Chronological
17 Ac ar ôl chwe diwrnod y cymerodd yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a’u dug hwy i fynydd uchel o’r neilltu; 2 A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy: a’i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a’i ddillad oedd cyn wynned â’r goleuni. 3 Ac wele, Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef. 4 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias. 5 Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a’u cysgododd hwynt: ac wele, lef o’r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd: gwrandewch arno ef. 6 A phan glybu’r disgyblion hynny: hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr. 7 A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch. 8 Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig. 9 Ac fel yr oeddynt yn disgyn o’r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw. 10 A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hynny y mae’r ysgrifenyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Eleias yn gyntaf? 11 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn wir a ddaw yn gyntaf, ac a adfer bob peth. 12 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, ddyfod o Eleias eisoes: ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur ohonynt iddo beth bynnag a fynasant: felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy. 13 Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt.
14 Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth ato ryw ddyn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau, 15 Ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, oblegid y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych. 16 Ac mi a’i dygais ef at dy ddisgyblion di, ac ni allent hwy ei iacháu ef. 17 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y dioddefaf chwi? dygwch ef yma ataf fi. 18 A’r Iesu a geryddodd y cythraul; ac efe a aeth allan ohono: a’r bachgen a iachawyd o’r awr honno. 19 Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilltu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? 20 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symud oddi yma draw; ac efe a symudai: ac ni bydd dim amhosibl i chwi. 21 Eithr nid â’r rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac ympryd.
22 Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yng Ngalilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion: 23 A hwy a’i lladdant; a’r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.
24 Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Pedr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrnged? 25 Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i’r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid? 26 Pedr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae’r plant yn rhyddion. 27 Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i’r môr, a bwrw fach, a chymer y pysgodyn a ddêl i fyny yn gyntaf; ac wedi iti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi a thithau.
9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fod rhai o’r rhai sydd yn sefyll yma, ni phrofant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.
2 Ac wedi chwe diwrnod, y cymerth yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a’u dug hwynt i fynydd uchel, eu hunain o’r neilltu: ac efe a weddnewidiwyd yn eu gŵydd hwynt. 3 A’i ddillad ef a aethant yn ddisglair, yn gannaid iawn fel eira; y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu. 4 Ac ymddangosodd iddynt Eleias, gyda Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu. 5 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; i ti un, ac i Moses un, ac i Eleias un. 6 Canys nis gwyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd: canys yr oeddynt wedi dychrynu. 7 A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt hwy: a llef a ddaeth allan o’r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab; gwrandewch ef. 8 Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Iesu yn unig gyda hwynt. 9 A phan oeddynt yn dyfod i waered o’r mynydd, efe a orchmynnodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, hyd pan atgyfodai Mab y dyn o feirw. 10 A hwy a gadwasant y gair gyda hwynt eu hunain, gan gydymholi beth yw’r atgyfodi o feirw.
11 A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Eleias ddyfod yn gyntaf? 12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf a adfer bob peth; a’r modd yr ysgrifennwyd am Fab y dyn, y dioddefai lawer o bethau, ac y dirmygid ef. 13 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod Eleias yn ddiau, a gwneuthur ohonynt iddo yr hyn a fynasant, fel yr ysgrifennwyd amdano.
14 A phan ddaeth efe at ei ddisgyblion, efe a welodd dyrfa fawr yn eu cylch hwynt, a’r ysgrifenyddion yn cydymholi â hwynt. 15 Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ganfuant ef, a ddychrynasant, a chan redeg ato, a gyfarchasant iddo. 16 Ac efe a ofynnodd i’r ysgrifenyddion, Pa gydymholi yr ydych yn eich plith? 17 Ac un o’r dyrfa a atebodd ac a ddywedodd, Athro, mi a ddygais fy mab atat, ag ysbryd mud ynddo: 18 A pha le bynnag y cymero ef, efe a’i rhwyga; ac yntau a fwrw ewyn, ac a ysgyrnyga ddannedd, ac y mae’n dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy ddisgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan; ac nis gallasant. 19 Ac efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef ataf fi. 20 A hwy a’i dygasant ef ato. A phan welodd ef, yn y man yr ysbryd a’i drylliodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, dan falu ewyn. 21 A gofynnodd yr Iesu i’w dad ef, Beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntau a ddywedodd, Er yn fachgen. 22 A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac i’r dyfroedd, fel y difethai efe ef: ond os gelli di ddim, cymorth ni, gan dosturio wrthym. 23 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pob peth a all fod i’r neb a gredo. 24 Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymorth fy anghrediniaeth i. 25 A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cydredeg ato, efe a geryddodd yr ysbryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi ysbryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn i ti, Tyred allan ohono, ac na ddos mwy iddo ef. 26 Ac wedi i’r ysbryd lefain, a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel un marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef. 27 A’r Iesu a’i cymerodd ef erbyn ei law, ac a’i cyfododd; ac efe a safodd i fyny. 28 Ac wedi iddo fyned i mewn i’r tŷ, ei ddisgyblion a ofynasant iddo o’r neilltu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? 29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.
