Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Beginning

Read the Bible from start to finish, from Genesis to Revelation.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Brenhinoedd 4-5

A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr Arglwydd: a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo. Ac Eliseus a ddywedodd wrthi, Beth a wnaf fi i ti? mynega i mi, beth sydd gennyt ti yn dy dŷ? Dywedodd hithau, Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ, ond ystenaid o olew. Ac efe a ddywedodd, Dos, cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion, sef llestri gweigion, nid ychydig. A phan ddelych i mewn, cae y drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i’r holl lestri hynny; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn. Felly hi a aeth oddi wrtho ef, ac a gaeodd y drws arni, ac ar ei meibion: a hwynt‐hwy a ddygasant y llestri ati hi; a hithau a dywalltodd. Ac wedi llenwi y llestri, hi a ddywedodd wrth ei mab, Dwg i mi eto lestr. Dywedodd yntau wrthi, Nid oes mwyach un llestr. A’r olew a beidiodd. Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i ŵr Duw. Dywedodd yntau, Dos, gwerth yr olew, a thâl dy ddyled; a bydd di fyw, ti a’th feibion, ar y rhan arall.

A bu ar ryw ddiwrnod i Eliseus dramwyo i Sunem; ac yno yr oedd gwraig oludog, yr hon a’i cymhellodd ef i fwyta bara. A chynifer gwaith ag y tramwyai efe heibio, efe a droai yno i fwyta bara. A hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Wele yn awr, mi a wn mai gŵr sanctaidd i Dduw ydyw hwn, sydd yn cyniwair heibio i ni yn wastadol. 10 Gwnawn, atolwg, ystafell fechan ar y mur; a gosodwn iddo yno wely, a bwrdd, ac ystôl, a chanhwyllbren: fel y tro efe yno, pan ddelo efe atom ni. 11 Ac ar ddyddgwaith efe a ddaeth yno, ac a drodd i’r ystafell, ac a orffwysodd yno. 12 Ac efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Galw ar y Sunamees hon. Yntau a alwodd arni hi: hithau a safodd ger ei fron ef. 13 Dywedodd hefyd wrtho, Dywed yn awr wrthi hi, Wele, ti a ofelaist trosom ni â’r holl ofal yma; beth sydd i’w wneuthur erot ti? a oes a fynnych di ei ddywedyd wrth y brenin, neu wrth dywysog y llu? Hithau a ddywedodd, Yng nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo. 14 Ac efe a ddywedodd, Beth gan hynny sydd i’w wneuthur erddi hi? A Gehasi a ddywedodd, Yn ddiau nid oes iddi fab, a’i gŵr sydd hen. 15 Ac efe a ddywedodd, Galw hi. Ac efe a’i galwodd hi; a hi a safodd yn y drws. 16 Ac efe a ddywedodd, Ynghylch y pryd hwn wrth amser bywoliaeth, ti a gofleidi fab. Hithau a ddywedodd, Nage, fy arglwydd, gŵr Duw, na ddywed gelwydd i’th lawforwyn. 17 A’r wraig a feichiogodd, ac a ddug fab y pryd hwnnw, yn ôl amser bywoliaeth, yr hyn a lefarasai Eliseus wrthi hi.

