Bible in 90 Days
1 Ac wedi marwolaeth Moses, gwas yr Arglwydd, y llefarodd yr Arglwydd wrth Josua mab Nun, gweinidog Moses, gan ddywedyd, 2 Moses fy ngwas a fu farw: gan hynny cyfod yn awr, dos dros yr Iorddonen hon, ti, a’r holl bobl hyn, i’r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy, meibion Israel. 3 Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses. 4 O’r anialwch, a’r Libanus yma, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates, holl wlad yr Hethiaid, hyd y môr mawr, tua machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi. 5 Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf. 6 Ymgryfha, ac ymwrola: canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu’r wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt. 7 Yn unig ymgryfha, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych. 8 Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni. 9 Oni orchmynnais i ti? Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi, i ba le bynnag yr elych.
10 Yna Josua a orchmynnodd i lywodraethwyr y bobl, gan ddywedyd, 11 Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchmynnwch i’r bobl, gan ddywedyd, Paratowch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu’r wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi i chwi i’w meddiannu.
12 Wrth y Reubeniaid hefyd, ac wrth y Gadiaid, ac wrth hanner llwyth Manasse, y llefarodd Josua, gan ddywedyd, 13 Cofiwch y gair a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a esmwythaodd arnoch, ac a roddodd i chwi y wlad hon. 14 Eich gwragedd, eich plant, a’ch anifeiliaid, a drigant yn y wlad a roddodd Moses i chwi o’r tu yma i’r Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl ydych gedyrn o nerth, a chynorthwywch hwynt; 15 Nes rhoddi o’r Arglwydd lonyddwch i’ch brodyr, fel i chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt: yna dychwelwch i wlad eich etifeddiaeth, a meddiennwch hi, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, o’r tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad yr haul.
16 Hwythau a atebasant Josua, gan ddywedyd, Ni a wnawn yr hyn oll a orchmynnaist i ni; awn hefyd i ba le bynnag yr anfonych ni. 17 Fel y gwrandawsom ar Moses ym mhob peth, felly y gwrandawn arnat tithau: yn unig bydded yr Arglwydd dy Dduw gyda thi, megis y bu gyda Moses. 18 Pwy bynnag a anufuddhao dy orchymyn, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion, yn yr hyn oll a orchmynnych iddo, rhodder ef i farwolaeth: yn unig ymgryfha, ac ymwrola.
2 A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau ŵr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ puteinwraig a’i henw Rahab, ac a letyasant yno. 2 A mynegwyd i frenin Jericho, gan ddywedyd, Wele, gwŷr a ddaethant yma heno, o feibion Israel, i chwilio’r wlad. 3 A brenin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth atat, y rhai a ddaeth i’th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant. 4 Ond y wraig a gymerasai y ddau ŵr, ac a’u cuddiasai hwynt, ac a ddywedodd fel hyn; Gwŷr a ddaeth ataf fi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy. 5 A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt; canys chwi a’u goddiweddwch hwynt. 6 Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a’u cuddiasai hwynt mewn bollteidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ. 7 A’r gwŷr a ganlynasant ar eu hôl hwynt, tua’r Iorddonen, hyd y rhydau: a’r porth a gaewyd, cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hôl hwynt allan.
8 A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ: 9 A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o’r Arglwydd i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn. 10 Canys ni a glywsom fel y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr coch o’ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o’r Aifft; a’r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi. 11 A phan glywsom, yna y’n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr Arglwydd eich Duw, efe sydd Dduw yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod. 12 Yn awr gan hynny, tyngwch, atolwg, wrthyf, myn yr Arglwydd, oherwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir: 13 Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a’m mam, a’m brodyr, a’m chwiorydd, a’r hyn oll sydd ganddynt, ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau. 14 A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Ein heinioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein neges hyn,) pan roddo yr Arglwydd i ni y wlad hon, oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd. 15 Yna hi a’u gollyngodd hwynt i waered wrth raff trwy’r ffenestr: canys ei thŷ hi oedd ar fur y ddinas, ac ar y mur yr oedd hi yn trigo. 16 A hi a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r mynydd, rhag i’r erlidwyr gyfarfod â chwi: ac ymguddiwch yno dridiau, nes dychwelyd yr erlidwyr; ac wedi hynny ewch i’ch ffordd. 17 A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Dieuog fyddwn ni oddi wrth dy lw yma â’r hwn y’n tyngaist. 18 Wele, pan ddelom ni i’r wlad, rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi: casgl hefyd dy dad, a’th fam, a’th frodyr, a holl dylwyth dy dad, atat i’r tŷ yma. 19 A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i’r heol, ei waed ef fydd ar ei ben ei hun, a ninnau a fyddwn ddieuog: a phwy bynnag fyddo gyda thi yn tŷ, bydded ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw arno ef. 20 Ac os mynegi di ein neges hyn, yna y byddwn ddieuog oddi wrth dy lw â’r hwn y’n tyngaist. 21 A hi a ddywedodd, Yn ôl eich geiriau, felly y byddo hynny. Yna hi a’u gollyngodd hwynt; a hwy a aethant ymaith. A hi a rwymodd y llinyn coch yn y ffenestr. 22 A hwy a aethant, ac a ddaethant i’r mynydd; ac a arosasant yno dridiau, nes i’r erlidwyr ddychwelyd. A’r erlidwyr a’u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd; ond nis cawsant.
23 Felly y ddau ŵr a ddychwelasant, ac a ddisgynasant o’r mynydd, ac a aethant drosodd, a daethant at Josua mab Nun; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt: 24 A dywedasant wrth Josua, Yn ddiau yr Arglwydd a roddodd yr holl wlad yn ein dwylo ni; canys holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag ein hofn ni.
