Beginning
1 Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes a’i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru yn y gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd; 2 Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni yn dragywydd. 3 Bydded gyda chwi ras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad. 4 Bu lawen iawn gennyf i mi gael o’th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn gan y Tad. 5 Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o’r dechreuad, garu ohonom ein gilydd. 6 A hyn yw’r cariad: bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef. Hwn yw’r gorchymyn; Megis y clywsoch o’r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo. 7 Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i’r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw’r twyllwr a’r anghrist. 8 Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr. 9 Pob un a’r sydd yn troseddu, ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef. Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist, hwnnw y mae’r Tad a’r Mab ganddo. 10 Od oes neb yn dyfod atoch, a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, ac na ddywedwch, Duw yn rhwydd, wrtho: 11 Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o’i weithredoedd drwg ef. 12 Er bod gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu atoch, nid oeddwn yn ewyllysio ysgrifennu â phapur ac inc: eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn. 13 Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch. Amen.
1 Yr henuriad at yr annwyl Gaius, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd. 2 Yr anwylyd, yr ydwyf yn bennaf dim yn dymuno dy fod yn llwyddo ac yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo. 3 Canys mi a lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thystiolaethu am dy wirionedd di, megis ag yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd. 4 Mwy llawenydd na hyn nid oes gennyf, sef cael clywed bod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd. 5 Yr anwylyd, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur tuag at y brodyr, a thuag at ddieithriaid; 6 Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di gerbron yr eglwys: y rhai os hebryngi fel y gweddai i Dduw, da y gwnei. 7 Canys er mwyn ei enw yr aethant allan, heb gymryd dim gan y Cenhedloedd. 8 Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gyd-gynorthwywyr i’r gwirionedd. 9 Mi a ysgrifennais at yr eglwys: eithr Diotreffes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim ohonom. 10 Oherwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gof ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag siarad i’n herbyn â geiriau drygionus: ac heb fod yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr; a’r rhai sydd yn ewyllysio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o’r eglwys. 11 Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw. 12 Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu; a chwi a wyddoch fod ein tystiolaeth ni yn wir. 13 Yr oedd gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu, ond nid wyf yn chwennych ysgrifennu ag inc a phin atat ti: 14 Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb. 15 Tangnefedd i ti. Y mae’r cyfeillion i’th annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.
1 Jwdas, gwasanaethwr Iesu Grist, a brawd Iago, at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Dad, ac a gadwyd yn Iesu Grist, ac a alwyd: 2 Trugaredd i chwi, a thangnefedd, a chariad, a luosoger. 3 Anwylyd, pan roddais bob diwydrwydd ar ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth gyffredinol, anghenraid oedd i mi ysgrifennu atoch gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i’r saint. 4 Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn, y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i’r farnedigaeth hon; annuwiolion, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu’r unig Arglwydd Dduw, a’n Harglwydd Iesu Grist. 5 Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffáu chwi, gan eich bod unwaith yn gwybod hyn; i’r Arglwydd, wedi iddo waredu’r bobl o dir yr Aifft, ddistrywio eilwaith y rhai ni chredasant. 6 Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr. 7 Megis y mae Sodom a Gomorra, a’r dinasoedd o’u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt, wedi puteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol. 8 Yr un ffunud hefyd y mae’r breuddwydwyr hyn yn halogi’r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu’r rhai sydd mewn awdurdod. 9 Eithr Michael yr archangel, pan oedd efe, wrth ymddadlau â diafol, yn ymresymu ynghylch corff Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi. 10 Eithr y rhai hyn sydd yn cablu’r pethau nis gwyddant: a pha bethau bynnag y maent yn anianol, fel anifeiliaid direswm, yn eu gwybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent. 11 Gwae hwynt-hwy! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain, ac a’u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a’u difethwyd yng ngwrthddywediad Core. 12 Y rhai hyn sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi, yn cydwledda â chwi, yn ddi-ofn yn eu pesgi eu hunain: cymylau di-ddwfr ydynt, a gylcharweinir gan wyntoedd; prennau diflanedig heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio; 13 Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; sêr gwibiog, i’r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd. 14 Ac Enoch hefyd, y seithfed o Adda, a broffwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Wele, y mae’r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o’i saint, 15 I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr argyhoeddi’r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef. 16 Y rhai hyn sydd rwgnachwyr, tuchanwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd. 17 Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist; 18 Ddywedyd ohonynt i chwi, y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain. 19 Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt. 20 Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân, 21 Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol. 22 A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor: 23 Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o’r tân; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd. 24 Eithr i’r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a’ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd, 25 I’r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.