Beginning
I’r Pencerdd, Salm Dafydd gwas yr Arglwydd.
36 Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef. 2 Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atgas. 3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni. 4 Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely: efe a’i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo ddrygioni. 5 Dy drugaredd, Arglwydd, sydd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau. 6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, Arglwydd. 7 Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd. 8 Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt. 9 Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni. 10 Estyn dy drugaredd i’r rhai a’th adwaenant, a’th gyfiawnder i’r rhai uniawn o galon. 11 Na ddeued troed balchder i’m herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi. 12 Yno y syrthiodd gweithwyr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.
Salm Dafydd.
37 Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd. 2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau. 3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. 4 Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. 5 Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben. 6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd. 7 Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. 8 Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg. 9 Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd, hwynt‐hwy a etifeddant y tir. 10 Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono. 11 Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd. 12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno. 13 Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod. 14 Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd. 15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir. 16 Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer. 17 Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn. 18 Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai perffaith: a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd. 19 Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon. 20 Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr Arglwydd fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy. 21 Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi. 22 Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a’r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith. 23 Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef. 24 Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â’i law. 25 Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na’i had yn cardota bara. 26 Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a’i had a fendithir. 27 Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd. 28 Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith. 29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd. 30 Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a’i dafod a draetha farn. 31 Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef; a’i gamre ni lithrant. 32 Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef. 33 Ni ad yr Arglwydd ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner. 34 Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli. 35 Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd. 36 Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael. 37 Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd. 38 Ond y troseddwyr a gyd‐ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith. 39 A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod. 40 A’r Arglwydd a’u cymorth hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.
Salm Dafydd, er coffa.
38 Arglwydd, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd. 2 Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a’th law yn drom arnaf. 3 Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy mhechod. 4 Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi. 5 Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd. 6 Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus. 7 Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd. 8 Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon. 9 O’th flaen di, Arglwydd, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt. 10 Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf. 11 Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell. 12 Y rhai hefyd a geisient fy einioes, a osodasent faglau; a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd. 13 A minnau fel byddar ni chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau. 14 Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau. 15 Oherwydd i mi obeithio ynot, Arglwydd; ti, Arglwydd fy Nuw, a wrandewi. 16 Canys dywedais, Gwrando fi, rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m herbyn. 17 Canys parod wyf i gloffi, a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad. 18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod. 19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam. 20 A’r rhai a dalant ddrwg dros dda, a’m gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni. 21 Na ad fi, O Arglwydd: fy Nuw, nac ymbellha oddi wrthyf. 22 Brysia i’m cymorth, O Arglwydd fy iachawdwriaeth.
Salm Dafydd i’r Pencerdd, sef i Jedwthwn.
39 Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg. 2 Tewais yn ddistaw, ie, tewais â daioni; a’m dolur a gyffrôdd. 3 Gwresogodd fy nghalon o’m mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod. 4 Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi. 5 Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela. 6 Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a’i casgl. 7 Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O Arglwydd? fy ngobaith sydd ynot ti. 8 Gwared fi o’m holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd. 9 Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn. 10 Tyn dy bla oddi wrthyf: gan ddyrnod dy law y darfûm i. 11 Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob dyn. Sela. 12 Gwrando fy ngweddi, Arglwydd, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau. 13 Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.