Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Hebreaid 7-10

Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham wrth ddychwelyd o ladd y brenhinoedd, ac a’i bendithiodd ef; I’r hwn hefyd y cyfrannodd Abraham ddegwm o bob peth: yr hwn yn gyntaf, o’i gyfieithu, yw Brenin cyfiawnder, ac wedi hynny hefyd, Brenin Salem, yr hyn yw, Brenin heddwch; Heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechrau dyddiau, na diwedd einioes; eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw, sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd. Edrychwch faint oedd hwn, i’r hwn hefyd y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o’r anrhaith. A’r rhai yn wir sydd o feibion Lefi yn derbyn swydd yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i gymryd degwm gan y bobl yn ôl y gyfraith, sef gan eu brodyr, er eu bod wedi dyfod o lwynau Abraham: Eithr yr hwn nid oedd ei achau ohonynt hwy, a gymerodd ddegwm gan Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo. Ac yn ddi‐ddadl, yr hwn sydd leiaf a fendithir gan ei well. Ac yma y mae dynion y rhai sydd yn meirw yn cymryd degymau: eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd amdano ei fod ef yn fyw. Ac, fel y dywedwyf felly, yn Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm, yr hwn oedd yn cymryd degymau. 10 Oblegid yr ydoedd efe eto yn lwynau ei dad, pan gyfarfu Melchisedec ag ef. 11 Os ydoedd gan hynny berffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi, (oblegid dan honno y rhoddwyd y gyfraith i’r bobl,) pa raid oedd mwyach godi Offeiriad arall yn ôl urdd Melchisedec, ac nas gelwid ef yn ôl urdd Aaron? 12 Canys wedi newidio’r offeiriadaeth, anghenraid yw bod cyfnewid ar y gyfraith hefyd. 13 Oblegid am yr hwn y dywedir y pethau hyn, efe a berthyn i lwyth arall, o’r hwn nid oedd neb yn gwasanaethu’r allor. 14 Canys hysbys yw, mai o Jwda y cododd ein Harglwydd ni; am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tuag at offeiriadaeth. 15 Ac y mae’n eglurach o lawer eto; od oes yn ôl cyffelybrwydd Melchisedec Offeiriad arall yn codi, 16 Yr hwn a wnaed, nid yn ôl cyfraith gorchymyn cnawdol, eithr yn ôl nerth bywyd annherfynol. 17 Canys tystiolaethu y mae, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec. 18 Canys yn ddiau y mae dirymiad i’r gorchymyn sydd yn myned o’r blaen, oherwydd ei lesgedd a’i afles. 19 Oblegid ni pherffeithiodd y gyfraith ddim, namyn dwyn gobaith gwell i mewn a berffeithiodd; trwy yr hwn yr ydym yn nesáu at Dduw. 20 Ac yn gymaint nad heb lw y gwnaethpwyd ef yn Offeiriad: 21 (Canys y rhai hynny yn wir ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lw: ond hwn trwy lw, gan yr hwn a ddywedodd wrtho, Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Ti sydd Offeiriad yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec:) 22 Ar destament gwell o hynny y gwnaethpwyd Iesu yn Fachnïydd. 23 A’r rhai hynny yn wir, llawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriaid, oherwydd lluddio iddynt gan farwolaeth barhau: 24 Ond hwn, am ei fod ef yn aros yn dragywydd, sydd ag offeiriadaeth dragwyddol ganddo. 25 Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbl iacháu’r rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy. 26 Canys y cyfryw Archoffeiriad sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn uwch na’r nefoedd, oedd weddus i ni; 27 Yr hwn nid yw raid iddo beunydd, megis i’r offeiriaid hynny, offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros yr eiddo’r bobl: canys hynny a wnaeth efe unwaith, pan offrymodd efe ef ei hun. 28 Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt, yn archoffeiriaid; eithr gair y llw, yr hwn a fu wedi’r gyfraith, sydd yn gwneuthur y Mab, yr hwn a berffeithiwyd yn dragywydd.

