyn i fyny i wneuthur aberthau yn nhŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem, yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Jwda, a hwy a’m lladdant i, ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Jwda. 28 Yna y brenin a ymgynghorodd, ac a wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem: wele dy dduwiau di, O Israel, y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft. 29 Ac efe a osododd un yn Bethel, ac a osododd y llall yn Dan. 30 A’r peth hyn a aeth yn bechod: oblegid y bobl a aethant gerbron y naill hyd Dan. 31 Ac efe a wnaeth dŷ uchelfeydd, ac a wnaeth offeiriaid o’r rhai gwaelaf o’r bobl, y rhai nid oedd o feibion Lefi. 32 A Jeroboam a wnaeth uchel ŵyl yn yr wythfed mis, ar y pymthegfed dydd o’r mis, fel yr uchel ŵyl oedd yn Jwda; ac efe a offrymodd ar yr allor. Felly y gwnaeth efe yn Bethel, gan aberthu i’r lloi a wnaethai efe: ac efe a osododd yn Bethel offeiriaid yr uchelfaoedd a wnaethai efe. 33 Ac efe a offrymodd ar yr allor a wnaethai efe yn Bethel, y pymthegfed dydd o’r wythfed mis, sef yn y mis a ddychmygasai efe yn ei galon ei hun; ac efe a wnaeth uchel ŵyl i feibion Israel: ac efe a aeth i fyny at yr allor i arogldarthu.

13 Ac wele gŵr i Dduw a ddaeth o Jwda, trwy air yr Arglwydd, i Bethel: a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogldarthu. Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a’i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogldarthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti. Ac efe a roddodd arwydd y dwthwn hwnnw, gan ddywedyd, Dyma yr argoel a lefarodd yr Arglwydd; Wele, yr allor a rwygir, a’r lludw sydd arni a dywelltir. A phan glybu y brenin air gŵr Duw, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato. Yr allor hefyd a rwygodd, a’r lludw a dywalltwyd oddi ar yr allor, yn ôl yr argoel a roddasai gŵr Duw trwy air yr Arglwydd. A’r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr Duw, Gweddïa, atolwg, gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ac ymbil drosof fi, fel yr adferer fy llaw i mi. A gŵr Duw a weddïodd gerbron yr Arglwydd; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef, ac a fu fel cynt. A’r brenin a ddywedodd wrth ŵr Duw, Tyred adref gyda mi, a chymer luniaeth, a mi a roddaf rodd i ti. A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin, Pe rhoddit i mi hanner dy dŷ, ni ddeuwn i gyda thi; ac ni fwytawn fara, ac nid yfwn ddwfr, yn y fan hon: Canys fel hyn y gorchmynnwyd i mi trwy air yr Arglwydd, gan ddywedyd, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; na ddychwel chwaith ar hyd y ffordd y daethost. 10 Felly efe a aeth ymaith ar hyd ffordd arall, ac ni ddychwelodd ar hyd y ffordd y daethai ar hyd‐ddi i Bethel.

11 Ac yr oedd rhyw hen broffwyd yn trigo yn Bethel; a’i fab a ddaeth ac a fynegodd iddo yr holl waith a wnaethai gŵr Duw y dydd hwnnw yn Bethel: a hwy a fynegasant i’w tad y geiriau a lefarasai efe wrth y brenin. 12 A’u tad a ddywedodd wrthynt, Pa ffordd yr aeth efe? A’i feibion a welsent y ffordd yr aethai gŵr Duw, yr hwn a ddaethai o Jwda. 13 Ac efe a ddywedodd wrth ei feibion, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a gyfrwyasant iddo yr asyn; ac efe a farchogodd arno. 14 Ac efe a aeth ar ôl gŵr Duw, ac a’i cafodd ef yn eistedd dan dderwen; ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw gŵr Duw, yr hwn a ddaethost o Jwda? Ac efe a ddywedodd, Ie, myfi. 15 Yna efe a ddywedodd wrtho, Tyred adref gyda mi, a bwyta fara. 16 Yntau a ddywedodd, Ni allaf ddychwelyd gyda thi, na dyfod gyda thi; ac ni fwytâf fara, ac nid yfaf ddwfr gyda thi yn y fan hon. 17 Canys dywedwyd wrthyf trwy ymadrodd yr Arglwydd, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr yno; ac na ddychwel gan fyned trwy y ffordd y daethost ar hyd‐ddi. 18 Dywedodd yntau wrtho, Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau; ac angel a lefarodd wrthyf trwy air yr Arglwydd, gan ddywedyd, Dychwel ef gyda thi i’th dŷ, fel y bwytao fara, ac yr yfo ddwfr. Ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho. 19 Felly efe a ddychwelodd gydag ef, ac a fwytaodd fara yn ei dŷ ef, ac a yfodd ddwfr.

