Chronological
20 Ac ar ôl gostegu’r cythrwfl, Paul, wedi galw’r disgyblion ato, a’u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Facedonia. 2 Ac wedi iddo fyned dros y parthau hynny, a’u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i dir Groeg. 3 Ac wedi aros dri mis, a gwneuthur o’r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ar fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Facedonia.
1 Paul, gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fod yn apostol, ac wedi ei neilltuo i efengyl Duw, 2 (Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd,) 3 Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni, yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd; 4 Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy’r atgyfodiad oddi wrth y meirw: 5 Trwy’r hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd‐dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef: 6 Ymysg y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist: 7 At bawb sydd yn Rhufain, yn annwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 8 Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd. 9 Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddi‐baid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau, 10 Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi. 11 Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel y’ch cadarnhaer: 12 A hynny sydd i’m cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau. 13 Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo’m lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill. 14 Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid, ac i’r barbariaid hefyd; i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd. 15 Felly, hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu’r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain. 16 Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a’r sydd yn credu; i’r Iddew yn gyntaf, a hefyd i’r Groegwr. 17 Canys ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd; megis y mae yn ysgrifenedig, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. 18 Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder. 19 Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a’i heglurodd iddynt. 20 Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a’i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus: 21 Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a’u calon anneallus hwy a dywyllwyd. 22 Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid; 23 Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid. 24 O ba herwydd Duw hefyd a’u rhoddes hwy i fyny, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, i amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain: 25 Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na’r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen. 26 Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus: canys eu gwragedd hwy a newidiasant yr arfer anianol i’r hon sydd yn erbyn anian: 27 Ac yn gyffelyb y gwŷr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o’r wraig, a ymlosgent yn eu hawydd i’w gilydd; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid. 28 Ac megis nad oedd gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a’u rhoddes hwynt i fyny i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd: 29 Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd‐dod, drygioni; yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg anwydau; 30 Yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddychmygwyr drygioni, yn anufudd i rieni, 31 Yn anneallus, yn dorwyr amod, yn angharedig, yn anghymodlon, yn anhrugarogion: 32 Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw, fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd yn cydymfodloni â’r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.
2 Oherwydd paham, diesgus wyt ti, O ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pethau. 2 Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau. 3 Ac a wyt ti’n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw? 4 Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddioddefgarwch, a’i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? 5 Eithr yn ôl dy galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw, 6 Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd: 7 Sef i’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol: 8 Eithr i’r rhai sydd gynhennus, ac anufudd i’r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint; 9 Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a’r Groegwr hefyd: 10 Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthur daioni; i’r Iddew yn gyntaf, ac i’r Groegwr hefyd. 11 Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw. 12 Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi‐ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi‐ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf; 13 (Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw, ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir. 14 Canys pan yw’r Cenhedloedd y rhai nid yw’r ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain: 15 Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a’u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn esgusodi;) 16 Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist. 17 Wele, Iddew y’th elwir di, ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw; 18 Ac yn gwybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, gan fod wedi dy addysgu o’r ddeddf; 19 Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i’r deillion, yn llewyrch i’r rhai sydd mewn tywyllwch, 20 Yn athro i’r angall, yn ddysgawdwr i’r rhai bach, a chennyt ffurf y gwybodaeth a’r gwirionedd yn y ddeddf. 21 Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrater, a ladreti di? 22 Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gysegrysbeili di? 23 Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf, trwy dorri’r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw? 24 Canys enw Duw o’ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd, megis y mae yn ysgrifenedig. 25 Canys enwaediad yn wir a wna les, os cedwi y ddeddf: eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad. 26 Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad? 27 Ac oni bydd i’r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth, os ceidw y ddeddf, dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren a’r enwaediad wyt yn troseddu’r ddeddf? 28 Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew; ac nid enwaediad yw yr hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd: 29 Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.
3 Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew? neu pa fudd sydd o’r enwaediad? 2 Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw. 3 Oblegid beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer? 4 Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y’th farner. 5 Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;) 6 Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd? 7 Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i’w ogoniant ef, paham y’m bernir innau eto megis pechadur? 8 Ac nid, (megis y’n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn. 9 Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o’r blaen fod pawb, yr Iddewon a’r Groegwyr, dan bechod; 10 Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un: 11 Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw. 12 Gŵyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un. 13 Bedd agored yw eu ceg; â’u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau: 14 Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd: 15 Buan yw eu traed i dywallt gwaed: 16 Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd: 17 A ffordd tangnefedd nid adnabuant: 18 Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid. 19 Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae’r ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y caeer pob genau, ac y byddo’r holl fyd dan farn Duw. 20 Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys trwy’r ddeddf y mae adnabod pechod. 21 Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r proffwydi; 22 Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth: 23 Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw; 24 A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu: 25 Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw; 26 I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu. 27 Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd. 28 Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf. 29 Ai i’r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw i’r Cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i’r Cenhedloedd hefyd: 30 Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad wrth ffydd, a’r dienwaediad trwy ffydd. 31 Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi‐rym trwy ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau’r ddeddf.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.