Beginning
21 Adaeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2 Gosod dy wyneb, fab dyn, tua Jerwsalem, a difera dy eiriau tua’r cysegroedd, a phroffwyda yn erbyn gwlad Israel, 3 A dywed wrth wlad Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi i’th erbyn, tynnaf hefyd fy nghleddyf o’i wain, a thorraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn. 4 Oherwydd y torraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn, am hynny y daw fy nghleddyf allan o’i wain yn erbyn pob cnawd, o’r deau hyd y gogledd; 5 Fel y gwypo pob cnawd i mi yr Arglwydd dynnu fy nghleddyf allan o’i wain: ni ddychwel efe mwy. 6 Ochain dithau, fab dyn, gydag ysictod lwynau; ie, ochain yn chwerw yn eu golwg hwynt. 7 A bydd, pan ddywedant wrthyt, Am ba beth yr ydwyt yn ochain? yna ddywedyd ohonot, Am y chwedl newydd, am ei fod yn dyfod, fel y toddo pob calon, ac y llaeso y dwylo oll, ac y pallo pob ysbryd, a’r gliniau oll a ânt fel dwfr; wele efe yn dyfod, ac a fydd, medd yr Arglwydd Dduw.
8 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 9 Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dywed, Cleddyf, cleddyf a hogwyd, ac a loywyd. 10 Efe a hogwyd i ladd lladdfa, efe a loywyd fel y byddai ddisglair: a lawenychwn ni? y mae efe yn dirmygu gwialen fy mab, fel pob pren. 11 Ac efe a’i rhoddes i’w loywi, i’w ddal mewn llaw; y cleddyf hwn a hogwyd, ac a loywyd, i’w roddi yn llaw y lleiddiad. 12 Gwaedda ac uda, fab dyn; canys hwn fydd ar fy mhobl, hwn fydd yn erbyn holl dywysogion Israel; dychryn gan y cleddyf fydd ar fy mhobl: am hynny taro law ar forddwyd. 13 Canys profiad yw; a pheth os y cleddyf a ddiystyra y wialen? ni bydd efe mwy, medd yr Arglwydd Dduw. 14 Tithau, fab dyn, proffwyda, a tharo law wrth law, a dybler y cleddyf y drydedd waith: cleddyf y lladdedigion, cleddyf lladdedigaeth y gwŷr mawr ydyw, yn myned i’w hystafelloedd hwynt. 15 Rhoddais flaen y cleddyf yn erbyn eu holl byrth hwynt, i doddi eu calon, ac i amlhau eu tramgwyddiadau: O, gwnaed ef yn loyw, hogwyd ef i ladd! 16 Dos ryw ffordd, naill ai ar y llaw ddeau, ai ar y llaw aswy, lle y tueddo dy wyneb. 17 Minnau hefyd a drawaf y naill law yn y llall, ac a lonyddaf fy llid: myfi yr Arglwydd a’i lleferais.
18 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 19 Tithau, fab dyn, gosod i ti ddwy ffordd, fel y delo cleddyf brenin Babilon; o un tir y deuant ill dwy: a dewis le, ym mhen ffordd y ddinas y dewisi ef. 20 Gosod ffordd i ddyfod o’r cleddyf tua Rabbath meibion Ammon, a thua Jwda yn erbyn Jerwsalem gaerog. 21 Canys safodd brenin Babilon ar y groesffordd, ym mhen y ddwyffordd, i ddewinio dewiniaeth: gloywodd ei saethau, ymofynnodd â delwau, edrychodd mewn afu. 22 Yn ei law ddeau yr oedd dewiniaeth Jerwsalem, am osod capteiniaid i agoryd safn mewn lladdedigaeth, i ddyrchafu llef gyda bloedd, i osod offer rhyfel yn erbyn y pyrth, i fwrw clawdd, i adeiladu amddiffynfa. 23 A hyn fydd ganddynt, fel dewinio dewiniaeth gwagedd yn eu golwg hwynt, i’r rhai a dyngasant lwon: ond efe a gofia yr anwiredd, i’w dal hwynt. 24 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am beri ohonoch gofio eich anwiredd, gan amlygu eich camweddau, fel yr ymddengys eich pechodau yn eich holl weithredoedd; am beri ohonoch eich cofio, y’ch delir â llaw.
25 Tithau, halogedig annuwiol dywysog Israel, yr hwn y daeth ei ddydd, yn amser diwedd anwiredd, 26 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Symud y meitr, a thyn ymaith y goron; nid yr un fydd hon: cyfod yr isel, gostwng yr uchel. 27 Dymchwelaf, dymchwelaf, dymchwelaf hi; ac ni bydd mwyach hyd oni ddelo yr hwn y mae yn gyfiawn iddo; ac iddo ef y rhoddaf hi.
28 Proffwyda dithau, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am feibion Ammon, ac am eu gwaradwydd hwynt; dywed di, Y cleddyf, y cleddyf a dynnwyd: i ladd y gloywyd ef, i ddifetha oherwydd y disgleirdeb: 29 Wrth weled gwagedd i ti, wrth ddewinio i ti gelwydd, i’th roddi ar yddfau y lladdedigion, y drygionus y rhai y daeth eu dydd, yn amser diwedd eu hanwiredd.
