Chronological
23 A’r holl liaws ohonynt a gyfodasant, ac a’i dygasant ef at Peilat: 2 Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyrdroi’r bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Gesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin. 3 A Pheilat a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Ac efe a atebodd iddo, ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd. 4 A dywedodd Peilat wrth yr archoffeiriaid a’r bobl, Nid wyf fi yn cael dim bai ar y dyn hwn. 5 A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi’r bobl, gan ddysgu trwy holl Jwdea, wedi dechrau o Galilea hyd yma. 6 A phan glybu Peilat sôn am Galilea, efe a ofynnodd ai Galilead oedd y dyn. 7 A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a’i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.
8 A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer amdano ef; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef. 9 Ac efe a’i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo. 10 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug. 11 A Herod a’i filwyr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a’i watwar, a’i wisgo â gwisg glaerwen, a’i danfonodd ef drachefn at Peilat.
12 A’r dwthwn hwnnw yr aeth Peilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o’r blaen mewn gelyniaeth â’i gilydd.
13 A Pheilat, wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid, a’r llywiawdwyr, a’r bobl, 14 A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un a fyddai’n gŵyrdroi’r bobl: ac wele, myfi a’i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef amdanynt: 15 Na Herod chwaith: canys anfonais chwi ato ef; ac wele, dim yn haeddu marwolaeth nis gwnaed iddo. 16 Am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf ymaith. 17 Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr ŵyl. 18 A’r holl liaws a lefasant ar unwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd: 19 (Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.) 20 Am hynny Peilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd. 21 Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. 22 Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo; am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf yn rhydd. 23 Hwythau a fuont daerion â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A’u llefau hwynt a’r archoffeiriaid a orfuant. 24 A Pheilat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt. 25 Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid yng ngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt. 26 Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o’r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i’w dwyn ar ôl yr Iesu.
27 Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o’i blegid ef. 28 A’r Iesu, wedi troi atynt, a ddywedodd, Merched Jerwsalem, nac wylwch o’m plegid i: eithr wylwch o’ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant. 29 Canys wele, y mae’r dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy, a’r crothau nid epiliasant, a’r bronnau ni roesant sugn. 30 Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni. 31 Canys os gwnânt hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin? 32 Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill, drwgweithredwyr, i’w rhoi i’w marwolaeth. 33 A phan ddaethant i’r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a’r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a’r llall ar yr aswy.
34 A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren. 35 A’r bobl a safodd yn edrych. A’r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw. 36 A’r milwyr hefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddyfod ato, a chynnig iddo finegr, 37 A dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iddewon, gwared dy hun. 38 Ac yr ydoedd hefyd arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef, â llythrennau Groeg, a Lladin, a Hebraeg, HWN YW BRENIN YR IDDEWON.
39 Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau. 40 Eithr y llall a atebodd, ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth? 41 A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le. 42 Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas. 43 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys. 44 Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 45 A’r haul a dywyllwyd, a llen y deml a rwygwyd yn ei chanol.
46 A’r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, O Dad, i’th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd. 47 A’r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn. 48 A’r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau. 49 A’i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a’r gwragedd y rhai a’i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.
50 Ac wele, gŵr a’i enw Joseff, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn: 51 (Hwn ni chytunasai â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw; 52 Hwn a ddaeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. 53 Ac efe a’i tynnodd i lawr, ac a’i hamdôdd mewn lliain main, ac a’i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed. 54 A’r dydd hwnnw oedd ddarpar‐ŵyl, a’r Saboth oedd yn nesáu. 55 A’r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef. 56 A hwy a ddychwelasant, ac a baratoesant beraroglau ac ennaint; ac a orffwysasant ar y Saboth, yn ôl y gorchymyn.
