Beginning
23 Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2 Ha fab dyn, dwy wraig oedd ferched i’r un fam; 3 A phuteiniasant yn yr Aifft, yn eu hieuenctid y puteiniasant: yno y pwyswyd ar eu bronnau, ac yno yr ysigasant ddidennau eu morwyndod. 4 A’u henwau hwynt oedd, Ahola yr hynaf, ac Aholiba ei chwaer: ac yr oeddynt yn eiddof fi, a phlantasant feibion a merched. Dyma eu henwau; Samaria yw Ahola, a Jerwsalem Aholiba. 5 Ac Ahola a buteiniodd pan oedd eiddof fi, ac a ymserchodd yn ei chariadau, ei chymdogion yr Asyriaid; 6 Y rhai a wisgid â glas, yn ddugiaid ac yn dywysogion, o wŷr ieuainc dymunol i gyd, yn farchogion yn marchogaeth meirch. 7 Fel hyn y gwnaeth hi ei phuteindra â hwynt, â dewis feibion Assur oll, a chyda’r rhai oll yr ymserchodd ynddynt; â’u holl eilunod hwynt yr ymhalogodd hi. 8 Ac ni adawodd ei phuteindra a ddygasai hi o’r Aifft: canys gorweddasent gyda hi yn eu hieuenctid, a hwy a ysigasent fronnau ei morwyndod hi, ac a dywalltasent eu puteindra arni. 9 Am hynny y rhoddais hi yn llaw ei chariadau, sef yn llaw meibion Assur, y rhai yr ymserchodd hi ynddynt. 10 Y rhai hynny a ddatguddiasant ei noethni hi: hwy a gymerasant ei meibion hi a’i merched, ac a’i lladdasant hithau â’r cleddyf: a hi a aeth yn enwog ymysg gwragedd: canys gwnaethent farn arni. 11 A phan welodd ei chwaer Aholiba, hi a lygrodd ei thraserch yn fwy na hi, a’i phuteindra yn fwy na phuteindra ei chwaer. 12 Ymserchodd ym meibion Assur, y dugiaid a’r tywysogion o gymdogion, wedi eu gwisgo yn wych iawn, yn farchogion yn marchogaeth meirch, yn wŷr ieuainc dymunol i gyd. 13 Yna y gwelais ei halogi hi, a bod un ffordd ganddynt ill dwy, 14 Ac iddi hi chwanegu ar ei phuteindra: canys pan welodd wŷr wedi eu llunio ar y pared, delwau y Caldeaid wedi eu llunio â fermilion, 15 Wedi eu gwregysu â gwregys am eu llwynau, yn rhagori mewn lliwiau am eu pennau, mewn golwg yn dywysogion oll, o ddull meibion Babilon yn Caldea, tir eu genedigaeth: 16 Hi a ymserchodd ynddynt pan eu gwelodd â’i llygaid, ac a anfonodd genhadau atynt i Caldea. 17 A meibion Babilon a ddaethant ati i wely cariad, ac a’i halogasant hi â’u puteindra; a hi a ymhalogodd gyda hwynt, a’i meddwl a giliodd oddi wrthynt. 18 Felly y datguddiodd hi ei phuteindra, ac y datguddiodd ei noethni. Yna y ciliodd fy meddwl oddi wrthi, fel y ciliasai fy meddwl oddi wrth ei chwaer hi. 19 Eto hi a chwanegodd ei phuteindra, gan gofio dyddiau ei hieuenctid, yn y rhai y puteiniasai hi yn nhir yr Aifft. 20 Canys hi a ymserchodd yn ei gordderchwyr, y rhai yr oedd eu cnawd fel cnawd asynnod, a’u diferlif fel diferlif meirch. 21 Felly y cofiaist ysgelerder dy ieuenctid, pan ysigwyd dy ddidennau gan yr Eifftiaid, am fronnau dy ieuenctid.
