Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Titus 1-3

Paul, gwas Duw, ac apostol Iesu Grist, yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwirionedd, yr hon sydd yn ôl duwioldeb; I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau’r byd; Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr; At Titus, fy mab naturiol yn ôl y ffydd gyffredinol: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist ein Hiachawdwr ni. Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ôl, ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megis yr ordeiniais i ti: Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd: Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddicllon, nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; Eithr yn lletygar, yn caru daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus; Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysg, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi’r rhai sydd yn gwrthddywedyd. 10 Canys y mae llawer yn anufudd, yn ofer‐siaradus, ac yn dwyllwyr meddyliau, yn enwedig y rhai o’r enwaediad: 11 Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfain, gan athrawiaethu’r pethau ni ddylid, er mwyn budrelw. 12 Un ohonynt hwy eu hunain, un o’u proffwydi hwy eu hunain, a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, boliau gorddïog. 13 Y dystiolaeth hon sydd wir. Am ba achos argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd; 14 Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd, a gorchmynion dynion, yn troi oddi wrth y gwirionedd. 15 Pur yn ddiau yw pob peth i’r rhai pur: eithr i’r rhai halogedig a’r di‐ffydd, nid pur dim; eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a’u cydwybod hwy. 16 Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw; eithr ar weithredoedd ei wadu y maent, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymeradwy.

Eithr llefara di’r pethau a weddo i athrawiaeth iachus: Bod o’r hynafgwyr yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd: Bod o’r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni: Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant, Yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod, fel na chabler gair Duw. Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr: Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredigaeth, gweddeidd‐dra, purdeb, Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd amdanoch chwi. Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i’w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth; nid yn gwrthddywedyd; 10 Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth. 11 Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn; 12 Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron; 13 Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Hiachawdwr Iesu Grist; 14 Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom, i’n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i’n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da. 15 Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.

Dwg ar gof iddynt fod yn ddarostyngedig i’r tywysogaethau a’r awdurdodau, fod yn ufudd, fod yn barod i bob gweithred dda, Bod heb gablu neb, yn anymladdgar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn. Canys yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion, yn anufudd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn ddigasog, yn casáu ein gilydd. Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn, Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân; Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr: Fel, gwedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y’n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol. Gwir yw’r gair, ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer, fel y byddo i’r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion. Eithr gochel gwestiynau ffôl, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonau ynghylch y ddeddf: canys anfuddiol ydynt ac ofer. 10 Gochel y dyn a fyddo heretic, wedi un ac ail rybudd: 11 Gan wybod fod y cyfryw un wedi ei ŵyrdroi, ac yn pechu, gan fod yn ei ddamnio ei hunan. 12 Pan ddanfonwyf Artemas atat, neu Tychicus, bydd ddyfal i ddyfod ataf i Nicopolis: canys yno yr arfaethais aeafu. 13 Hebrwng Senas y cyfreithiwr, ac Apolos yn ddiwyd; fel na byddo arnynt eisiau dim. 14 A dysged yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da i angenrheidiau, fel na byddont yn ddiffrwyth. 15 Y mae’r holl rai sydd gyda mi yn dy annerch. Annerch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.

At Titus, yr esgob cyntaf a ddewiswyd ar eglwys y Cretiaid, yr ysgrifennwyd o Nicopolis ym Macedonia.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.