Chronological
10 Diarhebion Solomon. Mab doeth a wna dad llawen, a mab ffôl a dristâ ei fam. 2 Ni thycia trysorau drygioni: ond cyfiawnder a wared rhag angau. 3 Ni edy yr Arglwydd i enaid y cyfiawn newynu: ond efe a chwâl ymaith gyfoeth y drygionus. 4 Y neb a weithio â llaw dwyllodrus, fydd dlawd: ond llaw y diwyd a gyfoethoga. 5 Mab synhwyrol yw yr hwn a gasgl amser haf: ond mab gwaradwyddus yw yr hwn a gwsg amser cynhaeaf. 6 Bendithion fydd ar ben y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus. 7 Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig: ond enw y drygionus a bydra. 8 Y galon ddoeth a dderbyn orchmynion: ond y ffôl ei wefusau a gwymp. 9 Y neb a rodio yn uniawn, a rodia yn ddiogel: ond y neb a gam‐dry ei ffyrdd, a fydd hynod. 10 Y neb a amneidio â’i lygaid, a bair flinder: a’r ffôl ei wefusau a gwymp. 11 Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus. 12 Casineb a gyfyd gynhennau: ond cariad a guddia bob camwedd. 13 Yng ngwefusau y synhwyrol y ceir doethineb: ond gwialen a weddai i gefn yr angall. 14 Y doethion a ystoriant wybodaeth: ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffôl. 15 Cyfoeth y cyfoethog yw dinas ei gadernid ef: ond dinistr y tlodion yw eu tlodi. 16 Gwaith y cyfiawn a dynn at fywyd: ond ffrwyth y drygionus tuag at bechod. 17 Ar y ffordd i fywyd y mae y neb a gadwo addysg: ond y neb a wrthodo gerydd, sydd yn cyfeiliorni. 18 A guddio gas â gwefusau celwyddog, a’r neb a ddywed enllib, sydd ffôl. 19 Yn amlder geiriau ni bydd pall ar bechod: ond y neb a atalio ei wefusau sydd synhwyrol. 20 Tafod y cyfiawn sydd fel arian detholedig: calon y drygionus ni thâl ond ychydig. 21 Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer: ond y ffyliaid, o ddiffyg synnwyr, a fyddant feirw. 22 Bendith yr Arglwydd a gyfoethoga; ac ni ddwg flinder gyda hi. 23 Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg: a chan ŵr synhwyrol y mae doethineb. 24 Y peth a ofno y drygionus, a ddaw iddo: ond y peth a ddeisyfo y rhai cyfiawn, Duw a’i rhydd. 25 Fel y mae y corwynt yn myned heibio, felly ni bydd y drygionus mwy: ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth. 26 Megis finegr i’r dannedd, a mwg i’r llygaid, felly y bydd y diog i’r neb a’i gyrrant. 27 Ofn yr Arglwydd a estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir. 28 Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd: ond gobaith y drygionus a dderfydd amdano. 29 Ffordd yr Arglwydd sydd gadernid i’r perffaith: ond dinistr fydd i’r rhai a wnânt anwiredd. 30 Y cyfiawn nid ysgog byth: ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear. 31 Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb: a’r tafod cyndyn a dorrir ymaith. 32 Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy; ond genau y drygionus a lefara drawsedd.
11 Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef. 2 Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda’r gostyngedig y mae doethineb. 3 Perffeithrwydd yr uniawn a’u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt. 4 Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau. 5 Cyfiawnder y perffaith a’i hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus. 6 Cyfiawnder y cyfiawn a’u gwared hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni. 7 Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: a gobaith y traws a gyfrgollir. 8 Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a’r drygionus a ddaw yn ei le ef. 9 Rhagrithiwr â’i enau a lygra ei gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth. 10 Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd. 11 Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi. 12 Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn. 13 Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth. 14 Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch. 15 Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn: ond y neb a gasao fachnïaeth, fydd ddiogel. 16 Gwraig rasol a gaiff anrhydedd; a’r galluog a gânt gyfoeth. 17 Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun: ond y creulon a flina ei gnawd ei hun. 18 Y drygionus a wna waith twyllodrus: ond i’r neb a heuo gyfiawnder, y bydd gwobr sicr. 19 Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd: felly dilyn drygioni a dywys i angau. 20 Ffiaidd gan yr Arglwydd y neb sydd gyndyn eu calonnau: eithr hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu ffyrdd. 21 Er maint fyddo cymorth, y drygionus ni bydd ddieuog: ond had y cyfiawn a waredir. 22 Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, yw benyw lân heb synnwyr. 23 Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig: ond gobaith y drygionus sydd ddicter. 24 Rhyw un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi. 25 Yr enaid hael a fraseir: a’r neb a ddyfrhao, a ddyfrheir yntau hefyd. 26 Y neb a atalio ei ŷd, y bobl a’i melltithia: ond bendith a fydd ar ben y neb a’i gwertho. 27 Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y neb a geisio ddrwg, iddo ei hun y daw. 28 Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth, a syrth: ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen. 29 Y neb a flino ei dŷ ei hun, a berchenoga y gwynt: a’r ffôl a fydd gwas i’r synhwyrol ei galon. 30 Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd: a’r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth. 31 Wele, telir i’r cyfiawn ar y ddaear: pa faint mwy i’r drygionus a’r pechadur?
12 Yneb a garo addysg, a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw. 2 Gŵr da a gaiff ffafr gan yr Arglwydd: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe. 3 Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga. 4 Gwraig rymus sydd goron i’w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef. 5 Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus. 6 Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a’u gwared hwynt. 7 Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif. 8 Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir. 9 Gwell yw yr hwn a’i cydnabyddo ei hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na’r hwn a’i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara. 10 Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon. 11 Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw. 12 Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth. 13 Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder. 14 Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo. 15 Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall. 16 Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd: ond y call a guddia gywilydd. 17 Y neb a ddywedo y gwir, a ddengys gyfiawnder; ond gau dyst a draetha dwyll. 18 Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth. 19 Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funud awr. 20 Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg: ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd. 21 Ni ddigwydd i’r cyfiawn ddim blinder; ond y drygionus a lenwir â drwg. 22 Ffiaidd gan yr Arglwydd wefusau celwyddog: ond y rhai a wnânt yn ffyddlon, a ryngant fodd iddo ef. 23 Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb. 24 Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged. 25 Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a’i llawenha hi. 26 Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a’u twylla hwynt. 27 Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr. 28 Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.