3 A Josua a gyfododd yn fore, a chychwynasant o Sittim, a daethant hyd yr Iorddonen, efe a holl feibion Israel: lletyasant yno, cyn iddynt fyned drosodd. 2 Ac ymhen y tridiau, y llywiawdwyr a dramwyasant trwy ganol y llu; 3 Ac a orchmynasant i’r bobl, gan ddywedyd, Pan weloch chwi arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw, a’r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi; yna cychwynnwch chwi o’ch lle, ac ewch ar ei hôl hi. 4 Eto bydded ennyd rhyngoch chwi a hithau, ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur: na nesewch ati, fel y gwypoch y ffordd y rhodioch ynddi: canys ni thramwyasoch y ffordd hon o’r blaen. 5 A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys yfory y gwna’r Arglwydd ryfeddodau yn eich mysg chwi. 6 Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfamod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfamod, ac a aethant o flaen y bobl.
7 A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau. 8 Am hynny gorchymyn di i’r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfamod, gan ddywedyd, Pan ddeloch hyd gwr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen.
9 A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Nesewch yma, a gwrandewch eiriau yr Arglwydd eich Duw. 10 Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y Duw byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyr efe allan y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Hefiaid, a’r Pheresiaid, a’r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a’r Jebusiaid, o’ch blaen chwi. 11 Wele arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o’ch blaen chwi i’r Iorddonen. 12 Gan hynny cymerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel, un gŵr o bob llwyth. 13 A phan orffwyso gwadnau traed yr offeiriaid, sydd yn dwyn arch Arglwydd IOR yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod: hwy a safant yn bentwr.
14 A phan gychwynnodd y bobl o’u pebyll, i fyned dros yr Iorddonen, a’r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfamod o flaen y bobl; 15 A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, yng nghwr y dyfroedd, (a’r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhaeaf,) 16 Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ymhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a’r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i’r môr heli, a ddarfuant ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho. 17 A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, a safasant ar dir sych, yng nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.
4 A Phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy’r Iorddonen, yr Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd, 2 Cymerwch i chwi ddeuddengwr o’r bobl, un gŵr o bob llwyth; 3 A gorchmynnwch iddynt, gan ddywedyd, Cymerwch i chwi oddi yma, o ganol yr Iorddonen, o’r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus, ddeuddeg o gerrig; a dygwch hwynt drosodd gyda chwi, a gosodwch hwynt yn y llety y lletyoch ynddo heno. 4 Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a baratoesai efe o feibion Israel, un gŵr o bob llwyth: 5 A dywedodd Josua wrthynt, Ewch trosodd o flaen arch yr Arglwydd eich Duw, trwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel: 6 Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddocau i chwi? 7 Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfamod yr Arglwydd; pan oedd hi yn myned trwy ’r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae’r cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth. 8 A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchmynasai Josua; ac a gymerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasai yr Arglwydd wrth Josua, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel, ac a’u dygasant drosodd gyda hwynt i’r llety ac a’u cyfleasant yno. 9 A Josua a osododd i fyny ddeuddeg carreg yng nghanol yr Iorddonen, yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch y cyfamod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.
10 A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a safasant yng nghanol yr Iorddonen, nes gorffen pob peth a orchmynasai yr Arglwydd i Josua ei lefaru wrth y bobl, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses wrth Josua: a’r bobl a frysiasant, ac a aethant drosodd. 11 A phan ddarfu i’r holl bobl fyned drosodd, yna arch yr Arglwydd a aeth drosodd, a’r offeiriaid, yng ngŵydd y bobl. 12 Meibion Reuben hefyd, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a aethant drosodd yn arfogion o flaen meibion Israel, fel y llefarasai Moses wrthynt: 13 Ynghylch deugain mil, yn arfogion i ryfel, a aethant drosodd o flaen yr Arglwydd i ryfel, i rosydd Jericho.
14 Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a’i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes. 15 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd, 16 Gorchymyn i’r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod ohonynt i fyny allan o’r Iorddonen. 17 Am hynny Josua a orchmynnodd i’r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny allan o’r Iorddonen. 18 A phan ddaeth yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, i fyny o ganol yr Iorddonen, a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i’w lle, ac a aethant, megis cynt, dros ei holl geulennydd.
19 A’r bobl a ddaethant i fyny o’r Iorddonen y degfed dydd o’r mis cyntaf; ac a wersyllasant yn Gilgal, yn eithaf tu dwyrain Jericho.
20 A’r deuddeg carreg hynny, y rhai a ddygasent o’r Iorddonen, a sefydlodd Josua yn Gilgal. 21 Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn i’w tadau, gan ddywedyd, Beth yw y cerrig hyn? 22 Yna yr hysbyswch i’ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth trwy’r Iorddonen hon ar dir sych. 23 Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r môr coch, yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned drwodd: 24 Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr Arglwydd, mai nerthol yw; fel yr ofnoch yr Arglwydd eich Duw bob amser.
5 Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o’r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy drwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel.
2 Y pryd hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Gwna i ti gyllyll llymion, ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith. 3 A Josua a wnaeth iddo gyllyll llymion, ac a enwaedodd ar feibion Israel, ym mryn y blaengrwyn. 4 A dyma’r achos a wnaeth i Josua enwaedu: Yr holl bobl, sef y gwrywiaid y rhai a ddaethent o’r Aifft, yr holl ryfelwyr, a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd, wedi eu dyfod allan o’r Aifft. 5 Canys yr holl bobl a’r a ddaethent allan, oedd enwaededig; ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch, ar y ffordd, wedi eu dyfod hwy allan o’r Aifft, nid enwaedasent arnynt. 6 Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aifft, y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd: y rhai y tyngasai yr Arglwydd wrthynt, na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr Arglwydd wrth eu tadau y rhoddai efe i ni; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. 7 A Josua a enwaedodd ar eu meibion hwy, y rhai a gododd yn eu lle hwynt: canys dienwaededig oeddynt hwy, am nad enwaedasid arnynt ar y ffordd. 8 A phan ddarfu enwaedu ar yr holl bobl; yna yr arosasant yn eu hunlle, yn y gwersyll, nes eu hiacháu. 9 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Heddiw y treiglais ymaith waradwydd yr Aifft oddi arnoch: am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Gilgal, hyd y dydd heddiw.
