Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Corinthiaid 5-8

Mae’r gair yn hollol, fod yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd; sef cael o un wraig ei dad. Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon. Canys myfi yn ddiau, fel absennol yn y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, a fernais eisoes, fel pe bawn bresennol, am yr hwn a wnaeth y peth hwn felly, Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, pan ymgynulloch ynghyd, a’m hysbryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist, Draddodi’r cyfryw un i Satan, i ddinistr y cnawd, fel y byddo’r ysbryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu. Nid da eich gorfoledd chwi. Oni wyddoch chwi fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does? Am hynny certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni: Am hynny cadwn ŵyl, nid â hen lefain, nac â lefain malais a drygioni; ond â bara croyw purdeb a gwirionedd. Mi a ysgrifennais atoch mewn llythyr, na chydymgymysgech â godinebwyr: 10 Ac nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â’r cybyddion, neu â’r cribddeilwyr, neu ag eilun‐addolwyr; oblegid felly rhaid fyddai i chwi fyned allan o’r byd. 11 Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda’r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith. 12 Canys beth sydd i mi a farnwyf ar y rhai sydd oddi allan? onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu? 13 Eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. Bwriwch chwithau ymaith y dyn drygionus hwnnw o’ch plith chwi.

A feiddia neb ohonoch, a chanddo fater yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint? Oni wyddoch chwi y barna’r saint y byd? ac os trwoch chwi y bernir y byd, a ydych chwi yn anaddas i farnu’r pethau lleiaf? Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion? pa faint mwy y pethau a berthyn i’r bywyd hwn? Gan hynny, od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i’r bywyd hwn, dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys. Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr? Ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny gerbron y rhai di‐gred? Yr awron gan hynny y mae yn hollol ddiffyg yn eich plith, am eich bod yn ymgyfreithio â’ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? paham nad ydych yn hytrach mewn colled? Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hynny i’r brodyr. Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godinebwyr, nac eilun‐addolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr, 10 Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw. 11 A hyn fu rai ohonoch chwi: eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni. 12 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim. 13 Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A’r corff nid yw i odineb, ond i’r Arglwydd; a’r Arglwydd i’r corff. 14 Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a’n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef. 15 Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn aelodau i Grist? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist, a’u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw. 16 Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain, yn un corff? canys y ddau (medd efe) fyddant un cnawd. 17 Ond yr hwn a gysylltir â’r Arglwydd, un ysbryd yw. 18 Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i’w gorff y mae; ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. 19 Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i’r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain? 20 Canys er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw.

