Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseciel 40-41

40 Yn y bumed flwyddyn ar hugain o’n caethgludiad ni, yn nechrau y flwyddyn, ar y degfed dydd o’r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg wedi taro y ddinas, o fewn corff y dydd hwnnw y daeth llaw yr Arglwydd arnaf, ac a’m dug yno. Yng ngweledigaethau Duw y dug efe fi i dir Israel, ac a’m gosododd ar fynydd uchel iawn, ac arno yr oedd megis adail dinas o du y deau. Ac efe a’m dug yno: ac wele ŵr a’i welediad fel gwelediad pres, ac yn ei law linyn llin, a chorsen fesur: ac yr ydoedd efe yn sefyll yn y porth. A dywedodd y gŵr wrthyf, Ha fab dyn, gwêl â’th lygaid, gwrando hefyd â’th glustiau, a gosod dy galon ar yr hyn oll a ddangoswyf i ti: oherwydd er mwyn dangos i ti hyn y’th ddygwyd yma: mynega i dŷ Israel yr hyn oll a weli. Ac wele fur o’r tu allan i’r tŷ o amgylch ogylch: a chorsen fesur yn llaw y gŵr, yn chwe chufydd o hyd, wrth gufydd a dyrnfedd: ac efe a fesurodd led yr adeiladaeth yn un gorsen, a’r uchder yn un gorsen.

Ac efe a ddaeth i’r porth oedd â’i wyneb tua’r dwyrain, ac a ddringodd ar hyd ei risiau ef, ac a fesurodd riniog y porth yn un gorsen o led, a’r rhiniog arall yn un gorsen o led. A phob ystafell oedd un gorsen o hyd, ac un gorsen o led: a phum cufydd oedd rhwng yr ystafelloedd: a rhiniog y porth, wrth gyntedd y porth o’r tu mewn, oedd un gorsen. Efe a fesurodd hefyd gyntedd y porth oddi fewn, yn un gorsen. Yna y mesurodd gyntedd y porth yn wyth gufydd, a’i byst yn ddau gufydd, a chyntedd y porth oedd o’r tu mewn. 10 Ac ystafelloedd y porth tua’r dwyrain oedd dair o’r tu yma, a thair o’r tu acw; un fesur oeddynt ill tair: ac un mesur oedd i’r pyst o’r tu yma ac o’r tu acw. 11 Ac efe a fesurodd led drws y porth yn ddeg cufydd, a hyd y porth yn dri chufydd ar ddeg. 12 A’r terfyn o flaen yr ystafelloedd oedd un cufydd o’r naill du, a’r terfyn o’r tu arall yn un cufydd; a’r ystafelloedd oedd chwe chufydd o’r tu yma, a chwe chufydd o’r tu acw. 13 Ac efe a fesurodd y porth o nen y naill ystafell hyd nen un arall, yn bum cufydd ar hugain o led, drws ar gyfer drws. 14 Ac efe a wnaeth byst o drigain cufydd, a hynny hyd bost y cyntedd, o amgylch ogylch y porth. 15 Ac o wyneb porth y dyfodiad i mewn, hyd wyneb cyntedd y porth oddi mewn, yr oedd deg cufydd a deugain. 16 A ffenestri cyfyng oedd i’r ystafelloedd, ac i’w pyst o fewn y porth o amgylch ogylch; ac felly yr oedd i’r bwâu meini: a ffenestri oedd o amgylch ogylch o fewn; ac yr oedd palmwydd ar bob post. 17 Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan, ac wele yno ystafelloedd, a phalmant wedi ei wneuthur i’r cyntedd o amgylch ogylch; deg ystafell ar hugain oedd ar y palmant. 18 A’r palmant gan ystlys y pyrth ar gyfer hyd y pyrth, oedd y palmant oddi tanodd. 19 Ac efe a fesurodd y lled o wyneb y porth isaf hyd wyneb y cyntedd oddi fewn, yn gan cufydd oddi allan tua’r dwyrain a’r gogledd.

20 A’r porth yr hwn oedd â’i wyneb tua’r gogledd, ar y cyntedd nesaf allan, a fesurodd efe, ei hyd a’i led. 21 A’i ystafelloedd ef oedd dair o’r tu yma, a thair o’r tu acw; ac yr ydoedd ei byst, a’i fwâu meini, wrth fesur y porth cyntaf, yn ddeg cufydd a deugain eu hyd, a’r lled yn bum cufydd ar hugain. 22 Eu ffenestri hefyd, a’u bwâu meini, a’u palmwydd, oedd wrth fesur y porth oedd â’i wyneb tua’r dwyrain; ar hyd saith o risiau hefyd y dringent iddo; a’i fwâu meini oedd o’u blaen hwynt. 23 A phorth y cyntedd nesaf i mewn oedd ar gyfer y porth tua’r gogledd, a thua’r dwyrain: ac efe a fesurodd o borth i borth gan cufydd.