30 Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea: ac ni fynnai efe wybod o neb. 31 Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mab y dyn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr atgyfodai y trydydd dydd. 32 Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt ofyn iddo.
33 Ac efe a ddaeth i Gapernaum: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynnodd iddynt, Beth yr oeddech yn ymddadlau yn eich plith eich hunain ar y ffordd? 34 Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent â’i gilydd ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf. 35 Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o’r cwbl, a gweinidog i bawb. 36 Ac efe a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd ef yn eu canol hwynt: ac wedi iddo ei gymryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt, 37 Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a’m danfonodd i.
38 Ac Ioan a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Athro, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni; ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni. 39 A’r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi drygair i mi. 40 Canys y neb nid yw i’n herbyn, o’n tu ni y mae. 41 Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei obrwy. 42 A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a’i daflu i’r môr. 43 Ac os dy law a’th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus, nag â dwy law gennyt fyned i uffern, i’r tân anniffoddadwy: 44 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 45 Ac os dy droed a’th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, nag â dau droed gennyt dy daflu i uffern, i’r tân anniffoddadwy: 46 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 47 Ac os dy lygad a’th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern: 48 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 49 Canys pob un a helltir â thân, a phob aberth a helltir â halen. 50 Da yw’r halen: ond os bydd yr halen yn ddi‐hallt, â pha beth yr helltwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon â’ch gilydd.
28 A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi’r geiriau hyn, gymryd ohono ef Pedr, ac Ioan, ac Iago, a myned i fyny i’r mynydd i weddïo. 29 Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd, a’i wisg oedd yn wen ddisglair. 30 Ac wele, dau ŵr a gydymddiddanodd ag ef, y rhai oedd Moses ac Eleias: 31 Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem. 32 A Phedr, a’r rhai oedd gydag ef, oeddynt wedi trymhau gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a’r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef. 33 A bu, a hwy yn ymado oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd. 34 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl, ac a’u cysgododd hwynt: a hwynt‐hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i’r cwmwl. 35 A daeth llef allan o’r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch ef. 36 Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent.
37 A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o’r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef. 38 Ac wele, gŵr o’r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyf yn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig‐anedig yw. 39 Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae’n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef. 40 Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant. 41 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? dwg dy fab yma. 42 Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a’i rhwygodd ef, ac a’i drylliodd: a’r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a’i rhoddes ef i’w dad.
43 A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai’r Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 44 Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion. 45 Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel nas deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn.
46 A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf ohonynt. 47 A’r Iesu, wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd yn ei ymyl, 48 Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio’r bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a’m derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw a fydd mawr.
49 Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd, O Feistr, ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid; ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyda ni. 50 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch iddo: canys y neb nid yw i’n herbyn, trosom ni y mae.
51 A bu, pan gyflawnwyd y dyddiau y cymerid ef i fyny, yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerwsalem. 52 Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i baratoi iddo ef. 53 Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegid fod ei wyneb ef yn tueddu tua Jerwsalem. 54 A’i ddisgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o’r nef, a’u difa hwynt, megis y gwnaeth Eleias? 55 Ac efe a drodd, ac a’u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi. 56 Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i’w cadw. A hwy a aethant i dref arall.
57 A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 58 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr. 59 Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 60 Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gad i’r meirw gladdu eu meirw: ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw. 61 Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a’th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gad i mi yn gyntaf ganu’n iach i’r rhai sydd yn fy nhŷ. 62 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ôl, yn gymwys i deyrnas Dduw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.