Ac am y pethau yr ysgrifenasoch ataf: Da i ddyn na chyffyrddai â gwraig. Ond rhag godineb, bydded i bob gŵr ei wraig ei hun, a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun. Rhodded y gŵr i’r wraig ddyledus ewyllys da; a’r un wedd y wraig i’r gŵr. Nid oes i’r wraig feddiant ar ei chorff ei hun, ond i’r gŵr; ac yr un ffunud, nid oes i’r gŵr feddiant ar ei gorff ei hun, ond i’r wraig. Na thwyllwch eich gilydd, oddieithr o gydsyniad dros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganiatâd, nid o orchymyn. Canys mi a fynnwn fod pob dyn fel fi fy hun: eithr y mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw; i un fel hyn, ac i arall fel hyn. Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi, a’r gwragedd gweddwon, Da yw iddynt os arhosant fel finnau. Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi. 10 Ac i’r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymyn, nid myfi chwaith, ond yr Arglwydd, Nad ymadawo gwraig oddi wrth ei gŵr: 11 Ac os ymedy hi, arhoed heb briodi, neu, cymoder hi â’i gŵr: ac na ollynged y gŵr ei wraig ymaith. 12 Ac wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi, nid yr Arglwydd, Os bydd i un brawd wraig ddi‐gred, a hithau yn fodlon i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith. 13 A’r wraig, yr hon y mae iddi ŵr di‐gred, ac yntau yn fodlon i drigo gyda hi, na wrthoded hi ef. 14 Canys y gŵr di‐gred a sancteiddir trwy’r wraig, a’r wraig ddi‐gred a sancteiddir trwy’r gŵr: pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt. 15 Eithr os yr anghredadun a ymedy, ymadawed. Nid yw’r brawd neu’r chwaer gaeth yn y cyfryw bethau; eithr Duw a’n galwodd ni i heddwch. 16 Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost tithau, ŵr, a gedwi di dy wraig? 17 Ond megis y darfu i Dduw rannu i bob un, megis y darfu i’r Arglwydd alw pob un, felly rhodied. Ac fel hyn yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll. 18 A alwyd neb wedi ei enwaedu? nac adgeisied ddienwaediad. A alwyd neb mewn dienwaediad? nac enwaeder arno. 19 Enwaediad nid yw ddim, a dienwaediad nid yw ddim, ond cadw gorchmynion Duw. 20 Pob un yn yr alwedigaeth y galwyd ef, yn honno arhosed. 21 Ai yn was y’th alwyd? na fydded gwaeth gennyt; eto os gelli gael bod yn rhydd, mwynha hynny yn hytrach. 22 Canys yr hwn, ac ef yn was, a alwyd yn yr Arglwydd, gŵr rhydd i’r Arglwydd ydyw: a’r un ffunud yr hwn, ac efe yn ŵr rhydd, a alwyd, gwas i Grist yw. 23 Er gwerth y’ch prynwyd; na fyddwch weision dynion. 24 Yn yr hyn y galwyd pob un, frodyr, yn hynny arhosed gyda Duw. 25 Eithr am wyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd: ond barn yr ydwyf yn ei roi, fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlon. 26 Am hynny yr wyf yn tybied mai da yw hyn, oherwydd yr anghenraid presennol, mai da, meddaf, i ddyn fod felly. 27 A wyt ti yn rhwym i wraig? na chais dy ollwng yn rhydd. A wyt ti yn rhydd oddi wrth wraig? na chais wraig. 28 Ac os priodi hefyd, ni phechaist: ac os prioda gwyry, ni phechodd. Er hynny y cyfryw rai a gânt flinder yn y cnawd: eithr yr wyf yn eich arbed chwi. 29 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, frodyr, am fod yr amser yn fyr. Y mae yn ôl, fod o’r rhai sydd â gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt; 30 A’r rhai a wylant, megis heb wylo; a’r rhai a lawenhânt, megis heb lawenhau; a’r rhai a brynant, megis heb feddu; 31 A’r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gamarfer: canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio. 32 Eithr mi a fynnwn i chwi fod yn ddiofal. Yr hwn sydd heb briodi, sydd yn gofalu am bethau’r Arglwydd, pa wedd y bodlona’r Arglwydd: 33 Ond y neb a wreicaodd, sydd yn gofalu am bethau’r byd, pa wedd y bodlona ei wraig. 34 Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a gwyry. Y mae’r hon sydd heb briodi, yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i’r Arglwydd, fel y byddo hi sanctaidd yng nghorff ac ysbryd: ac y mae’r hon sydd wedi priodi, yn gofalu am bethau bydol, pa fodd y rhynga hi fodd i’w gŵr. 35 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi eich hunain; nid i osod magl i chwi, eithr er mwyn gweddeidd‐dra, a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahân. 36 Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyry, od â hi dros flodau ei hoedran, a bod yn rhaid gwneuthur felly; gwnaed a fynno, nid yw yn pechu: priodant. 37 Ond yr hwn sydd yn sefyll yn sicr yn ei galon, ac yn afraid iddo, ac â meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun, ac a roddodd ei fryd ar hynny yn ei galon, ar gadw ohono ei wyry; da y mae yn gwneuthur. 38 Ac am hynny, yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well. 39 Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith, tra fyddo byw ei gŵr: ond o bydd marw ei gŵr, y mae hi yn rhydd i briodi’r neb a fynno; yn unig yn yr Arglwydd. 40 Eithr dedwyddach yw hi os erys hi felly, yn fy marn i: ac yr ydwyf finnau yn tybied fod Ysbryd Duw gennyf.

Eithr am yr hyn a aberthwyd i eilunod, ni a wyddom fod gan bawb ohonom wybodaeth. Gwybodaeth sydd yn chwyddo, eithr cariad sydd yn adeiladu. Eithr os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr efe eto ddim fel y dylai wybod. Ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adwaenir ganddo ef. Am fwyta gan hynny o’r pethau a aberthir i eilunod, ni a wyddom nad yw eilun ddim yn y byd, ac nad oes un Duw arall ond un. Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer,) Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tad, o’r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef. Ond nid yw’r wybodaeth hon gan bawb: canys rhai, a chanddynt gydwybod o’r eilun hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod; a’u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir. Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymeradwy gan Dduw: canys nid ydym, os bwytawn, yn helaethach; nac onis bwytawn, yn brinnach. Ond edrychwch rhag mewn un modd i’ch rhyddid hwn fod yn dramgwydd i’r rhai sydd weiniaid. 10 Canys os gwêl neb dydi sydd â gwybodaeth gennyt, yn eistedd i fwyta yn nheml yr eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod ef, ac yntau’n wan, i fwyta’r pethau a aberthwyd i eilunod; 11 Ac a ddifethir y brawd gwan trwy dy wybodaeth di, dros yr hwn y bu Crist farw? 12 A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist. 13 Oherwydd paham, os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwytâf fi gig fyth, rhag i mi rwystro fy mrawd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.