10 A meibion Israel a wersyllasant yn Gilgal: a hwy a gynaliasant y Pasg, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, brynhawn, yn rhosydd Jericho. 11 A hwy a fwytasant o hen ŷd y wlad, drannoeth wedi’r Pasg, fara croyw, a chras ŷd, o fewn corff y dydd hwnnw.
12 A’r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o hen ŷd y wlad; a manna ni chafodd meibion Israel mwyach, eithr bwytasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno.
13 A phan oedd Josua wrth Jericho, yna efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn sefyll gyferbyn ag ef, â’i gleddyf noeth yn ei law. A Josua a aeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Ai gyda ni yr ydwyt ti, ai gyda’n gwrthwynebwyr? 14 Dywedodd yntau, Nage; eithr yn dywysog llu yr Arglwydd yn awr y deuthum. A Josua a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a addolodd; ac a ddywedodd wrtho ef, Beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei was? 15 A thywysog llu yr Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Datod dy esgidiau oddi am dy draed: canys y lle yr wyt ti yn sefyll arno, sydd sanctaidd. A Josua a wnaeth felly.
6 A Jericho oedd gaeëdig a gwarchaeëdig, oherwydd meibion Israel: nid oedd neb yn myned allan, nac yn dyfod i mewn. 2 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Gwêl, rhoddais yn dy law di Jericho a’i brenin, gwŷr grymus o nerth. 3 A chwi a amgylchwch y ddinas, chwi ryfelwyr oll, gan fyned o amgylch y ddinas un waith: gwnewch felly chwe diwrnod. 4 A dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â’r utgyrn. 5 A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr utgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer.
6 A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfamod, a dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd. 7 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a’r hwn sydd arfog, eled o flaen arch yr Arglwydd.
8 A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr Arglwydd, ac a leisiasant â’r utgyrn: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned ar eu hôl hwynt.
9 A’r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â’r utgyrn; a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r utgyrn. 10 A Josua a orchmynasai i’r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o’ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch. 11 Felly arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas, gan fyned o’i hamgylch un waith: a daethant i’r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll.
12 A Josua a gyfododd yn fore; a’r offeiriaid a ddygasant arch yr Arglwydd. 13 A’r saith offeiriad, yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â’r utgyrn: a’r rhai arfog oedd yn myned o’u blaen hwynt: a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr Arglwydd, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r utgyrn. 14 Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i’r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod. 15 Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith. 16 A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr Arglwydd y ddinas i chwi.
17 A’r ddinas fydd yn ddiofryd‐beth, hi, a’r hyn oll sydd ynddi, i’r Arglwydd: yn unig Rahab y buteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyda hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni. 18 Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y diofryd‐beth, rhag eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd‐beth, os cymerwch o’r diofryd‐beth; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddiofryd‐beth, ac y trallodech hi. 19 Ond yr holl arian a’r aur, a’r llestri pres a haearn, fyddant gysegredig i’r Arglwydd: deled y rhai hynny i mewn i drysor yr Arglwydd.
20 A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â’r utgyrn. A phan glybu y bobl lais yr utgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel; a’r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd. Felly y bobl a aethant i fyny i’r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a enillasant y ddinas. 21 A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas, yn ŵr ac yn wraig, yn fachgen ac yn hynafgwr, yn eidion, ac yn ddafad, ac yn asyn, â min y cleddyf.
22 A Josua a ddywedodd wrth y ddau ŵr a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, Ewch i dŷ y buteinwraig, a dygwch allan oddi yno y wraig, a’r hyn oll sydd iddi, fel y tyngasoch wrthi. 23 Felly y llanciau a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, a aethant i mewn, ac a ddygasant allan Rahab, a’i thad, a’i mam, a’i brodyr, a chwbl a’r a feddai hi: dygasant allan hefyd ei holl dylwyth hi, a gosodasant hwynt o’r tu allan i wersyll Israel. 24 A llosgasant y ddinas â thân, a’r hyn oll oedd ynddi: yn unig yr arian a’r aur, a’r llestri pres a haearn, a roddasant hwy yn nhrysor yr Arglwydd. 25 A Josua a gadwodd yn fyw Rahab y buteinwraig, a thylwyth ei thad, a’r hyn oll oedd ganddi; a hi a drigodd ymysg Israel hyd y dydd hwn: am iddi guddio’r cenhadau a anfonasai Josua i chwilio Jericho.
26 A Josua a’u tynghedodd hwy y pryd hwnnw, gan ddywedyd, Melltigedig gerbron yr Arglwydd fyddo y gŵr a gyfyd ac a adeilado y ddinas hon Jericho: yn ei gyntaf‐anedig y seilia efe hi, ac yn ei fab ieuangaf y gesyd efe ei phyrth hi. 27 Felly yr Arglwydd oedd gyda Josua; ac aeth ei glod ef trwy’r holl wlad.