18 Gwedi i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr oedd gardd, i’r hon yr aeth efe a’i ddisgyblion. 2 A Jwdas hefyd, yr hwn a’i bradychodd ef, a adwaenai’r lle: oblegid mynych y cyrchasai’r Iesu a’i ddisgyblion yno. 3 Jwdas gan hynny, wedi iddo gael byddin a swyddogion gan yr archoffeiriaid a’r Phariseaid, a ddaeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau. 4 Yr Iesu gan hynny, yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio? 5 Hwy a atebasant iddo, Iesu o Nasareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyda hwynt. 6 Cyn gynted gan hynny ag y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn wysg eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr. 7 Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nasareth. 8 Yr Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith: 9 Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, O’r rhai a roddaist i mi, ni chollais i’r un. 10 Simon Pedr gan hynny a chanddo gleddyf, a’i tynnodd ef, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef: ac enw’r gwas oedd Malchus. 11 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth Pedr, Dod dy gleddyf yn y wain: y cwpan a roddes y Tad i mi, onid yfaf ef? 12 Yna’r fyddin, a’r milwriad, a swyddogion yr Iddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a’i rhwymasant ef, 13 Ac a’i dygasant ef at Annas yn gyntaf: canys chwegrwn Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, ydoedd efe. 14 A Chaiaffas oedd yr hwn a gyngorasai i’r Iddewon, mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl.
15 Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Pedr, a disgybl arall: a’r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, ac efe a aeth i mewn gyda’r Iesu i lys yr archoffeiriad. 16 A Phedr a safodd wrth y drws allan. Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Pedr i mewn. 17 Yna y dywedodd y llances oedd ddrysores wrth Pedr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd yntau, Nac wyf. 18 A’r gweision a’r swyddogion, gwedi gwneuthur tân glo, oherwydd ei bod hi’n oer, oeddynt yn sefyll, ac yn ymdwymo: ac yr oedd Pedr gyda hwynt yn sefyll, ac yn ymdwymo.
19 A’r archoffeiriad a ofynnodd i’r Iesu am ei ddisgyblion, ac am ei athrawiaeth. 20 Yr Iesu a atebodd iddo, Myfi a leferais yn eglur wrth y byd: yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y synagog, ac yn y deml, lle mae’r Iddewon yn ymgynnull bob amser; ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim. 21 Paham yr wyt ti yn gofyn i mi? gofyn i’r rhai a’m clywsant, beth a ddywedais wrthynt: wele, y rhai hynny a wyddant pa bethau a ddywedais i. 22 Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, un o’r swyddogion a’r oedd yn sefyll gerllaw, a roddes gernod i’r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti’n ateb yr archoffeiriad? 23 Yr Iesu a atebodd iddo, Os drwg y dywedais, tystiolaetha o’r drwg; ac os da, paham yr wyt yn fy nharo i? 24 Ac Annas a’i hanfonasai ef yn rhwym at Caiaffas yr archoffeiriad. 25 A Simon Pedr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymo. Hwythau a ddywedasant wrtho, Onid wyt tithau hefyd o’i ddisgyblion ef? Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nac wyf. 26 Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, (câr i’r hwn y torasai Pedr ei glust,) Oni welais i di gydag ef yn yr ardd? 27 Yna Pedr a wadodd drachefn; ac yn y man y canodd y ceiliog.
28 Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaffas i’r dadleudy: a’r bore ydoedd hi; ac nid aethant hwy i mewn i’r dadleudy, rhag eu halogi; eithr fel y gallent fwyta’r pasg. 29 Yna Peilat a aeth allan atynt, ac a ddywedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn? 30 Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr, ni thraddodasem ni ef atat ti. 31 Am hynny y dywedodd Peilat wrthynt, Cymerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfreithlon i ni ladd neb: 32 Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedasai efe, gan arwyddocáu o ba angau y byddai farw. 33 Yna Peilat a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? 34 Yr Iesu a atebodd iddo, Ai ohonot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai eraill a’i dywedasant i ti amdanaf fi? 35 Peilat a atebodd, Ai Iddew ydwyf fi? Dy genedl dy hun a’r archoffeiriaid a’th draddodasant i mi. Beth a wnaethost ti? 36 Yr Iesu a atebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o’r byd hwn. Pe o’r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth, fy ngweision i a ymdrechent, fel na’m rhoddid i’r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma. 37 Yna y dywedodd Peilat wrtho, Wrth hynny ai Brenin wyt ti? Yr Iesu a atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er mwyn hyn y’m ganed, ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un a’r sydd o’r gwirionedd, sydd yn gwrando fy lleferydd i. 38 Peilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim achos ynddo ef. 39 Eithr y mae gennych chwi ddefod, i mi ollwng i chwi un yn rhydd ar y pasg: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon? 40 Yna y llefasant oll drachefn, gan ddywedyd, Nid hwnnw, ond Barabbas. A’r Barabbas hwnnw oedd leidr.