24 Wedi hynny efe a’m dug i tua’r deau, ac wele borth tua’r deau, ac efe a fesurodd ei byst a’i fwâu meini wrth y mesurau hyn. 25 Ffenestri hefyd oedd iddo ac i’w fwâu meini, o amgylch ogylch, fel y ffenestri hynny, yn ddeg cufydd a deugain o hyd, ac yn bum cufydd ar hugain o led. 26 Saith o risiau hefyd oedd ei esgynfa ef, a’i fwâu meini o’u blaen hwynt: yr oedd hefyd iddo balmwydd, un o’r tu yma, ac un o’r tu acw, ar ei byst ef. 27 Ac yr oedd porth yn y cyntedd nesaf i mewn tua’r deau: ac efe a fesurodd o borth i borth, tua’r deau, gan cufydd. 28 Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn trwy borth y deau: ac a fesurodd borth y deau wrth y mesurau hyn; 29 A’i ystafelloedd, a’i byst, a’i fwâu meini, wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch: deg cufydd a deugain oedd yr hyd, a phum cufydd ar hugain y lled. 30 A’r bwâu meini o amgylch ogylch oedd bum cufydd ar hugain o hyd, a phum cufydd o led. 31 A’i fwâu meini oedd tua’r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst; ac wyth o risiau oedd ei esgynfa ef.

32 Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn tua’r dwyrain: ac a fesurodd y porth wrth y mesurau hyn. 33 A’i ystafelloedd, a’i byst, a’i fwâu meini, oedd wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo ef, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a’r lled yn bum cufydd ar hugain. 34 A’i fwâu meini oedd tua’r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst o’r tu yma, ac o’r tu acw; a’i esgynfa oedd wyth o risiau.

35 Ac efe a’m dug i borth y gogledd, ac a’i mesurodd wrth y mesurau hyn: 36 Ei ystafelloedd, ei byst, a’i fwâu meini, a’r ffenestri iddo o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a’r lled oedd bum cufydd ar hugain. 37 A’i byst oedd tua’r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd ar ei byst o’r tu yma, ac o’r tu acw; a’i esgynfa oedd wyth o risiau. 38 A’r celloedd a’u drysau oedd wrth byst y pyrth, lle y golchent y poethoffrwm.

39 Ac yng nghyntedd y porth yr oedd dau fwrdd o’r tu yma, a dau fwrdd o’r tu acw, i ladd y poethoffrwm, a’r pech‐aberth, a’r aberth dros gamwedd, arnynt. 40 Ac ar yr ystlys oddi allan, lle y dringir i ddrws porth y gogledd, yr oedd dau fwrdd; a dau fwrdd ar yr ystlys arall, yr hwn oedd wrth gyntedd y porth. 41 Pedwar bwrdd oedd o’r tu yma, a phedwar bwrdd o’r tu acw, ar ystlys y porth; wyth bwrdd, ar y rhai y lladdent eu haberthau. 42 A’r pedwar bwrdd i’r poethoffrwm oedd o gerrig nadd, yn un cufydd a hanner o hyd, ac yn un cufydd a hanner o led, ac yn un cufydd o uchder: arnynt hwy hefyd y gosodent yr offer y rhai y lladdent yr offrwm poeth a’r aberth â hwynt. 43 Hefyd yr oedd bachau, o un ddyrnfedd, wedi eu paratoi o fewn, o amgylch ogylch: a chig yr offrwm oedd ar y byrddau.

44 Ac o’r tu allan i’r porth nesaf i mewn yr oedd ystafelloedd y cantorion o fewn y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn oedd ar ystlys porth y gogledd; a’u hwynebau oedd tua’r deau: un oedd ar ystlys porth y dwyrain, â’i wyneb tua’r gogledd. 45 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr ystafell hon, yr hon sydd â’i hwyneb tua’r deau, sydd i’r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth y tŷ. 46 A’r ystafell yr hon sydd â’i hwyneb tua’r gogledd, sydd i’r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth yr allor: y rhai hyn yw meibion Sadoc, y rhai ydynt o feibion Lefi, yn nesáu at yr Arglwydd i weini iddo. 47 Felly efe a fesurodd y cyntedd, yn gan cufydd o hyd, ac yn gan cufydd o led, yn bedeirongl; a’r allor oedd o flaen y tŷ.

48 Ac efe a’m dug i borth y tŷ, ac a fesurodd bob post i’r porth, yn bum cufydd o’r naill du, ac yn bum cufydd o’r tu arall: a lled y porth oedd dri chufydd o’r naill du, a thri chufydd o’r tu arall. 49 Y cyntedd oedd ugain cufydd o hyd, ac un cufydd ar ddeg o led: ac efe a’m dug ar hyd y grisiau ar hyd y rhai y dringent iddo: hefyd yr ydoedd colofnau wrth y pyst, un o’r naill du, ac un o’r tu arall.