7 Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y diofryd‐beth: canys Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda, a gymerodd o’r diofryd‐beth: ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn meibion Israel. 2 A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai, yr hon sydd wrth Bethafen, o du’r dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Ewch i fyny, ac edrychwch y wlad. A’r gwŷr a aethant i fyny, ac a edrychasant ansawdd Ai. 3 A hwy a ddychwelasant at Josua, ac a ddywedasant wrtho. Nac eled yr holl bobl i fyny; ond ynghylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr, a ânt i fyny, ac a drawant Ai: na phoenwch yr holl bobl yno; canys ychydig ydynt hwy. 4 Felly fe a aeth o’r bobl i fyny yno ynghylch tair mil o wŷr: a hwy a ffoesant o flaen gwŷr Ai. 5 A gwŷr Ai a drawsant ynghylch un gŵr ar bymtheg ar hugain ohonynt; ac a’u hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim, a thrawsant hwynt yn y goriwaered: am hynny y toddodd calonnau y bobl, ac yr aethant fel dwfr.
6 A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr Arglwydd, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau. 7 A dywedodd Josua, Ah, ah, O Arglwydd IOR, i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen, i’n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha? O na buasem fodlon, ac na thrigasem tu hwnt i’r Iorddonen! 8 O Arglwydd, beth a ddywedaf, pan dry Israel ei war o flaen ei elynion! 9 Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a’n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i’th enw mawr?
10 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Cyfod; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb? 11 Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt: cymerasant hefyd o’r diofryd‐beth, lladratasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun. 12 Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymunbeth: ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddifethwch yr ysgymunbeth o’ch mysg. 13 Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn yfory: canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Diofryd‐beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y diofryd‐beth o’ch mysg. 14 Am hynny nesewch y bore wrth eich llwythau: a’r llwyth a ddalio yr Arglwydd, nesaed bob yn deulu; a’r teulu a ddalio yr Arglwydd, nesaed bob yn dŷ; a’r tŷ a ddalio yr Arglwydd, nesaed bob yn ŵr. 15 A’r hwn a ddelir a’r diofryd‐beth ganddo, a losgir â thân, efe ac oll sydd ganddo: oherwydd iddo droseddu cyfamod yr Arglwydd, ac oherwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel.
16 Felly Josua a gyfododd yn fore, ac a ddug Israel wrth eu llwythau: a llwyth Jwda a ddaliwyd. 17 Ac efe a ddynesodd deulu Jwda; a daliwyd teulu y Sarhiaid: ac efe a ddynesodd deulu y Sarhiaid bob yn ŵr; a daliwyd Sabdi: 18 Ac efe a ddynesodd ei dyaid ef bob yn ŵr; a daliwyd Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda. 19 A Josua a ddywedodd wrth Achan, Fy mab, atolwg, dyro ogoniant i Arglwydd Dduw Israel, a chyffesa iddo; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost: na chela oddi wrthyf. 20 Ac Achan a atebodd Josua, ac a ddywedodd, Yn wir myfi a bechais yn erbyn Arglwydd Dduw Israel; canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum. 21 Pan welais ymysg yr ysbail fantell Fabilonig deg, a dau can sicl o arian, ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys; yna y chwenychais hwynt, ac a’u cymerais: ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear yng nghanol fy mhabell, a’r arian danynt.
22 Yna Josua a anfonodd genhadau; a hwy a redasant i’r babell: ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef, a’r arian danynt. 23 Am hynny hwy a’u cymerasant o ganol y babell, ac a’u dygasant at Josua, ac at holl feibion Israel; ac a’u gosodasant hwy o flaen yr Arglwydd. 24 A Josua a gymerth Achan mab Sera, a’r arian, a’r fantell, a’r llafn aur, ei feibion hefyd, a’i ferched, a’i wartheg, a’i asynnod, ei ddefaid hefyd, a’i babell, a’r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gydag ef a’u dygasant hwynt i ddyffryn Achor. 25 A Josua a ddywedodd, Am i ti ein blino ni, yr Arglwydd a’th flina dithau y dydd hwn. A holl Israel a’i llabyddiasant ef â meini, ac a’u llosgasant hwy â thân, wedi eu llabyddio â meini. 26 A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.
8 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna, ac nac arswyda: cymer gyda thi yr holl bobl o ryfel, a chyfod, dos i fyny i Ai: gwêl, mi a roddais yn dy law di frenin Ai, a’i bobl, ei ddinas hefyd, a’i wlad. 2 A thi a wnei i Ai a’i brenin, megis y gwnaethost i Jericho ac i’w brenin: eto ei hanrhaith a’i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn iddi.
3 Yna Josua a gyfododd, a’r holl bobl o ryfel, i fyned i fyny i Ai: a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a’u hanfonodd ymaith liw nos: 4 Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn i’r ddinas: nac ewch ymhell iawn oddi wrth y ddinas, ond byddwch bawb oll yn barod. 5 Minnau hefyd, a’r holl bobl sydd gyda mi, a nesawn at y ddinas: a phan ddelont allan i’n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o’u blaen hwynt, 6 (Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o’r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o’n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o’u blaen hwynt. 7 Yna chwi a godwch o’r cynllwyn, ac a oresgynnwch y ddinas: canys yr Arglwydd eich Duw a’i dyry hi yn eich llaw chwi. 8 A phan enilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ôl gair yr Arglwydd. Gwelwch, mi a orchmynnais i chwi.
9 Felly Josua a’u hanfonodd; a hwy a aethant i gynllwyn, ac a arosasant rhwng Bethel ac Ai, o du’r gorllewin i Ai: a Josua a letyodd y noson honno ymysg y bobl. 10 A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fyny, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, tuag at Ai. 11 A’r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gydag ef, a aethant i fyny, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â’r ddinas, a gwersyllasant o du’r gogledd i Ai: a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai. 12 Ac efe a gymerth ynghylch pum mil o wŷr, ac a’u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du’r gorllewin i’r ddinas. 13 A’r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai oedd o du’r gogledd i’r ddinas, a’r cynllwynwyr o du’r gorllewin i’r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn.