19 Yna gan hynny y cymerodd Peilat yr Iesu, ac a’i fflangellodd ef. 2 A’r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a’i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisg o borffor amdano; 3 Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon; ac a roesant iddo gernodiau. 4 Peilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai. 5 Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwain y goron ddrain, a’r wisg borffor. A Pheilat a ddywedodd wrthynt, Wele’r dyn. 6 Yna yr archoffeiriaid a’r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, Cymerwch chwi ef, a chroeshoeliwch: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo. 7 Yr Iddewon a atebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw.
8 A phan glybu Peilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy; 9 Ac a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu ateb iddo. 10 Yna Peilat a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di wrthyf fi? oni wyddost ti fod gennyf awdurdod i’th groeshoelio di, a bod gennyf awdurdod i’th ollwng yn rhydd? 11 Yr Iesu a atebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a’m traddodes i ti, sydd fwy ei bechod. 12 O hynny allan y ceisiodd Peilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Gesar. Pwy bynnag a’i gwnelo ei hun yn frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Cesar. 13 Yna Peilat, pan glybu’r ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu; ac a eisteddodd ar yr orseddfainc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha. 14 A darpar‐ŵyl y pasg oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, Wele eich Brenin. 15 Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? A’r archoffeiriaid a atebasant, Nid oes i ni frenin ond Cesar. 16 Yna gan hynny efe a’i traddodes ef iddynt i’w groeshoelio. A hwy a gymerasant yr Iesu, ac a’i dygasant ymaith. 17 Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid Lle’r benglog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha: 18 Lle y croeshoeliasant ef, a dau eraill gydag ef, un o bob tu, a’r Iesu yn y canol.
19 A Pheilat a ysgrifennodd deitl, ac a’i dododd ar y groes. A’r ysgrifen oedd, IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON. 20 Y teitl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o’r Iddewon; oblegid agos i’r ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, Groeg, a Lladin. 21 Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat, Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon; eithr dywedyd ohono ef, Brenin yr Iddewon ydwyf fi. 22 Peilat a atebodd, Yr hyn a ysgrifennais, a ysgrifennais.
23 Yna y milwyr, wedi iddynt groeshoelio’r Iesu, a gymerasant ei ddillad ef, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran; a’i bais ef: a’i bais ef oedd ddiwnïad, wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll. 24 Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goelbrennau amdani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd, Rhanasant fy nillad yn eu mysg, ac am fy mhais y bwriasant goelbrennau. A’r milwyr a wnaethant y pethau hyn.
25 Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleoffas, a Mair Magdalen. 26 Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab. 27 Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i’w gartref.
28 Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian, fel y cyflawnid yr ysgrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf. 29 Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a’i rhoddasant ynghylch isop, ac a’i dodasant wrth ei enau ef. 30 Yna pan gymerodd yr Iesu’r finegr, efe a ddywedodd, Gorffennwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny yr ysbryd. 31 Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoai’r cyrff ar y groes ar y Saboth, oherwydd ei bod yn ddarpar‐ŵyl, (canys mawr oedd y dydd Saboth hwnnw,) a ddeisyfasant ar Peilat gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr. 32 Yna y milwyr a ddaethant, ac a dorasant esgeiriau’r cyntaf, a’r llall yr hwn a groeshoeliasid gydag ef. 33 Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisoes, ni thorasant ei esgeiriau ef. 34 Ond un o’r milwyr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon: ac yn y fan daeth allan waed a dwfr. 35 A’r hwn a’i gwelodd, a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth: ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwi. 36 Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythur, Ni thorrir asgwrn ohono. 37 A thrachefn, ysgrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant.
38 Ac ar ôl hyn, Joseff o Arimathea (yr hwn oedd ddisgybl i’r Iesu, eithr yn guddiedig, rhag ofn yr Iddewon) a ddeisyfodd ar Peilat, gael tynnu i lawr gorff yr Iesu: a Pheilat a ganiataodd iddo. Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorff yr Iesu. 39 A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos,) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg, tua chan pwys. 40 Yna y cymerasant gorff yr Iesu, ac a’i rhwymasant mewn llieiniau, gydag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu. 41 Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed. 42 Ac yno, rhag nesed oedd darpar‐ŵyl yr Iddewon, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.