20 A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr Arglwydd at y proffwyd a barasai iddo ddychwelyd: 21 Ac efe a lefodd ar ŵr Duw yr hwn a ddaethai o Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd i ti anufuddhau i air yr Arglwydd, ac na chedwaist y gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, 22 Eithr dychwelaist, a bwyteaist fara, ac yfaist ddwfr, yn y lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; nid â dy gelain di i feddrod dy dadau.

23 Ac wedi iddo fwyta bara, ac wedi iddo yfed, efe a gyfrwyodd iddo yr asyn, sef i’r proffwyd a barasai efe iddo ddychwelyd. 24 Ac wedi iddo fyned ymaith, llew a’i cyfarfu ef ar y ffordd, ac a’i lladdodd ef: a bu ei gelain ef wedi ei bwrw ar y ffordd, a’r asyn oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, a’r llew yn sefyll wrth y gelain. 25 Ac wele wŷr yn myned heibio, ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar y ffordd, a’r llew yn sefyll wrth y gelain: a hwy a ddaethant ac a adroddasant hynny yn y ddinas yr oedd yr hen broffwyd yn aros ynddi. 26 A phan glybu y proffwyd, yr hwn a barasai iddo ef ddychwelyd o’r ffordd, efe a ddywedodd, Gŵr Duw yw efe, yr hwn a anufuddhaodd air yr Arglwydd: am hynny yr Arglwydd a’i rhoddodd ef i’r llew, yr hwn a’i drylliodd ef, ac a’i lladdodd ef, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd efe wrtho ef. 27 Ac efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a’i cyfrwyasant. 28 Ac efe a aeth, ac a gafodd ei gelain ef wedi ei thaflu ar y ffordd, a’r asyn a’r llew yn sefyll wrth y gelain: ac ni fwytasai y llew y gelain, ac ni ddrylliasai efe yr asyn. 29 A’r proffwyd a gymerth gelain gŵr Duw, ac a’i gosododd hi ar yr asyn, ac a’i dug yn ei hôl. A’r hen broffwyd a ddaeth i’r ddinas, i alaru, ac i’w gladdu ef. 30 Ac efe a osododd ei gelain ef yn ei feddrod ei hun; a hwy a alarasant amdano ef, gan ddywedyd, O fy mrawd! 31 Ac wedi iddo ei gladdu ef, efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Pan fyddwyf farw, cleddwch finnau hefyd yn y bedd y claddwyd gŵr Duw ynddo; gosodwch fy esgyrn i wrth ei esgyrn ef. 32 Canys diamau y bydd yr hyn a lefodd efe trwy air yr Arglwydd yn erbyn yr allor sydd yn Bethel, ac yn erbyn holl dai yr uchelfeydd sydd yn ninasoedd Samaria.

33 Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o’i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i’r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a’i cysegrai ef, ac efe a gâi fod yn offeiriad i’r uchelfeydd. 34 A’r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam, i’w ddiwreiddio hefyd, ac i’w ddileu oddi ar wyneb y ddaear.

