Chronological
13 Mab doeth a wrendy ar athrawiaeth ei dad: ond gwatwarwr ni wrendy ar gerydd. 2 Gŵr a fwynha ddaioni o ffrwyth ei enau: ac enaid yr anghyfiawn a fwynha drawsedd. 3 Y neb a geidw ei enau, a geidw ei einioes: ond y neb a ledo ei wefusau, a ddinistrir. 4 Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim: ond enaid y diwyd a wneir yn fras. 5 Cas gan y cyfiawn gelwydd: ond y drygionus sydd ffiaidd, ac a ddaw i gywilydd. 6 Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur. 7 Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo. 8 Iawn am einioes gŵr yw ei dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd. 9 Goleuni y cyfiawn a lawenha: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir. 10 Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen: ond gyda’r pwyllog y mae doethineb. 11 Golud a gasgler trwy oferedd, a leiheir; ond y neb a gasglo â’i law a chwanega. 12 Gobaith a oeder a wanha y galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben. 13 Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir. 14 Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau. 15 Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed. 16 Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd. 17 Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd. 18 Tlodi a gwaradwydd fydd i’r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir. 19 Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni. 20 Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir. 21 Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i’r rhai cyfiawn. 22 Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a roddwyd i gadw i’r cyfiawn. 23 Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn. 24 Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casáu ei fab: ond yr hwn a’i câr ef, a’i cerydda mewn amser. 25 Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid: ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau.
14 Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a’i tyn ef i lawr â’i dwylo. 2 Yr hwn sydd yn rhodio yn ei unionder, sydd yn ofni yr Arglwydd; a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef. 3 Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a’u ceidw hwynt. 4 Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych. 5 Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd; ond gau dyst a draetha gelwyddau. 6 Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i’r deallus. 7 Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth. 8 Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll. 9 Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd: ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da. 10 Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a’r dieithr ni bydd gyfrannog o’i llawenydd hi. 11 Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua. 12 Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau. 13 Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch. 14 Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o’i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef. 15 Yr ehud a goelia bob gair: a’r call a ddeil ar ei gamre. 16 Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus. 17 Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar. 18 Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth. 19 Y rhai drygionus a ymostyngant gerbron y daionus: a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn. 20 Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog. 21 A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef. 22 Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i’r sawl a ddychmygant ddaioni. 23 Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi. 24 Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb. 25 Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau. 26 Yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn: ac i’w blant ef y bydd noddfa. 27 Ofn yr Arglwydd yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau. 28 Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog. 29 Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd. 30 Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn. 31 Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a’i hanrhydedda ef. 32 Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw. 33 Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call: ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir. 34 Cyfiawnder a ddyrchafa genedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod. 35 Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol: ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus.
15 Ateb arafaidd a ddetry lid: ond gair garw a gyffry ddigofaint. 2 Tafod y synhwyrol a draetha wybodaeth yn dda: ond genau y ffyliaid a dywallt ffolineb. 3 Ym mhob lle y mae llygaid yr Arglwydd, yn canfod y drygionus a’r daionus. 4 Pren y bywyd yw tafod iach: ond trawsedd ynddo sydd rwyg yn yr ysbryd. 5 Dyn ffôl a ddiystyra addysg ei dad: ond y neb a ddioddefo gerydd, sydd gall. 6 Yn nhŷ y cyfiawn y bydd mawr gyfoeth: ond am olud yr annuwiol y mae trallod. 7 Gwefusau y doethion a wasgarant wybodaeth: ond calon y ffyliaid ni wna felly. 8 Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo. 9 Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond efe a gâr y neb a ddilyn gyfiawnder. 10 Cerydd sydd flin gan y neb a dry oddi ar y ffordd: a’r neb a gasao gerydd, a fydd marw. 11 Uffern a dinistr sydd gerbron yr Arglwydd: pa faint mwy, calonnau plant dynion? 12 Ni châr y gwatwarwr mo’r neb a’i ceryddo; ac nid â at y doethion. 13 Calon lawen a wna wyneb siriol: ond trwy ddolur y galon y torrir yr ysbryd. 14 Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth: ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb. 15 Holl ddyddiau y cystuddiedig sydd flin: ond gwledd wastadol yw calon lawen. 16 Gwell yw ychydig gydag ofn yr Arglwydd, na thrysor mawr a thrallod gydag ef. 17 Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad, nag ych pasgedig a chas gydag ef. 18 Gŵr dicllon a gyffry gynnen: ond gŵr hwyrfrydig i lid a dyr ymryson. 19 Ffordd y diog sydd fel cae drain: ond ffordd yr uniawn sydd wastad. 20 Mab doeth a lawenha ei dad: ond dyn ffôl a ddiystyra ei fam. 21 Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn uniawn. 22 Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor: ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt. 23 Llawenydd fydd i ŵr oherwydd ymadrodd ei enau; ac O mor dda yw gair yn ei amser! 24 Ffordd y bywyd sydd fry i’r synhwyrol, i ochel uffern obry. 25 Yr Arglwydd a ddiwreiddia dŷ y beilchion: ond efe a sicrha derfyn y weddw. 26 Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond geiriau y glân ŷnt beraidd. 27 Y neb a fyddo dra chwannog i elw, a derfysga ei dŷ: ond y neb a gasao roddion, fydd byw. 28 Calon y cyfiawn a fyfyria i ateb: ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg. 29 Pell yw yr Arglwydd oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendy weddi y cyfiawn. 30 Llewyrch y llygaid a lawenha y galon: a gair da a frasâ yr esgyrn. 31 Y glust a wrandawo ar gerydd y bywyd, a breswylia ymhlith y doethion. 32 Y neb a wrthodo addysg, a ddiystyra ei enaid ei hun: ond y neb a wrandawo ar gerydd, a feddianna ddeall. 33 Addysg doethineb yw ofn yr Arglwydd; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.