18 A’r bachgen a gynyddodd, ac a aeth ddyddgwaith allan at ei dad at y medelwyr. 19 Ac efe a ddywedodd wrth ei dad, Fy mhen, fy mhen. Dywedodd yntau wrth lanc, Dwg ef at ei fam. 20 Ac efe a’i cymerth, ac a’i dug ef at ei fam. Ac efe a eisteddodd ar ei gliniau hi hyd hanner dydd, ac a fu farw. 21 A hi a aeth i fyny, ac a’i gosododd ef i orwedd ar wely gŵr Duw, ac a gaeodd y drws arno, ac a aeth allan. 22 A hi a alwodd ar ei gŵr, ac a ddywedodd, Anfon, atolwg, gyda mi un o’r llanciau, ac un o’r asynnod: canys mi a redaf hyd at ŵr Duw, ac a ddychwelaf. 23 Dywedodd yntau, Paham yr ei di ato ef heddiw? nid yw hi na newyddloer, na Saboth. Hithau a ddywedodd, Pob peth yn dda. 24 Yna hi a gyfrwyodd yr asyn; ac a ddywedodd wrth ei llanc, Gyr, a dos rhagot: nac aros amdanaf fi i farchogaeth, onid archwyf i ti. 25 Felly hi a aeth, ac a ddaeth at ŵr Duw i fynydd Carmel. A phan welodd gŵr Duw hi o bell, efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Wele y Sunamees honno. 26 Rhed yn awr, atolwg, i’w chyfarfod, a dywed wrthi hi, A wyt ti yn iach? a ydyw dy ŵr yn iach? a ydyw y bachgen yn iach? Dywedodd hithau, Iach. 27 A phan ddaeth hi at ŵr Duw i’r mynydd, hi a ymaflodd yn ei draed ef: a Gehasi a nesaodd i’w gwthio hi ymaith. A gŵr Duw a ddywedodd, Gad hi yn llonydd: canys ei henaid sydd ofidus ynddi; a’r Arglwydd a’i celodd oddi wrthyf fi, ac nis mynegodd i mi. 28 Yna hi a ddywedodd, A ddymunais i fab gan fy arglwydd? oni ddywedais, Na thwylla fi? 29 Yna efe a ddywedodd wrth Gehasi, Gwregysa dy lwynau, a chymer fy ffon yn dy law, a dos ymaith: o chyfarfyddi â neb, na chyfarch iddo; ac o chyfarch neb di, nac ateb ef: a gosod fy ffon i ar wyneb y bachgen. 30 A mam y bachgen a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid di, nid ymadawaf fi â thi. Ac efe a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl hi. 31 A Gehasi a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a osododd y ffon ar wyneb y bachgen: ond nid oedd na lleferydd, na chlywed. Am hynny efe a ddychwelodd i’w gyfarfod ef; ac a fynegodd iddo, gan ddywedyd, Ni ddeffrôdd y bachgen. 32 A phan ddaeth Eliseus i mewn i’r tŷ, wele y bachgen wedi marw, yn gorwedd ar ei wely ef. 33 Felly efe a ddaeth i mewn, ac a gaeodd y drws arnynt ill dau, ac a weddïodd ar yr Arglwydd. 34 Ac efe a aeth i fyny, ac a orweddodd ar y bachgen, ac a osododd ei enau ar ei enau yntau, a’i lygaid ar ei lygaid ef, a’i ddwylo ar ei ddwylo ef, ac efe a ymestynnodd arno ef; a chynhesodd cnawd y bachgen. 35 Ac efe a ddychwelodd, ac a rodiodd yn y tŷ i fyny ac i waered; ac a aeth i fyny, ac a ymestynnodd arno ef: a’r bachgen a disiodd hyd yn seithwaith, a’r bachgen a agorodd ei lygaid. 36 Ac efe a alwodd ar Gehasi, ac a ddywedodd, Galw y Sunamees hon. Ac efe a alwodd arni hi. A hi a ddaeth ato ef. Dywedodd yntau, Cymer dy fab. 37 A hi a aeth i mewn, ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ymgrymodd hyd lawr, ac a gymerodd ei mab, ac a aeth allan.