A phen ar y pethau a ddywedwyd yw hyn: Y mae gennym y fath Archoffeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc y Mawredd yn y nefoedd; Yn Weinidog y gysegrfa, a’r gwir dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn. Canys pob archoffeiriad a osodir i offrymu rhoddion ac aberthau: oherwydd paham rhaid oedd bod gan hwn hefyd yr hyn a offrymai. Canys yn wir pe bai efe ar y ddaear, ni byddai yn offeiriad chwaith; gan fod offeiriaid y rhai sydd yn offrymu rhoddion yn ôl y ddeddf: Y rhai sydd yn gwasanaethu i siampl a chysgod y pethau nefol, megis y rhybuddiwyd Moses gan Dduw, pan oedd efe ar fedr gorffen y babell: canys, Gwêl, medd efe, ar wneuthur ohonot bob peth yn ôl y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd. Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae yn Gyfryngwr cyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell. Oblegid yn wir pe buasai’r cyntaf hwnnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i’r ail. Canys yn beio arnynt hwy y dywed efe, Wele, y mae’r dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, ac mi a wnaf â thŷ Israel ac â thŷ Jwda gyfamod newydd: Nid fel y cyfamod a wneuthum â’u tadau hwynt, yn y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn hwy o dir yr Aifft: oblegid ni thrigasant hwy yn fy nghyfamod i, minnau a’u hesgeulusais hwythau, medd yr Arglwydd. 10 Oblegid hwn yw’r cyfamod a amodaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt: a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minnau yn bobl: 11 Ac ni ddysgant bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd: oblegid hwynt‐hwy oll a’m hadnabyddant i, o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt. 12 Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau, a’u pechodau hwynt a’u hanwireddau ni chofiaf ddim ohonynt mwyach. 13 Wrth ddywedyd, Cyfamod newydd, efe a farnodd y cyntaf yn hen. Eithr yr hwn a aeth yn hen ac yn oedrannus, sydd agos i ddiflannu.

Am hynny yn wir yr ydoedd hefyd i’r tabernacl cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a chysegr bydol. Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneuthur; y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a’r bwrdd, a’r bara gosod; yr hwn dabernacl a elwid, Y cysegr. Ac yn ôl yr ail len, yr oedd y babell, yr hon a elwid, Y cysegr sancteiddiolaf; Yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch; yn yr hon yr oedd y crochan aur a’r manna ynddo, a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a llechau’r cyfamod: Ac uwch ei phen ceriwbiaid y gogoniant yn cysgodi’r drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan. A’r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i’r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw: Ac i’r ail, unwaith bob blwyddyn yr âi’r archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto’i hun, a thros anwybodaeth y bobl. A’r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn, nad oedd y ffordd i’r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto, tra fyddai’r tabernacl cyntaf yn sefyll: Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio’r addolydd; 10 Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwydydd, a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad. 11 Eithr Crist, wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o’r adeiladaeth yma; 12 Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i’r cysegr, gan gael i ni dragwyddol ryddhad. 13 Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd; 14 Pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy’r Ysbryd tragwyddol a’i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu’r Duw byw? 15 Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y cyfamod newydd, megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf, y câi’r rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol. 16 Oblegid lle byddo testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y testamentwr. 17 Canys wedi marw dynion y mae testament mewn grym: oblegid nid oes eto nerth ynddo tra fyddo’r testamentwr yn fyw. 18 O ba achos ni chysegrwyd y cyntaf heb waed. 19 Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr, a gwlân porffor, ac isop, ac a’i taenellodd ar y llyfr a’r bobl oll, 20 Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y testament a orchmynnodd Duw i chwi. 21 Y tabernacl hefyd a holl lestri’r gwasanaeth a daenellodd efe â gwaed yr un modd. 22 A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith; ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant. 23 Rhaid oedd gan hynny i bortreiadau’r pethau sydd yn y nefoedd gael eu puro â’r pethau hyn; a’r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na’r rhai hyn. 24 Canys nid i’r cysegr o waith llaw, portreiad y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn; ond i’r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni: 25 Nac fel yr offrymai efe ei hun yn fynych, megis y mae’r archoffeiriad yn myned i mewn i’r cysegr bob blwyddyn, â gwaed arall: 26 (Oblegid yna rhaid fuasai iddo’n fynych ddioddef er dechreuad y byd;) eithr yr awron unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun. 27 Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn: 28 Felly Crist hefyd, wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith, heb bechod, i’r rhai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth.

10 Oblegid y gyfraith, yr hon sydd ganddi gysgod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, nis gall trwy’r aberthau hynny, y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymu yn wastadol, byth berffeithio’r rhai a ddêl ati. Oblegid yna hwy a beidiasent â’u hoffrymu, am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glanhau unwaith. Eithr yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn. Canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau. Oherwydd paham y mae efe, wrth ddyfod i’r byd, yn dywedyd, Aberth ac offrwm nis mynnaist, eithr corff a gymhwysaist i mi: Offrymau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt. Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod, (y mae yn ysgrifenedig yn nechrau y llyfr amdanaf,) i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Wedi iddo ddywedyd uchod, Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir; Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail. 10 Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith. 11 Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau: 12 Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw; 13 O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef. 14 Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio. 15 Ac y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o’r blaen, 16 Dyma’r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau; 17 A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwyach. 18 A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod. 19 Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu, 20 Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy’r llen, sef ei gnawd ef; 21 A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw: 22 Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glân. 23 Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi‐sigl; (canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd;) 24 A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da: 25 Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu. 26 Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; 27 Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr. 28 Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion: 29 Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras? 30 Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl. 31 Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw. 32 Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon: 33 Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly. 34 Canys chwi a gyd‐ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus. 35 Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr. 36 Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid. 37 Oblegid ychydig bachigyn eto, a’r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. 38 A’r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thyn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo. 39 Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.