Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Beginning

Read the Bible from start to finish, from Genesis to Revelation.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Cronicl 22-24

22 A Dywedodd Dafydd, Hwn yw tŷ yr Arglwydd Dduw, a dyma allor y poethoffrwm i Israel. Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu y dieithriaid oedd yn nhir Israel; ac efe a osododd seiri meini i naddu cerrig nadd, i adeiladu tŷ Dduw. A pharatôdd Dafydd haearn yn helaeth, tuag at hoelion drysau y pyrth, ac i’r cysylltiadau, a phres mor helaeth ag nad oedd arno bwys; Coed cedr hefyd allan o rif: canys y Sidoniaid a’r Tyriaid a ddygent gedrwydd lawer i Dafydd. A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a’r tŷ a adeiledir i’r Arglwydd, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wledydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly y paratôdd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth.

Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab, ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i Arglwydd Dduw Israel. Dywedodd Dafydd hefyd wrth Solomon, Fy mab, yr oedd yn fy mryd i adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw. Eithr gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Gwaed lawer a dywelltaist ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti: nid adeiledi di dŷ i’m henw i, canys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaear yn fy ngŵydd i. Wele, mab a enir i ti, efe a fydd ŵr llonydd, a mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch: canys Solomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei ddyddiau ef. 10 Efe a adeilada dŷ i’m henw, ac efe a fydd i mi yn fab, a minnau yn dad iddo yntau: sicrhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth. 11 Yn awr fy mab, yr Arglwydd fyddo gyda thi, a ffynna dithau, ac adeilada dŷ yr Arglwydd dy Dduw, megis ag y llefarodd efe amdanat ti. 12 Yn unig rhodded yr Arglwydd i ti ddoethineb, a deall, a rhodded i ti orchmynion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr Arglwydd dy Dduw. 13 Yna y ffynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd i Moses am Israel. Ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac nac arswyda. 14 Ac wele, yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr Arglwydd gan mil o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian; ar bres hefyd, ac ar haearn, nid oes bwys; canys y mae yn helaeth: coed hefyd a meini a baratoais i; ychwanega dithau atynt hwy. 15 Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith, sef cymynwyr, a seiri maen a phren, a phob rhai celfydd ym mhob gwaith. 16 Ar aur, ar arian, ar bres, ac ar haearn, nid oes rifedi. Cyfod dithau, a gweithia, a’r Arglwydd a fydd gyda thi.

17 A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab, gan ddywedyd, 18 Onid yw yr Arglwydd eich Duw gyda chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir; a’r tir a ddarostyngwyd o flaen yr Arglwydd, ac o flaen ei bobl ef. 19 Yn awr rhoddwch eich calon a’ch enaid i geisio yr Arglwydd eich Duw; cyfodwch hefyd, ac adeiledwch gysegr yr Arglwydd Dduw, i ddwyn arch cyfamod yr Arglwydd, a sanctaidd lestri Duw, i’r tŷ a adeiledir i enw yr Arglwydd.

23 A phan oedd Dafydd yn hen, ac yn llawn o ddyddiau, efe a osododd Solomon ei fab yn frenin ar Israel.

Ac efe a gynullodd holl dywysogion Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid. A’r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng mlwydd ar hugain, ac uchod: a’u nifer hwy wrth eu pennau, bob yn ŵr, oedd onid dwy fil deugain. O’r rhai yr oedd pedair mil ar hugain i oruchwylio ar waith tŷ yr Arglwydd; ac yn swyddogion, ac yn farnwyr, chwe mil: A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr Arglwydd â’r offer a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu. A dosbarthodd Dafydd hwynt yn ddosbarthiadau ymysg meibion Lefi, sef Gerson, Cohath, a Merari.

O’r Gersoniaid yr oedd Laadan a Simei. Meibion Laadan; y pennaf Jehiel, a Setham, a Joel, tri. Meibion Simei; Selomith, a Hasiel, a Haran, tri. Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl Laadan. 10 Meibion Simei hefyd oedd, Jahath, Sina, a Jeus, a Bereia. Dyma bedwar mab Simei. 11 A Jahath oedd bennaf, a Sisa yn ail: ond Jeus a Bereia nid oedd nemor o feibion iddynt; am hynny yr oeddynt hwy yn un cyfrif wrth dŷ eu tad.

12 Meibion Cohath; Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel, pedwar. 13 Meibion Amram oedd, Aaron a Moses; ac Aaron a neilltuwyd i sancteiddio y cysegr sancteiddiolaf, efe a’i feibion byth, i arogldarthu gerbron yr Arglwydd, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd. 14 A Moses gŵr Duw, ei feibion ef a alwyd yn llwyth Lefi. 15 Meibion Moses oedd, Gersom ac Elieser. 16 O feibion Gersom; Sebuel oedd y pennaf. 17 A meibion Elieser oedd, Rehabia y cyntaf. Ac i Elieser nid oedd meibion eraill; ond meibion Rehabia a amlhasant yn ddirfawr. 18 O feibion Ishar; Selomith y pennaf. 19 O feibion Hebron; Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd. 20 O feibion Ussiel; Micha y cyntaf, a Jeseia yr ail.