14 A phan welodd brenin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a foregodasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a’i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o’r tu cefn i’r ddinas. 15 A Josua a holl Israel, fel pe trawsid hwy o’u blaen hwynt, a ffoesant ar hyd yr anialwch. 16 A’r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hôl hwynt: a hwy a erlidiasant ar ôl Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas. 17 Ac ni adawyd gŵr yn Ai, nac yn Bethel, a’r nad aethant allan ar ôl Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ôl Israel. 18 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynnodd y waywffon oedd yn ei law tua’r ddinas. 19 A’r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o’u lle, ac a redasant, pan estynnodd efe ei law: daethant hefyd i’r ddinas, ac enillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân. 20 A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl, ac a edrychasant; ac wele, mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac acw: canys y bobl y rhai a ffoesent i’r anialwch, a ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid. 21 A phan welodd Josua a holl Israel i’r cynllwynwyr ennill y ddinas, a dyrchafu o fwg y ddinas, yna hwy a ddychwelasant, ac a drawsant wŷr Ai. 22 A’r lleill a aethant allan o’r ddinas i’w cyfarfod; felly yr oeddynt yng nghanol Israel, y rhai hyn o’r tu yma, a’r lleill o’r tu acw: a thrawsant hwynt, fel na adawyd un yng ngweddill nac yn ddihangol ohonynt. 23 A brenin Ai a ddaliasant hwy yn fyw; a dygasant ef at Josua. 24 Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a thrawsant hi â min y cleddyf. 25 A chwbl a’r a syrthiasant y dwthwn hwnnw, yn wŷr ac yn wragedd, oeddynt ddeuddeng mil; sef holl wŷr Ai. 26 Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hôl, yr hon a estynasai efe gyda’r waywffon, nes difetha holl drigolion Ai. 27 Yn unig yr anifeiliaid, ac anrhaith y ddinas, a ysglyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun; yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a orchmynasai efe i Josua. 28 A Josua a losgodd Ai, ac a’i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd, ac yn ddiffeithwch hyd y dydd hwn. 29 Ac efe a grogodd frenin Ai ar bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchmynnodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a’i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.
30 Yna Josua a adeiladodd allor i Arglwydd Dduw Israel ym mynydd Ebal, 31 Megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haearn arnynt: a hwy a offrymasant arni boethoffrymau i’r Arglwydd, ac a aberthasant ebyrth hedd. 32 Ac efe a ysgrifennodd yno ar y meini o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe yng ngŵydd meibion Israel. 33 A holl Israel, a’u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a’u barnwyr, oedd yn sefyll oddeutu yr arch, gerbron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, yn gystal yr estron a’r priodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garisim, a’u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd o’r blaen fendithio pobl Israel. 34 Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a’r felltith, yn ôl y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith. 35 Nid oedd air o’r hyn oll a orchmynasai Moses, a’r nas darllenodd Josua gerbron holl gynulleidfa Israel, a’r gwragedd, a’r plant, a’r dieithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt.
9 Wedi clywed hyn o’r holl frenhinoedd, y rhai oedd o’r tu yma i’r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, ar gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Pheresiaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid; 2 Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua, ac yn erbyn Israel, o unfryd.
3 A thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethai Josua i Jericho ac i Ai. 4 A hwy a wnaethant yn gyfrwys, ac a aethant, ac a ymddangosasant fel cenhadon: cymerasant hefyd hen sachlennau ar eu hasynnod, a hen gostrelau gwin, wedi eu hollti hefyd, ac wedi eu rhwymo, 5 A hen esgidiau baglog am eu traed, a hen ddillad amdanynt; a holl fara eu lluniaeth oedd sych a brithlwyd: 6 Ac a aethant at Josua i’r gwersyll i Gilgal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel, O wlad bell y daethom: ac yn awr gwnewch gyfamod â ni. 7 A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid, Nid hwyrach dy fod yn ein mysg yn trigo; pa fodd gan hynny y gwnaf gyfamod â thi? 8 A hwy a ddywedasant wrth Josua, Dy weision di ydym ni. A Josua a ddywedodd wrthynt, Pwy ydych? ac o ba le y daethoch? 9 A hwy a ddywedasant wrtho, Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn, oherwydd enw yr Arglwydd dy Dduw: canys ni a glywsom ei glod ef, a’r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aifft; 10 A’r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen; i Sehon brenin Hesbon, ac i Og brenin Basan, yr hwn oedd yn Astaroth. 11 Am hynny ein henuriaid ni, a holl breswylwyr ein gwlad, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, Cymerwch luniaeth gyda chwi i’r daith, ac ewch i’w cyfarfod hwynt; a dywedwch wrthynt, Eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfamod â ni. 12 Dyma ein bara ni: yn frwd y cymerasom ef yn lluniaeth o’n tai y dydd y cychwynasom i ddyfod atoch; ac yn awr, wele, sych a brithlwyd yw. 13 Dyma hefyd y costrelau gwin a lanwasom yn newyddion; ac wele hwynt wedi hollti: ein dillad hyn hefyd a’n hesgidiau a heneiddiasant, rhag meithed y daith. 14 A’r gwŷr a gymerasant o’u hymborth hwynt, ac nid ymgyngorasant â genau yr Arglwydd. 15 Felly Josua a wnaeth heddwch â hwynt, ac a wnaeth gyfamod â hwynt, ar eu cadw hwynt yn fyw: tywysogion y gynulleidfa hefyd a dyngasant wrthynt. 16 Ond ymhen y tridiau wedi iddynt wneuthur cyfamod â hwynt, hwy a glywsant mai cymdogion iddynt oeddynt hwy, ac mai yn eu mysg yr oeddynt yn aros. 17 A meibion Israel a gychwynasant, ac a ddaethant i’w dinasoedd hwynt y trydydd dydd: a’u dinasoedd hwynt oedd Gibeon, a Cheffira, Beeroth hefyd, a Chiriathjearim. 18 Ond ni thrawodd meibion Israel mohonynt hwy; oblegid tywysogion y gynulleidfa a dyngasai wrthynt myn Arglwydd Dduw Israel: a’r holl gynulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion. 19 A’r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i Arglwydd Dduw Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt. 20 Hyn a wnawn ni iddynt hwy: Cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni; oherwydd y llw a dyngasom wrthynt. 21 A’r tywysogion a ddywedasant wrthynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i’r holl gynulleidfa,) fel y dywedasai’r tywysogion wrthynt.