14 Y pryd hwnnw y clafychodd Abeia mab Jeroboam. A Jeroboam a ddywedodd wrth ei wraig, Cyfod atolwg, a newid dy ddillad, fel na wypont mai ti yw gwraig Jeroboam; a dos i Seilo: wele, yno y mae Ahïa y proffwyd, yr hwn a ddywedodd wrthyf y byddwn frenin ar y bobl yma. A chymer yn dy law ddeg o fara, a theisennau, a chostrelaid o fêl, a dos ato ef: efe a fynega i ti beth a dderfydd i’r bachgen. A gwraig Jeroboam a wnaeth felly; ac a gyfododd ac a aeth i Seilo, ac a ddaeth i dŷ Ahïa. Ond ni allai Ahïa weled; oherwydd ei lygaid ef a ballasai oblegid ei henaint.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Ahïa, Wele, y mae gwraig Jeroboam yn dyfod i geisio peth gennyt dros ei mab; canys claf yw efe: fel hyn ac fel hyn y dywedi wrthi hi: canys pan ddelo hi i mewn, hi a ymddieithra. A phan glybu Ahïa drwst ei thraed hi yn dyfod i’r drws, efe a ddywedodd, Tyred i mewn, gwraig Jeroboam; i ba beth yr wyt ti yn ymddieithro? canys myfi a anfonwyd atat ti â newyddion caled. Dos, dywed wrth Jeroboam, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Yn gymaint â darfod i mi dy ddyrchafu di o blith y bobl, a’th wneuthur di yn flaenor ar fy mhobl Israel, A thorri ymaith y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Dafydd, a’i rhoddi i ti; ac na buost ti fel fy ngwas Dafydd, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion, a’r hwn a rodiodd ar fy ôl i â’i holl galon, i wneuthur yn unig yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i; Ond a wnaethost ddrwg y tu hwnt i bawb a fu o’th flaen di; ac a aethost ac a wnaethost i ti dduwiau dieithr, a delwau toddedig, i’m digio i, ac a’m teflaist i o’r tu ôl i’th gefn: 10 Am hynny, wele fi yn dwyn drwg ar dŷ Jeroboam; a thorraf ymaith oddi wrth Jeroboam bob gwryw, y gwarchaeëdig a’r gweddilledig yn Israel; a mi a fwriaf allan weddillion tŷ Jeroboam, fel y bwrir allan dom, nes ei ddarfod. 11 Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo farw o eiddo Jeroboam yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo farw yn y maes: canys yr Arglwydd a’i dywedodd. 12 Cyfod di gan hynny, dos i’th dŷ: a phan ddelo dy draed i’r ddinas, bydd marw y bachgen. 13 A holl Israel a alarant amdano ef, ac a’i claddant ef: canys efe yn unig o Jeroboam a ddaw i’r bedd; oherwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel, yn nhŷ Jeroboam. 14 Yr Arglwydd hefyd a gyfyd iddo frenin ar Israel, yr hwn a dyr ymaith dŷ Jeroboam y dwthwn hwnnw: ond pa beth? ie, yn awr. 15 Canys yr Arglwydd a dery Israel, megis y siglir y gorsen mewn dwfr; ac a ddiwreiddia Israel o’r wlad dda hon a roddodd efe i’w tadau hwynt, ac a’u gwasgar hwynt tu hwnt i’r afon; oherwydd gwneuthur ohonynt eu llwyni, gan annog yr Arglwydd i ddigofaint. 16 Ac efe a ddyry heibio Israel, er mwyn pechodau Jeroboam, yr hwn a bechodd, a’r hwn a wnaeth i Israel bechu.

17 A gwraig Jeroboam a gyfododd, ac a aeth ymaith, ac a ddaeth i Tirsa: ac a hi yn dyfod i drothwy y tŷ, bu farw y bachgen. 18 A hwy a’i claddasant ef; a holl Israel a alarasant amdano, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y proffwyd. 19 A’r rhan arall o weithredoedd Jeroboam, fel y rhyfelodd efe, ac fel y teyrnasodd efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel. 20 A’r dyddiau y teyrnasodd Jeroboam oedd ddwy flynedd ar hugain: ac efe a hunodd gyda’i dadau; a Nadab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

21 A Rehoboam mab Solomon a deyrnasodd yn Jwda. Mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan aeth efe yn frenin, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd o holl lwythau Israel, i osod ei enw yno. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones. 22 A Jwda a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd; a hwy a’i hanogasant ef i eiddigedd, rhagor yr hyn oll a wnaethai eu tadau, yn eu pechodau a wnaethent. 23 Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd, a delwau, a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren gwyrddlas. 24 A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd‐dra’r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.

25 Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam, Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem. 26 Ac efe a ddug ymaith drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin; efe a’u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd yr holl darianau aur a wnaethai Solomon. 27 A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a’u rhoddodd hwynt i gadw yn llaw tywysogion y rhedegwyr, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin. 28 A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd, y rhedegwyr a’u dygent hwy, ac a’u hadferent i ystafell y rhedegwyr.

29 A’r rhan arall o weithredoedd Rehoboam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 30 A rhyfel fu rhwng Rehoboam a Jeroboam yr holl ddyddiau. 31 A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones. Ac Abeiam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.