38 Ac Eliseus a ddychwelodd i Gilgal. Ac yr oedd newyn yn y wlad; a meibion y proffwydi oedd yn eistedd ger ei fron ef: ac efe a ddywedodd wrth ei was, Trefna’r crochan mawr, a berw gawl i feibion y proffwydi. 39 Ac un a aeth allan i’r maes i gasglu bresych, ac a gafodd winwydden wyllt, ac a gasglodd ohoni fresych gwylltion lonaid ei wisg, ac a ddaeth ac a’u briwodd yn y crochan cawl: canys nid adwaenent hwynt. 40 Yna y tywalltasant i’r gwŷr i fwyta. A phan fwytasant o’r cawl, hwy a waeddasant, ac a ddywedasant, O ŵr Duw, y mae angau yn y crochan: ac ni allent ei fwyta. 41 Ond efe a ddywedodd, Dygwch flawd. Ac efe a’i bwriodd yn y crochan: dywedodd hefyd, Tywallt i’r bobl, fel y bwytaont. Ac nid oedd dim niwed yn y crochan.

42 A daeth gŵr o Baal‐salisa, ac a ddug i ŵr Duw o fara blaenffrwyth, ugain torth haidd, a thywysennau o ŷd newydd yn ei gibau. Ac efe a ddywedodd, Dod i’r bobl, fel y bwytaont. 43 A’i weinidog ef a ddywedodd, I ba beth y rhoddaf hyn gerbron cannwr? Dywedodd yntau, Dyro i’r bobl, fel y bwytaont: canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Hwy a fwytânt, a bydd gweddill. 44 Felly efe a’i rhoddodd ger eu bron hwynt: a hwy a fwytasant, ac a weddillasant, yn ôl gair yr Arglwydd.

A Naaman, tywysog llu brenin Syria, oedd ŵr mawr yng ngolwg ei arglwydd, ac yn anrhydeddus; canys trwyddo ef y rhoddasai yr Arglwydd ymwared i Syria: ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol, ond yr oedd yn wahanglwyfus. A’r Syriaid a aethent allan yn finteioedd, ac a gaethgludasent o wlad Israel lances fechan; a honno oedd yn gwasanaethu gwraig Naaman. A hi a ddywedodd wrth ei meistres, O na byddai fy arglwydd o flaen y proffwyd sydd yn Samaria! canys efe a’i hiachâi ef o’i wahanglwyf. Ac un a aeth ac a fynegodd i’w arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn ac fel hyn y dywedodd y llances o wlad Israel. A brenin Syria a ddywedodd, Dos, cerdda, a mi a anfonaf lythyr at frenin Israel. Ac efe a aeth ymaith, ac a ddug gydag ef ddeg talent o arian, a chwe mil o aur, a deg pâr o ddillad. Ac efe a ddug y llythyr at frenin Israel, gan ddywedyd, Yn awr pan ddêl y llythyr hwn atat ti, wele, anfonais atat ti Naaman fy ngwas, fel yr iacheit ef o’i wahanglwyf. A phan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Ai Duw ydwyf fi, i farwhau, ac i fywhau, pan anfonai efe ataf fi i iacháu gŵr o’i wahanglwyf? gwybyddwch gan hynny, atolwg, a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i’m herbyn i.

A phan glybu Eliseus gŵr Duw rwygo o frenin Israel ei ddillad, efe a anfonodd at y brenin, gan ddywedyd, Paham y rhwygaist dy ddillad? deued yn awr ataf fi, ac efe a gaiff wybod fod proffwyd yn Israel. Yna Naaman a ddaeth â’i feirch ac â’i gerbydau, ac a safodd wrth ddrws tŷ Eliseus. 10 Ac Eliseus a anfonodd ato ef gennad, gan ddywedyd, Dos ac ymolch saith waith yn yr Iorddonen; a’th gnawd a ddychwel i ti, a thithau a lanheir. 11 Ond Naaman a ddigiodd, ac a aeth ymaith; ac a ddywedodd, Wele, mi a feddyliais ynof fy hun, gan ddyfod y deuai efe allan, ac y safai efe, ac y galwai ar enw yr Arglwydd ei Dduw, ac y gosodai ei law ar y fan, ac yr iachâi y gwahanglwyfus. 12 Onid gwell Abana a Pharpar, afonydd Damascus, na holl ddyfroedd Israel? oni allaf ymolchi ynddynt hwy, ac ymlanhau? Felly efe a drodd, ac a aeth ymaith mewn dicter. 13 A’i weision a nesasant, ac a lefarasant wrtho, ac a ddywedasant, Fy nhad, pe dywedasai y proffwyd beth mawr wrthyt ti, onis gwnelsit? pa faint mwy, gan iddo ddywedyd wrthyt, Ymolch, a bydd lân? 14 Ac yna efe a aeth i waered, ac a ymdrochodd saith waith yn yr Iorddonen, yn ôl gair gŵr Duw: a’i gnawd a ddychwelodd fel cnawd dyn bach, ac efe a lanhawyd.

