Sechareia 3-4
Beibl William Morgan
3 Ac efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr Arglwydd, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i’w wrthwynebu ef. 2 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, Cerydded yr Arglwydd dydi, Satan; sef yr Arglwydd yr hwn a ddewisodd Jerwsalem, a’th geryddo: onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o’r tân? 3 A Josua ydoedd wedi ei wisgo â dillad budron, ac yn sefyll yng ngŵydd yr angel. 4 Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger ei fron, gan ddywedyd, Cymerwch ymaith y dillad budron oddi amdano ef. Wrtho yntau y dywedodd, Wele, symudais dy anwiredd oddi wrthyt, a gwisgaf di hefyd â newid dillad. 5 A dywedais hefyd, Rhoddant feitr teg ar ei ben ef: a rhoddasant feitr teg ar ei ben ef, ac a’i gwisgasant â dillad; ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll gerllaw. 6 Ac angel yr Arglwydd a dystiolaethodd wrth Josua, gan ddywedyd, 7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Os rhodi di yn fy ffyrdd, ac os cedwi fy nghadwraeth, tithau hefyd a ferni fy nhŷ, ac a gedwi fy nghynteddoedd; rhoddaf i ti hefyd leoedd i rodio ymysg y rhai hyn sydd yn sefyll yma. 8 Gwrando, atolwg, Josua yr archoffeiriad, ti a’th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron: canys gwŷr rhyfedd yw y rhai hyn: oherwydd wele, dygaf allan fy ngwas Y BLAGURYN. 9 Canys wele, y garreg a roddais gerbron Josua; ar un garreg y bydd saith o lygaid: wele fi yn naddu ei naddiad hi, medd Arglwydd y lluoedd, a mi a symudaf ymaith anwiredd y tir hwnnw mewn un diwrnod. 10 Y dwthwn hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y gelwch bob un ei gymydog dan y winwydden, a than y ffigysbren.
4 A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a ddychwelodd, ac a’m deffrôdd, fel y deffroir un o’i gwsg, 2 Ac a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Edrychais, ac wele ganhwyllbren i gyd o aur, a’i badell ar ei ben, a’i saith lusern arno, a saith o bibellau i’r saith lusern oedd ar ei ben ef; 3 A dwy olewydden wrtho, y naill o’r tu deau i’r badell, a’r llall o’r tu aswy iddi. 4 A mi a atebais, ac a ddywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? 5 A’r angel oedd yn ymddiddan â mi, a atebodd, ac a ddywedodd wrthyf, Oni wyddost beth yw y rhai yma? Yna y dywedais, Na wn, fy arglwydd. 6 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd, Hyn yw gair yr Arglwydd at Sorobabel, gan ddywedyd, Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd. 7 Pwy wyt ti, y mynydd mawr? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd; ac efe a ddwg allan y maen pennaf, gan weiddi, Rhad, rhad iddo. 8 Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn, gan ddywedyd, 9 Dwylo Sorobabel a sylfaenasant y tŷ hwn, a’i ddwylo ef a’i gorffen: a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hebryngodd atoch. 10 Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain? canys llawenychant, a gwelant y garreg alcam yn llaw Sorobabel gyda’r saith hynny: llygaid yr Arglwydd ydynt, y rhai sydd yn cyniwair trwy yr holl ddaear.
11 A mi a atebais ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddwy olewydden hyn, ar y tu deau i’r canhwyllbren, ac ar ei aswy? 12 A mi a atebais drachefn, ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddau bincyn olewydden, y rhai trwy y ddwy bibell aur sydd yn tywallt allan ohonynt eu hunain yr olew euraid? 13 Ac efe a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Oni wyddost ti beth yw y rhai hyn? A dywedais, Na wn, fy arglwydd. 14 Ac efe a ddywedodd, Dyma y ddwy gainc olewydden sydd yn sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.