22 Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ydym ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni? 23 Yn awr gan hynny melltigedig ydych: ac ni ddianc un ohonoch rhag bod yn gaethweision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy Nuw. 24 A hwy a atebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddiau gan fynegi y mynegwyd i’th weision, ddarfod i’r Arglwydd dy Dduw orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o’ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn. 25 Ac yn awr, wele ni yn dy law di: fel y byddo da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni, gwna. 26 Ac felly y gwnaeth efe iddynt; ac a’u gwaredodd hwynt o law meibion Israel, fel na laddasant hwynt. 27 A Josua a’u rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymynwyr coed, ac yn wehynwyr dwfr, i’r gynulleidfa, ac i allor yr Arglwydd, hyd y dydd hwn, yn y lle a ddewisai efe.
10 A Phan glybu Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai, a’i difrodi hi, (fel y gwnaethai efe i Jericho ac i’w brenin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenin,) a heddychu o drigolion Gibeon ag Israel, a’u bod yn eu mysg hwynt: 2 Yna yr ofnasant yn ddirfawr; oblegid dinas fawr oedd Gibeon, fel un o’r dinasoedd brenhinol; ac oherwydd ei bod yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn. 3 Am hynny Adonisedec brenin Jerwsalem a anfonodd at Hoham brenin Hebron, ac at Piram brenin Jarmuth, ac at Jaffia brenin Lachis, ac at Debir brenin Eglon, gan ddywedyd. 4 Deuwch i fyny ataf fi, a chynorthwywch fi, fel y trawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel. 5 Am hynny pum brenin yr Amoriaid a ymgynullasant, ac a ddaethant i fyny, sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon, hwynt‐hwy a’u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.
6 A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thyn ymaith dy ddwylo oddi wrth dy weision: tyred i fyny yn fuan atom ni, achub ni hefyd, a chynorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd‐dir, a ymgynullasant i’n herbyn ni. 7 Felly Josua a esgynnodd o Gilgal, efe a’r holl bobl o ryfel gydag ef, a’r holl gedyrn nerthol.
8 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb ohonynt yn dy wyneb di. 9 Josua gan hynny a ddaeth yn ddiatreg atynt hwy: canys ar hyd y nos yr aeth efe i fyny o Gilgal. 10 A’r Arglwydd a’u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac a’u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fyny i Beth‐horon, ac a’u trawodd hwynt hyd Aseca, ac hyd Macceda. 11 A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, a hwy yng ngoriwaered Beth‐horon, yr Arglwydd a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o’r nefoedd hyd Aseca; a buant feirw: amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg, na’r rhai a laddodd meibion Israel â’r cleddyf.
12 Llefarodd Josua wrth yr Arglwydd y dydd y rhoddodd yr Arglwydd yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd yng ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon. 13 A’r haul a arhosodd, a’r lleuad a safodd, nes i’r genedl ddial ar eu gelynion. Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd yng nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan. 14 Ac ni bu y fath ddiwrnod â hwnnw o’i flaen ef, nac ar ei ôl ef, fel y gwrandawai yr Arglwydd ar lef dyn: canys yr Arglwydd a ymladdodd dros Israel.
15 A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i’r gwersyll i Gilgal. 16 Ond y pum brenin hynny a ffoesant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Macceda. 17 A mynegwyd i Josua, gan ddywedyd, Y pum brenin a gafwyd ynghudd mewn ogof ym Macceda. 18 A dywedodd Josua, Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof, a gosodwch wrthi wŷr i’w cadw hwynt: 19 Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ôl eich gelynion, a threwch y rhai olaf ohonynt; na adewch iddynt fyned i’w dinasoedd: canys yr Arglwydd eich Duw a’u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi. 20 A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid ohonynt a aethant i’r dinasoedd caerog. 21 A’r holl bobl a ddychwelasant i’r gwersyll at Josua ym Macceda mewn heddwch, heb symud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel. 22 A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pum brenin hynny ataf fi o’r ogof. 23 A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pum brenin ato ef o’r ogof; sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon. 24 A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gydag ef, Nesewch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt. 25 A Josua a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch, ac nac arswydwch; eithr ymwrolwch, ac ymegnïwch: canys fel hyn y gwna yr Arglwydd i’ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i’w herbyn. 26 Ac wedi hyn Josua a’u trawodd hwynt, ac a’u rhoddodd i farwolaeth, ac a’u crogodd hwynt ar bum pren: a buant ynghrog ar y prennau hyd yr hwyr. 27 Ac ym mhryd machludo haul, y gorchmynnodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau, a’u bwrw hwynt i’r ogof yr ymguddiasant ynddi; a bwriasant gerrig mawrion yng ngenau yr ogof, y rhai sydd yno hyd gorff y dydd hwn.
28 Josua hefyd a enillodd Macceda y dwthwn hwnnw, ac a’i trawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenin hi, hwynt‐hwy, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un gweddill: canys efe a wnaeth i frenin Macceda, fel y gwnaethai i frenin Jericho.
29 Yna yr aeth Josua a holl Israel gydag ef o Macceda i Libna, ac a ymladdodd yn erbyn Libna. 30 A’r Arglwydd a’i rhoddodd hithau, a’i brenin, yn llaw Israel; ac yntau a’i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a’r oedd ynddi; ni adawodd ynddi un yng ngweddill: canys efe a wnaeth i’w brenin hi fel y gwnaethai i frenin Jericho.
