Chronological
5 A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i’r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant ato. 2 Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dysgodd hwynt, gan ddywedyd, 3 Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. 4 Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. 5 Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear. 6 Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir. 7 Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd. 8 Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw. 9 Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw. 10 Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. 11 Gwyn eich byd pan y’ch gwaradwyddant, ac y’ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog. 12 Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy’r proffwydi a fu o’ch blaen chwi.
13 Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i’w fwrw allan, a’i sathru gan ddynion. 14 Chwi yw goleuni’r byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio. 15 Ac ni oleuant gannwyll, a’i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ. 16 Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
17 Na thybiwch fy nyfod i dorri’r gyfraith, neu’r proffwydi: ni ddeuthum i dorri, ond i gyflawni. 18 Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio, nid â un iod nac un tipyn o’r gyfraith heibio, hyd oni chwblhaer oll. 19 Pwy bynnag gan hynny a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag a’u gwnelo, ac a’u dysgo i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd. 20 Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.
21 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn: 22 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern. 23 Gan hynny, os dygi dy rodd i’r allor, ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn; 24 Gad yno dy rodd gerbron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymoder di â’th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd. 25 Cytuna â’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i’th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw’r barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’th daflu yng ngharchar. 26 Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.
27 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb; 28 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i’w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. 29 Ac os dy lygad deau a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 30 Ac os dy law ddeau a’th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 31 A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar: 32 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo’r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.
33 Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i’r Arglwydd: 34 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i’r nef; canys gorseddfa Duw ydyw: 35 Nac i’r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys dinas y brenin mawr ydyw. 36 Ac na thwng i’th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu. 37 Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o’r drwg y mae.
38 Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant: 39 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a’th drawo ar dy rudd ddeau, tro’r llall iddo hefyd. 40 Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd. 41 A phwy bynnag a’th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy. 42 Dyro i’r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.
43 Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn. 44 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant; 45 Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. 46 Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth? 47 Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly? 48 Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.
6 Gochelwch rhag gwneuthur eich elusen yng ngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt: os amgen, ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. 2 Am hynny pan wnelych elusen, na utgana o’th flaen, fel y gwna’r rhagrithwyr yn y synagogau, ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr. 3 Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddeau; 4 Fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr amlwg.
5 A phan weddïech, na fydd fel y rhagrithwyr: canys hwy a garant weddïo yn sefyll yn y synagogau, ac yng nghonglau’r heolydd, fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr. 6 Ond tydi, pan weddïech, dos i’th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddïa ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg. 7 A phan weddïoch, na fyddwch siaradus, fel y cenhedloedd: canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau. 8 Na fyddwch gan hynny debyg iddynt hwy: canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisiau, cyn gofyn ohonoch ganddo. 9 Am hynny gweddïwch chwi fel hyn: Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. 10 Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. 11 Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol. 12 A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr. 13 Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. Canys eiddot ti yw’r deyrnas, a’r nerth, a’r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen. 14 Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddau hefyd i chwithau: 15 Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddau eich Tad eich camweddau chwithau.
16 Hefyd, pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneptrist: canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr. 17 Eithr pan ymprydiech di, eneinia dy ben, a golch dy wyneb; 18 Fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn ymprydio, ond i’th Dad yr hwn sydd yn y dirgel: a’th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.
19 Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata; 20 Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle ni chloddia lladron trwodd ac ni ladratânt. 21 Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd. 22 Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn olau. 23 Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch!
24 Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlŷn wrth y naill, ac a esgeulusa’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon. 25 Am hynny meddaf i chwi, Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff yn fwy na’r dillad? 26 Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? 27 A phwy ohonoch gan ofalu, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli? 28 A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu: 29 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. 30 Am hynny os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddiw, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd? 31 Am hynny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwytawn? neu, Beth a yfwn? neu, A pha beth yr ymddilladwn? 32 (Canys yr holl bethau hyn y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio;) oblegid gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau’r holl bethau hyn. 33 Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a’i gyfiawnder ef, a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg. 34 Na ofelwch gan hynny dros drannoeth: canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun. Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun.
7 Na fernwch, fel na’ch barner: 2 Canys â pha farn y barnoch, y’ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau. 3 A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 4 Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad imi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun? 5 O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun; ac yna y gweli’n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.
6 Na roddwch y peth sydd sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemau o flaen y moch; rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi.
7 Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi: 8 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 9 Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? 10 Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo? 11 Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo? 12 Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.
13 Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys eang yw’r porth, a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi: 14 Oblegid cyfyng yw’r porth, a chul yw’r ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi.
15 Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy. 16 Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall? 17 Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg. 18 Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da. 19 Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. 20 Oherwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
21 Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 22 Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? 23 Ac yna yr addefaf wrthynt, Nid adnabûm chwi erioed: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd.
24 Gan hynny pwy bynnag sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a’i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig: 25 A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw; ac ni syrthiodd: oblegid sylfaenesid ef ar y graig. 26 A phob un a’r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod: 27 A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifddyfroedd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw; ac efe a syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr. 28 A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn, y torfeydd a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef: 29 Canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.