41 Ac efe a’m dug i i’r deml, ac a fesurodd y pyst yn chwe chufydd o led o’r naill du, ac yn chwe chufydd o led o’r tu arall, fel yr oedd lled y babell. Lled y drws hefyd oedd ddeg cufydd; ac ystlysau y drws yn bum cufydd o’r naill du, ac yn bum cufydd o’r tu arall: ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ddeugain cufydd, a’r lled yn ugain cufydd. Ac efe a aeth tuag i mewn, ac a fesurodd bost y drws yn ddau gufydd, a’r drws yn chwe chufydd, a lled y drws yn saith gufydd. Ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ugain cufydd; a’r lled yn ugain cufydd o flaen y deml: ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y cysegr sancteiddiolaf. Ac efe a fesurodd bared y tŷ yn chwe chufydd; a lled pob ystlysgell yn bedwar cufydd o amgylch ogylch i’r tŷ. A’r celloedd oedd dair, cell ar gell, ac yn ddeg ar hugain o weithiau: ac yr oeddynt yn cyrhaeddyd at bared y tŷ yr hwn oedd i’r ystafelloedd o amgylch ogylch, fel y byddent ynglŷn; ac nid oeddynt ynglŷn o fewn pared y tŷ. Ac fe a ehangwyd, ac oedd yn myned ar dro uwch uwch i’r celloedd: oherwydd tro y tŷ oedd yn myned i fyny o amgylch y tŷ: am hynny y tŷ oedd ehangach oddi arnodd; ac felly y dringid o’r isaf i’r uchaf trwy y ganol. Gwelais hefyd uchder y tŷ o amgylch ogylch: seiliau y celloedd oedd gorsen helaeth o chwe chufydd mawrion. A thewder y mur yr hwn oedd i’r gell o’r tu allan, oedd bum cufydd; a’r gweddill oedd le i’r celloedd y rhai oedd o fewn. 10 A rhwng yr ystafelloedd yr oedd lled ugain cufydd ynghylch y tŷ o amgylch ogylch. 11 A drysau yr ystlysgell oedd tua’r llannerch weddill; un drws tua’r gogledd, ac un drws tua’r deau: a lled y fan a weddillasid oedd bum cufydd o amgylch ogylch. 12 A’r adeiladaeth yr hon oedd o flaen y llannerch neilltuol, ar y cwr tua’r gorllewin, oedd ddeg cufydd a thrigain o led; a mur yr adeiladaeth oedd bum cufydd o dewder o amgylch ogylch, a’i hyd oedd ddeg cufydd a phedwar ugain. 13 Ac efe a fesurodd y tŷ, yn gan cufydd o hyd; a’r llannerch neilltuol, a’r adeiladaeth, a’i pharwydydd, yn gan cufydd o hyd. 14 A lled wyneb y tŷ, a’r llannerch neilltuol tua’r dwyrain, oedd gan cufydd. 15 Ac efe a fesurodd hyd yr adeiladaeth ar gyfer y llannerch neilltuol yr hon oedd o’r tu cefn iddo, a’i ystafelloedd o’r naill du, ac o’r tu arall, yn gan cufydd, gyda’r deml oddi fewn, a drysau y cyntedd. 16 Y gorsingau, a’r ffenestri cyfyng, a’r ystafelloedd o amgylch ar eu tri uchder, ar gyfer y rhiniog a ystyllenasid â choed o amgylch ogylch, ac o’r llawr hyd y ffenestri, a’r ffenestri hefyd a ystyllenasid; 17 Hyd uwchben y drws, a hyd y tŷ o fewn ac allan, ac ar yr holl bared o amgylch ogylch o fewn ac allan, wrth fesurau. 18 A cheriwbiaid hefyd ac â phalmwydd y gweithiasid ef, palmwydden rhwng pob dau geriwb: a dau wyneb oedd i bob ceriwb. 19 Canys wyneb dyn oedd tua’r balmwydden o’r naill du, ac wyneb llew tua’r balmwydden o’r tu arall: yr oedd wedi ei weithio ar hyd y tŷ o amgylch ogylch. 20 Ceriwbiaid a phalmwydd a weithiasid o’r ddaear hyd oddi ar y drws, ac ar bared y deml. 21 Pedwar ochrog oedd pyst y deml, ac wyneb y cysegr; gwelediad y naill fel gwelediad y llall. 22 Yr allor bren oedd dri chufydd ei huchder, a’i hyd yn ddau gufydd: a’i chonglau, a’i huchder, a’i pharwydydd, oedd o bren. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y bwrdd sydd gerbron yr Arglwydd. 23 Ac yr ydoedd dau ddrws i’r deml ac i’r cysegr: 24 A dwy ddôr i’r drysau, sef dwy ddôr blygedig; dwy ddôr i’r naill ddrws, a dwy ddôr i’r llall. 25 A gwnaethid arnynt, ar ddrysau y deml, geriwbiaid a phalmwydd, fel y gwnaethid ar y parwydydd: ac yr oedd trawstiau coed ar wyneb y cyntedd o’r tu allan. 26 Ffenestri cyfyng hefyd a phalmwydd oedd o bob tu, ar ystlysau y porth, ac ar ystafelloedd y tŷ, a’r trawstiau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.