31 A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Libna i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i’w herbyn. 32 A’r Arglwydd a roddodd Lachis yn llaw Israel; yr hwn a’i henillodd hi yr ail ddydd, ac a’i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ag oedd ynddi, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Libna.
33 Yna Horam brenin Geser a ddaeth i fyny i gynorthwyo Lachis: a Josua a’i trawodd ef a’i bobl, fel na adawyd iddo ef un yng ngweddill.
34 A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Lachis i Eglon: a hwy a wersyllasant wrthi, ac a ymladdasant i’w herbyn. 35 A hwy a’i henillasant hi y diwrnod hwnnw, ac a’i trawsant hi â min y cleddyf; ac efe a ddifrododd bob enaid a’r oedd ynddi y dwthwn hwnnw, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis.
36 A Josua a esgynnodd, a holl Israel gydag ef, o Eglon i Hebron; a hwy a ryfelasant i’w herbyn. 37 A hwy a’i henillasant hi, ac a’i trawsant hi â min y cleddyf, a’i brenin, a’i holl ddinasoedd, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un yng ngweddill, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Eglon: canys efe a’i difrododd hi, a phob enaid ag oedd ynddi.
38 A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i Debir; ac a ymladdodd i’w herbyn. 39 Ac efe a’i henillodd hi, ei brenin, a’i holl ddinasoedd; a hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un yng ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i’w brenin; megis y gwnaethai efe i Libna, ac i’w brenin.
40 Felly y trawodd Josua yr holl fynydd‐dir, a’r deau, y gwastadedd hefyd, a’r bronnydd, a’u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un yng ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel. 41 A Josua a’u trawodd hwynt o Cades‐Barnea, hyd Gasa, a holl wlad Gosen, hyd Gibeon. 42 Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a’u gwledydd a enillodd Josua ar unwaith: canys Arglwydd Dduw Israel oedd yn ymladd dros Israel. 43 Yna y dychwelodd Josua, a holl Israel gydag ef, i’r gwersyll yn Gilgal.
11 A Phan glybu Jabin brenin Hasor y pethau hynny, efe a anfonodd at Jobab brenin Madon, ac at frenin Simron, ac at frenin Achsaff, 2 Ac at y brenhinoedd oedd o du y gogledd yn y mynydd‐dir, ac yn y rhostir tua’r deau i Cinneroth, ac yn y dyffryn, ac yn ardaloedd Dor tua’r gorllewin; 3 At y Canaaneaid o’r dwyrain a’r gorllewin, ac at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Pheresiaid, a’r Jebusiaid, yn y mynydd‐dir, ac at yr Hefiaid dan Hermon, yng ngwlad Mispe. 4 A hwy a aethant allan, a’u holl fyddinoedd gyda hwynt, pobl lawer, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn. 5 A’r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.
6 A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt hwy: canys yfory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri, a’u cerbydau a losgi di â thân. 7 Felly Josua a ddaeth a’r holl bobl o ryfel gydag ef, yn ddisymwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Meron; a hwy a ruthrasant arnynt. 8 A’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a’u trawsant hwynt, ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misreffoth‐maim, ac hyd glyn Mispe o du y dwyrain; a hwy a’u trawsant hwynt, fel na adawodd efe ohonynt un yng ngweddill. 9 A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr Arglwydd iddo: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, a’u cerbydau a losgodd â thân.
10 A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd, ac a enillodd Hasor, ac a drawodd ei brenin hi â’r cleddyf: canys Hasor o’r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny. 11 Trawsant hefyd bob enaid a’r oedd ynddi â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: ni adawyd un perchen anadl: ac efe a losgodd Hasor â thân. 12 A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, a’u holl frenhinoedd hwynt, a enillodd Josua, ac a’u trawodd â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd. 13 Ond ni losgodd Israel yr un o’r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua. 14 A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a’r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a drawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.
15 Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses ei was, felly y gorchmynnodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o’r hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd i Moses. 16 Felly Josua a enillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a’r holl ddeau, a holl wlad Gosen, a’r dyffryn, a’r gwastadedd, a mynydd Israel, a’i ddyffryn; 17 O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir, hyd Baal‐Gad, yng nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a’u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; trawodd hwynt hefyd, ac a’u rhoddodd i farwolaeth. 18 Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer. 19 Nid oedd dinas a’r a heddychodd â meibion Israel, heblaw yr Hefiaid preswylwyr Gibeon; yr holl rai eraill a enillasant hwy trwy ryfel. 20 Canys o’r Arglwydd yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod ag Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ac na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
21 A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd‐dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Jwda, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a’u difrododd hwynt a’u dinasoedd. 22 Ni adawyd un o’r Anaciaid yng ngwlad meibion Israel: yn unig yn Gasa, yn Gath, ac yn Asdod, y gadawyd hwynt. 23 Felly Josua a enillodd yr holl wlad, yn ôl yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses; a Josua a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, yn ôl eu rhannau hwynt, trwy eu llwythau. A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.
12 Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a drawodd meibion Israel, ac a feddianasant eu gwlad hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a’r holl wastadedd tua’r dwyrain: 2 Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon; 3 Ac o’r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tua Beth‐jesimoth; ac o du y deau, dan Asdoth‐Pisga: 4 A goror Og brenin Basan, yr hwn oedd o weddill y cewri, ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei; 5 Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salcha, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a’r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenin Hesbon. 6 Moses gwas yr Arglwydd a meibion Israel a’u trawsant hwy: a Moses gwas yr Arglwydd a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.