21 Meibion Merari oedd, Mahli a Musi. Meibion Mahli; Eleasar a Chis. 22 A bu farw Eleasar, a meibion nid oedd iddo ef, ond merched; a meibion Cis eu brodyr a’u priododd hwynt. 23 Meibion Musi; Mahli, ac Eder a Jerimoth, tri.

24 Dyma feibion Lefi, yn ôl tŷ eu tadau, pennau eu cenedl, wrth eu rhifedi, dan nifer eu henwau wrth eu pennau, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith i wasanaeth tŷ yr Arglwydd, o fab ugain mlwydd ac uchod. 25 Canys dywedodd Dafydd, Arglwydd Dduw Israel a roddes lonyddwch i’w bobl, i aros yn Jerwsalem byth; 26 A hefyd i’r Lefiaid: ni ddygant mwyach y tabernacl, na dim o’i lestri, i’w wasanaeth ef. 27 Canys yn ôl geiriau diwethaf Dafydd y cyfrifwyd meibion Lefi, o fab ugain mlwydd ac uchod: 28 A’u gwasanaeth hwynt oedd i fod wrth law meibion Aaron yng ngweinidogaeth tŷ yr Arglwydd, yn y cynteddau, ac yn y celloedd, ac ym mhuredigaeth pob sancteiddbeth, ac yng ngwaith gweinidogaeth tŷ Dduw; 29 Yn y bara gosod hefyd, ac ym mheilliaid y bwyd‐offrwm, ac yn y teisennau croyw, yn y radell hefyd, ac yn y badell ffrio, ac ym mhob mesur a meidroldeb: 30 Ac i sefyll bob bore i foliannu ac i ogoneddu yr Arglwydd, felly hefyd brynhawn: 31 Ac i offrymu pob offrwm poeth i’r Arglwydd ar y Sabothau, ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau gosodedig, wrth rifedi, yn ôl y ddefod sydd arnynt yn wastadol gerbron yr Arglwydd: 32 Ac i gadw goruchwyliaeth pabell y cyfarfod, a goruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth meibion Aaron eu brodyr, yng ngwasanaeth tŷ yr Arglwydd.

24 Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron oedd, Nadab, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar. A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleasar ac Ithamar a offeiriadasant. A Dafydd a’u dosbarthodd hwynt, Sadoc o feibion Eleasar, ac Ahimelech o feibion Ithamar, yn ôl eu swyddau, yn eu gwasanaeth. A chafwyd mwy o feibion Eleasar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o feibion Eleasar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ôl tŷ eu tadau, wyth. Felly y dosbarthwyd hwynt wrth goelbrennau, y naill gyda’r llall; canys tywysogion y cysegr, a thywysogion tŷ Dduw, oedd o feibion Eleasar, ac o feibion Ithamar. A Semaia mab Nethaneel yr ysgrifennydd, o lwyth Lefi, a’u hysgrifennodd hwynt gerbron y brenin, a’r tywysogion, a Sadoc yr offeiriad, ac Ahimelech mab Abiathar, a phencenedl yr offeiriaid, a’r Lefiaid; un teulu a ddaliwyd i Eleasar, ac un arall a ddaliwyd i Ithamar. A’r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib, a’r ail i Jedaia, Y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim, Y pumed i Malcheia, y chweched i Mijamin, 10 Y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abeia, 11 Y nawfed i Jesua, y degfed i Sechaneia, 12 Yr unfed ar ddeg i Eliasib, y deuddegfed i Jacim, 13 Y trydydd ar ddeg i Huppa, y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab, 14 Y pymthegfed i Bilga, yr unfed ar bymtheg i Immer, 15 Y ddeufed ar bymtheg i Hesir, y deunawfed i Affses, 16 Y pedwerydd ar bymtheg i Pethaheia, yr ugeinfed i Jehesecel, 17 Yr unfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul, 18 Y trydydd ar hugain i Delaia, y pedwerydd ar hugain i Maaseia. 19 Dyma eu dosbarthiadau hwynt yn eu gwasanaeth, i fyned i dŷ yr Arglwydd yn ôl eu defod, dan law Aaron eu tad, fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel iddo ef.

20 A’r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn. O feibion Amram; Subael: o feibion Subael; Jehdeia. 21 Am Rehabia; Isia oedd ben ar feibion Rehabia. 22 O’r Ishariaid; Selomoth: o feibion Selomoth; Jahath. 23 A meibion Hebron oedd, Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd. 24 O feibion Ussiel; Micha: o feibion Micha; Samir. 25 Brawd Micha oedd Isia; o feibion Isia; Sechareia. 26 Meibion Merari oedd, Mahli a Musi: meibion Jaasei; Beno.

27 Meibion Merari o Jaaseia; Beno, a Soham, a Saccur, ac Ibri. 28 O Mahli y daeth Eleasar, ac ni bu iddo ef feibion. 29 Am Cis: mab Cis oedd Jerahmeel. 30 A meibion Musi oedd, Mahli, ac Eder, a Jerimoth. Dyma feibion y Lefiaid yn ôl tŷ eu tadau. 31 A hwy a fwriasant goelbrennau ar gyfer eu brodyr meibion Aaron, gerbron Dafydd y brenin, a Sadoc, ac Ahimelech, a phennau‐cenedl yr offeiriaid a’r Lefiaid; ie, y pencenedl ar gyfer y brawd ieuangaf.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.