22 Am hynny, Aholiba, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cyfodi dy gariadau i’th erbyn, y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt, a dygaf hwynt i’th erbyn o amgylch: 23 Meibion Babilon a’r holl Galdeaid, Pecod, a Soa, a Coa, a holl feibion Assur gyda hwynt; yn wŷr ieuainc dymunol, yn ddugiaid a thywysogion i gyd, yn benaethiaid ac yn enwog, yn marchogaeth meirch, bawb ohonynt. 24 A deuant i’th erbyn â menni, cerbydau, ac olwynion, ac â chynulleidfa o bobl; gosodant i’th erbyn oddi amgylch astalch, a tharian, a helm: a rhoddaf o’u blaen hwynt farnedigaeth, a hwy a’th farnant â’u barnedigaethau eu hun. 25 A mi a osodaf fy eiddigedd yn dy erbyn, a hwy a wnânt â thi yn llidiog: dy drwyn a’th glustiau a dynnant ymaith, a’th weddill a syrth gan y cleddyf: hwy a ddaliant dy feibion a’th ferched; a’th weddill a ysir gan y tân. 26 Diosgant hefyd dy ddillad, a dygant dy ddodrefn hyfryd. 27 Felly y gwnaf i’th ysgelerder, a’th buteindra o dir yr Aifft, beidio â thi; fel na chodech dy lygaid atynt, ac na chofiech yr Aifft mwy. 28 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn dy roddi yn llaw y rhai a gaseaist, yn llaw y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt. 29 A gwnânt â thi yn atgas, ac a gymerant dy holl lafur, ac a’th adawant di yn llom ac yn noeth: a datguddir noethni dy buteindra; ie, dy ysgelerder a’th buteindra. 30 Mi a wnaf hyn i ti, am buteinio ohonot ar ôl y cenhedloedd, am dy halogi gyda’u heilunod hwynt. 31 Ti a rodiaist yn ffordd dy chwaer; am hynny y rhoddaf finnau ei chwpan hi yn dy law di. 32 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dwfn a helaeth gwpan dy chwaer a yfi: ti a fyddi i’th watwar ac i’th ddirmygu: y mae llawer yn genni ynddo. 33 Ti a lenwir â meddwdod ac â gofid, o gwpan syndod ac anrhaith, o gwpan dy chwaer Samaria. 34 Canys ti a yfi, ac a sugni ohono; drylli hefyd ei ddarnau ef, ac a dynni ymaith dy fronnau dy hun: canys myfi a’i lleferais, medd yr Arglwydd Dduw. 35 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd i ti fy anghofio, a’m bwrw ohonot tu ôl i’th gefn; am hynny dwg dithau dy ysgelerder a’th buteindra.
36 Dywedodd yr Arglwydd hefyd wrthyf, A ferni di, fab dyn, Ahola ac Aholiba? ie, mynega iddynt eu ffieidd‐dra; 37 Iddynt dorri priodas, a bod gwaed yn eu dwylo; ie, gyda’u heilunod y puteiniasant; eu meibion hefyd y rhai a blantasant i mi, a dynasant trwy dân iddynt i’w hysu. 38 Gwnaethant hyn ychwaneg i mi; fy nghysegr a aflanhasant yn y dydd hwnnw, a’m Sabothau a halogasant. 39 Canys pan laddasant eu meibion i’w heilunod, yna y daethant i’m cysegr yn y dydd hwnnw, i’w halogi ef: ac wele, fel hyn y gwnaethant yng nghanol fy nhŷ. 40 A hefyd gan anfon ohonoch am wŷr i ddyfod o bell, y rhai yr anfonwyd cennad atynt, ac wele daethant: er mwyn y rhai yr ymolchaist, y lliwiaist dy lygaid, ac yr ymherddaist â harddwch. 41 Eisteddaist hefyd ar wely anrhydeddus, a bord drefnus o’i flaen, a gosodaist arno fy arogl‐darth a’m holew i. 42 A llais tyrfa heddychol oedd gyda hi: a chyda’r cyffredin y dygwyd y Sabeaid o’r anialwch, y rhai a roddasant freichledau am eu dwylo hwynt, a choronau hyfryd am eu pennau hwynt. 43 Yna y dywedais wrth yr hen ei phuteindra, A wnânt hwy yn awr buteindra gyda hi, a hithau gyda hwythau? 44 Eto aethant ati fel myned at buteinwraig; felly yr aethant at Ahola ac Aholiba, y gwragedd ysgeler.
45 A’r gwŷr cyfiawn hwythau a’u barnant hwy â barnedigaeth puteiniaid, ac â barnedigaeth rhai yn tywallt gwaed: canys puteinio y maent, a gwaed sydd yn eu dwylo. 46 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Dygaf i fyny dyrfa arnynt hwy, a rhoddaf hwynt i’w mudo ac i’w hanrheithio. 47 A’r dyrfa a’u llabyddiant hwy â meini, ac a’u torrant hwy â’u cleddyfau: eu meibion a’u merched a laddant, a’u tai a losgant â thân. 48 Fel hyn y gwnaf finnau i ysgelerder beidio o’r wlad, fel y dysgir yr holl wragedd na wnelont yn ôl eich ysgelerder chwi. 49 A hwy a roddant eich ysgelerder i’ch erbyn, a chwi a ddygwch bechodau eich eilunod; ac a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.