7 Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o’r tu yma i’r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal‐Gad, yng nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir; a Josua a’i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau; 8 Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y deau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a’r Canaaneaid, y Pheresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid:
9 Brenin Jericho, yn un; brenin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn un; 10 Brenin Jerwsalem, yn un; brenin Hebron, yn un; 11 Brenin Jarmuth, yn un; brenin Lachis, yn un; 12 Brenin Eglon, yn un; brenin Geser, yn un; 13 Brenin Debir, yn un; brenin Geder, yn un; 14 Brenin Horma, yn un; brenin Arad, yn un; 15 Brenin Libna, yn un; brenin Adulam, yn un; 16 Brenin Macceda, yn un; brenin Bethel, yn un; 17 Brenin Tappua, yn un; brenin Heffer, yn un; 18 Brenin Affec, yn un; brenin Lasaron, yn un; 19 Brenin Madon, yn un; brenin Hasor, yn un; 20 Brenin Simron‐Meron, yn un; brenin Achsaff, yn un; 21 Brenin Taanach, yn un; brenin Megido, yn un; 22 Brenin Cades, yn un; brenin Jocneam o Carmel, yn un; 23 Brenin Dor yn ardal Dor, yn un; brenin y cenhedloedd o Gilgal, yn un; 24 Brenin Tirsa, yn un: yr holl frenhinoedd oedd un ar ddeg ar hugain.
13 A Phan heneiddiodd Josua, a phwyso ohono mewn oedran, dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thir lawer iawn sydd eto i’w feddiannu. 2 Dyma y wlad sydd eto yn ôl: holl derfynau y Philistiaid, a holl Gesuri, 3 O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aifft, hyd derfyn Ecron tua’r gogledd, yr hwn a gyfrifir i’r Canaaneaid: pum tywysog y Philistiaid: y Gasathiaid, a’r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid: 4 O’r deau, holl wlad y Canaaneaid, a’r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Affec, hyd derfyn yr Amoriaid: 5 A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tua chyfodiad haul, o Baal‐Gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath. 6 Holl breswylwyr y mynydd‐dir o Libanus hyd Misreffoth‐maim, a’r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchmynnais i ti. 7 Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasse. 8 Gyda’r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tua’r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr Arglwydd iddynt; 9 O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon: 10 A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon; 11 Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcha; 12 Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cewri: canys Moses a’u trawsai hwynt, ac a’u gyrasai ymaith. 13 Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na’r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a’r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn. 14 Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.
15 A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy eu teuluoedd: 16 A’u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a’r holl wastadedd wrth Medeba; 17 Hesbon a’i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-Baal, a Beth‐Baalmeon; 18 Jahasa hefyd, a Cedemoth, a Meffaath; 19 Ciriathaim hefyd, a Sibma, a Sarethsahar, ym mynydd‐dir y glyn; 20 Beth‐peor hefyd, ac Asdoth‐Pisga, a Beth‐Jesimoth, 21 A holl ddinasoedd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyda thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, dugiaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad.
22 Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â’r cleddyf, ymhlith eu lladdedigion hwynt. 23 A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a’i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefi.
24 Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd; 25 A Jaser oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabba; 26 Ac o Hesbon hyd Ramath‐Mispe, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir; 27 Ac yn y dyffryn, Beth‐Aram, a Beth‐Nimra, a Succoth, a Saffon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a’i therfyn, hyd gwr môr Cinneroth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain. 28 Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefydd.
29 Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd: 30 A’u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, trigain dinas; 31 A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse, sef i hanner meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd. 32 Dyma y gwledydd a roddodd Moses i’w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho, o du y dwyrain. 33 Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: Arglwydd Dduw Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd efe wrthynt.
14 Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan, y rhai a rannodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau‐cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy i’w hetifeddu. 2 Wrth goelbren yr oedd eu hetifeddiaeth hwynt; fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses eu rhoddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth. 3 Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen; ond i’r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt; 4 Canys meibion Joseff oedd ddau lwyth, Manasse ac Effraim: am hynny ni roddasant ran i’r Lefiaid yn y tir, ond dinasoedd i drigo, a’u meysydd pentrefol i’w hanifeiliaid, ac i’w golud. 5 Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, a hwy a ranasant y wlad.
6 Yna meibion Jwda a ddaethant at Josua yn Gilgal: a Chaleb mab Jeffunne y Cenesiad a ddywedodd wrtho ef, Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses gŵr Duw o’m plegid i, ac o’th blegid dithau, yn Cades‐Barnea. 7 Mab deugain mlwydd oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr Arglwydd fi o Cades‐Barnea, i edrych ansawdd y wlad; a mi a ddygais air iddo ef drachefn, fel yr oedd yn fy nghalon. 8 Ond fy mrodyr, y rhai a aethant i fyny gyda mi, a ddigalonasant y bobl: eto myfi a gyflawnais fyned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw. 9 A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Diau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni, yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth; am i ti gyflawni myned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw. 10 Ac yn awr, wele yr Arglwydd a’m cadwodd yn fyw, fel y llefarodd efe, y pum mlynedd a deugain hyn, er pan lefarodd yr Arglwydd y gair hwn wrth Moses, tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch: ac yn awr, wele fi heddiw yn fab pum mlwydd a phedwar ugain. 11 Yr ydwyf eto mor gryf heddiw â’r dydd yr anfonodd Moses fi: fel yr oedd fy nerth i y pryd hwnnw, felly y mae fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn. 12 Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr Arglwydd fydd gyda mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr Arglwydd. 13 A Josua a’i bendithiodd ef, ac a roddodd Hebron i Caleb mab Jeffunne yn etifeddiaeth. 14 Am hynny mae Hebron yn etifeddiaeth i Caleb mab Jeffunne y Cenesiad hyd y dydd hwn: oherwydd iddo ef gwblhau myned ar ôl Arglwydd Dduw Israel. 15 Ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer‐Arba: yr Arba hwnnw oedd ŵr mawr ymysg yr Anaciaid. A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.