15 Ac efe a ddychwelodd at ŵr Duw, efe a’i holl fintai, ac a ddaeth ac a safodd ger ei fron ef; ac a ddywedodd, Wele, yn awr y gwn nad oes Duw trwy yr holl ddaear, ond yn Israel: am hynny cymer yn awr, atolwg, rodd gan dy was. 16 Ond efe a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni chymeraf. Ac efe a gymhellodd arno ei chymryd; eto efe a’i gwrthododd. 17 A Naaman a ddywedodd, Oni roddir yn awr i’th was lwyth cwpl o fulod o ddaear? canys ni offryma dy was mwyach boethoffrwm nac aberth i dduwiau eraill, ond i’r Arglwydd. 18 Yn y peth hyn yr Arglwydd a faddeuo i’th was; pan elo fy arglwydd i dŷ Rimmon i addoli yno, a phwyso ar fy llaw i, a phan ymgrymwyf finnau yn nhŷ Rimmon; pan ymgrymwyf yn nhŷ Rimmon, maddeued yr Arglwydd i’th was yn y peth hyn. 19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Dos mewn heddwch. Ac efe a aeth oddi wrtho ef encyd o ffordd.

20 Ond Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, a ddywedodd, Wele, fy meistr a arbedodd Naaman y Syriad hwn, heb gymryd o’i law ef yr hyn a ddygasai efe: fel mai byw yr Arglwydd, mi a redaf ar ei ôl ef, ac a gymeraf ryw beth ganddo ef. 21 Felly Gehasi a ganlynodd ar ôl Naaman. A phan welodd Naaman ef yn rhedeg ar ei ôl, efe a ddisgynnodd oddi ar y cerbyd i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, A yw pob peth yn dda? 22 Dywedodd yntau, Y mae pob peth yn dda. Fy meistr a’m hanfonodd i, gan ddywedyd, Wele, yr awr hon dau lanc o fynydd Effraim, o feibion y proffwydi, a ddaeth ataf fi: dyro yn awr iddynt hwy dalent o arian, a dau bâr o ddillad. 23 A Naaman a ddywedodd, Bydd fodlon, cymer ddwy dalent. Ac efe a fu daer arno ef; ac a rwymodd ddwy dalent arian mewn dwy god, a deubar o ddillad; ac efe a’u rhoddodd ar ddau o’i weision, i’w dwyn o’i flaen ef. 24 A phan ddaeth efe i’r bwlch, efe a’u cymerth o’u llaw hwynt, ac a’u rhoddodd i gadw yn tŷ; ac a ollyngodd ymaith y gwŷr, a hwy a aethant ymaith. 25 Ond efe a aeth i mewn, ac a safodd o flaen ei feistr. Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti, Gehasi? Dywedodd yntau, Nid aeth dy was nac yma na thraw. 26 Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid aeth fy nghalon gyda thi, pan drodd y gŵr oddi ar ei gerbyd i’th gyfarfod di? a ydoedd hi amser i gymryd arian, ac i gymryd gwisgoedd, ac olewyddlannau, a gwinllannau, a defaid, a gwartheg, a gweision, a morynion? 27 Am hynny gwahanglwyf Naaman a lŷn wrthyt ti, ac wrth dy had yn dragywydd. Ac efe a aeth ymaith o’i ŵydd ef yn wahanglwyfus cyn wynned â’r eira.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.