30 A ddychwelaf fi ef i’w wain? yn y lle y’th grewyd, yn nhir dy gynefin, y’th farnaf. 31 A thywalltaf fy nicllonedd arnat, â thân fy llidiowgrwydd y chwythaf arnat, a rhoddaf di yn llaw dynion poethion, cywraint i ddinistrio. 32 I’r tân y byddi yn ymborth; dy waed fydd yng nghanol y tir; ni’th gofir mwyach: canys myfi yr Arglwydd a’i dywedais.
22 Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd, 2 Tithau, fab dyn, a ferni di, a ferni ddinas y gwaed? ie, ti a wnei iddi wybod ei holl ffieidd‐dra. 3 Dywed dithau, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Tywallt gwaed y mae y ddinas yn ei chanol, i ddyfod o’i hamser, ac eilunod a wnaeth hi yn ei herbyn ei hun i ymhalogi. 4 Euog wyt yn dy waed, yr hwn a dywelltaist; a halogedig yn dy eilunod, y rhai a wnaethost; a thi a neseaist dy ddyddiau, a daethost hyd at dy flynyddoedd: am hynny y’th wneuthum yn warth i’r cenhedloedd, ac yn watwargerdd i’r holl wledydd. 5 Y rhai agos a’r rhai pell oddi wrthyt a’th watwarant, yr halogedig o enw, ac aml dy drallod. 6 Wele, tywysogion Israel oeddynt ynot, bob un yn ei allu i dywallt gwaed. 7 Dirmygasant ynot dad a mam; gwnaethant yn dwyllodrus â’r dieithr o’th fewn: gorthrymasant ynot yr amddifad a’r weddw. 8 Dirmygaist fy mhethau sanctaidd, a halogaist fy Sabothau. 9 Athrodwyr oedd ynot i dywallt gwaed; ar y mynyddoedd hefyd y bwytasant ynot ti: gwnânt ysgelerder o’th fewn. 10 Ynot ti y datguddient noethni eu tad: yr aflan o fisglwyf a ddarostyngent ynot. 11 Gwnâi ŵr hefyd ffieidd‐dra â gwraig ei gymydog; a gŵr a halogai ei waudd ei hun mewn ysgelerder; ie, darostyngai gŵr ynot ei chwaer ei hun, merch ei dad. 12 Gwobr a gymerent ynot am dywallt gwaed; cymeraist usuriaeth ac ocraeth, ac elwaist ar dy gymdogion trwy dwyll, ac anghofiaist fi, medd yr Arglwydd Dduw.
13 Am hynny wele, trewais fy llaw wrth dy gybydd‐dod yr hwn a wnaethost, ac am y gwaed oedd o’th fewn. 14 A bery dy galon, a gryfha dy ddwylo, yn y dyddiau y bydd i mi a wnelwyf â thi? myfi yr Arglwydd a’i lleferais, ac a’i gwnaf. 15 Canys gwasgaraf di ymysg y cenhedloedd, a thaenaf di ar hyd y gwledydd, a gwnaf i’th aflendid ddarfod allan ohonot. 16 A thi a etifeddi ynot dy hun yng ngŵydd y cenhedloedd: a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 17 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 18 Ha fab dyn, tŷ Israel a aeth gennyf yn amhuredd: pres, ac alcam, a haearn, a phlwm, ydynt oll yng nghanol y pair: amhuredd arian ydynt. 19 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am eich bod chwi oll yn amhuredd, am hynny wele fi yn eich casglu chwi i ganol Jerwsalem. 20 Fel casglu arian, a phres, a haearn, a phlwm, ac alcam, i ganol y ffwrn, i chwythu tân arnynt i’w toddi; felly yn fy llid a’m dig y casglaf chwi, ac a’ch gadawaf yno, ac a’ch toddaf. 21 Ie, casglaf chwi, a chwythaf arnoch â thân fy llidiowgrwydd, fel y todder chwi yn ei chanol hi. 22 Fel y toddir arian yng nghanol y pair, felly y toddir chwi yn ei chanol hi; fel y gwypoch mai myfi yr Arglwydd a dywelltais fy llidiowgrwydd arnoch.
23 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 24 Dywed wrthi hi, fab dyn, Ti yw y tir sydd heb ei buro, heb lawio arno yn nydd dicter. 25 Cydfradwriaeth ei phroffwydi o’i mewn, sydd fel llew rhuadwy yn ysglyfaethu ysglyfaeth; eneidiau a ysasant; trysor a phethau gwerthfawr a gymerasant; ei gweddwon hi a amlhasant hwy o’i mewn. 26 Ei hoffeiriaid a dreisiasant fy nghyfraith, ac a halogasant fy mhethau sanctaidd: ni wnaethant ragor rhwng cysegredig a halogedig, ac ni wnaethant wybod rhagor rhwng yr aflan a’r glân; cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabothau, a halogwyd fi yn eu mysg hwynt. 27 Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw. 28 Ei phroffwydi hefyd a’u priddasant hwy â chlai annhymherus, gan weled gwagedd, a dewinio iddynt gelwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, a’r Arglwydd heb ddywedyd. 29 Pobl y tir a arferasant dwyll, ac a dreisiasant drais, ac a orthrymasant y truan a’r tlawd; y dieithr hefyd a orthrymasant yn anghyfiawn. 30 Ceisiais hefyd ŵr ohonynt i gau y cae, ac i sefyll ar yr adwy o’m blaen dros y wlad, rhag ei dinistrio; ac nis cefais. 31 Am hynny y tywelltais fy nigofaint arnynt, â thân fy llidiowgrwydd y difethais hwynt; eu ffordd eu hun a roddais ar eu pennau hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.