24 Drachefn yn y nawfed flwyddyn, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2 Ysgrifenna i ti enw y dydd hwn, fab dyn, ie, corff y dydd hwn: ymosododd brenin Babilon yn erbyn Jerwsalem o fewn corff y dydd hwn. 3 A thraetha ddihareb wrth y tŷ gwrthryfelgar, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gosod y crochan, gosod, a thywallt hefyd ddwfr ynddo. 4 Casgl ei ddrylliau iddo, pob dryll teg, y morddwyd, a’r ysgwyddog; llanw ef â’r dewis esgyrn. 5 Cymer ddewis o’r praidd, a chynnau yr esgyrn dano, a berw ef yn ferwedig; ie, berwed ei esgyrn o’i fewn.
6 Am hynny yr Arglwydd Dduw a ddywed fel hyn, Gwae ddinas y gwaed, y crochan yr hwn y mae ei ysgum ynddo, ac nid aeth ei ysgum allan ohono: tyn ef allan bob yn ddryll: na syrthied coelbren arno. 7 Oherwydd ei gwaed sydd yn ei chanol: ar gopa craig y gosododd hi ef; nis tywalltodd ar y ddaear, i fwrw arno lwch: 8 I beri i lid godi i wneuthur dial; rhoddais ei gwaed hi ar gopa craig, rhag ei guddio. 9 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Gwae ddinas y gwaed! minnau a wnaf ei thanllwyth yn fawr. 10 Amlha y coed, cynnau y tân, difa y cig, a gwna goginiaeth, a llosger yr esgyrn. 11 A dod ef ar ei farwor yn wag, fel y twymo, ac y llosgo ei bres, ac y toddo ei aflendid ynddo, ac y darfyddo ei ysgum. 12 Ymflinodd â chelwyddau, ac nid aeth ei hysgum mawr allan ohoni: yn tân y bwrir ei hysgum hi. 13 Yn dy aflendid y mae ysgelerder: oherwydd glanhau ohonof di, ac nid wyt lân, o’th aflendid ni’th lanheir mwy, hyd oni pharwyf i’m llid orffwys arnat. 14 Myfi yr Arglwydd a’i lleferais: daw, a gwnaf; nid af yn ôl ac nid arbedaf, ac nid edifarhaf. Yn ôl dy ffyrdd, ac yn ôl dy weithredoedd, y barnant di, medd yr Arglwydd Dduw.
15 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 16 Wele, fab dyn, fi yn cymryd oddi wrthyt ddymuniant dy lygaid â dyrnod: eto na alara ac nac wyla, ac na ddeued dy ddagrau. 17 Taw â llefain, na wna farwnad; rhwym dy gap am dy ben, a dod dy esgidiau am dy draed, ac na chae ar dy enau, na fwyta chwaith fara dynion. 18 Felly y lleferais wrth y bobl y bore; a bu farw fy ngwraig yn yr hwyr; a gwneuthum y bore drannoeth fel y gorchmynasid i mi.
19 A’r bobl a ddywedasant wrthyf, Oni fynegi i mi beth yw hyn i ni, gan i ti wneuthur felly? 20 Yna y dywedais wrthynt, Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 21 Dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn halogi fy nghysegr, godidowgrwydd eich nerth, dymuniant eich llygaid, ac anwyldra eich enaid: a’ch meibion a’ch merched, y rhai a adawsoch, a syrthiant gan y cleddyf. 22 Ac fel y gwneuthum i, y gwnewch chwithau; ni chaewch ar eich geneuau, ac ni fwytewch fara dynion. 23 Byddwch â’ch capiau am eich pennau, a’ch esgidiau am eich traed: ni alerwch, ac nid wylwch; ond am eich anwiredd y dihoenwch, ac ochneidiwch bob un wrth ei gilydd. 24 Felly y mae Eseciel yn arwydd i chwi: yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe, y gwnewch chwithau: a phan ddelo hyn, chwi a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw. 25 Tithau fab dyn, onid yn y dydd y cymeraf oddi wrthynt eu nerth, llawenydd eu gogoniant, dymuniant eu llygaid, ac anwyldra eu henaid, eu meibion a’u merched, 26 Y dydd hwnnw y daw yr hwn a ddihango, atat, i beri i ti ei glywed â’th glustiau? 27 Yn y dydd hwnnw yr agorir dy safn wrth yr hwn a ddihango; lleferi hefyd, ac ni byddi fud mwy: a byddi iddynt yn arwydd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.