Seffaneia 2
Beibl William Morgan
2 Ymgesglwch, ie, deuwch ynghyd, genedl anhawddgar; 2 Cyn i’r ddeddf esgor, cyn i’r dydd fyned heibio fel peiswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr Arglwydd, cyn dyfod arnoch ddydd soriant yr Arglwydd. 3 Ceisiwch yr Arglwydd, holl rai llariaidd y ddaear, y rhai a wnaethant ei farn ef; ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch larieidd-dra: fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr Arglwydd.
4 Canys bydd Gasa yn wrthodedig, ac Ascalon yn anghyfannedd: gyrrant allan Asdod hanner dydd, a diwreiddir Ecron. 5 Gwae breswylwyr glan y môr, cenedl y Cerethiaid! y mae gair yr Arglwydd i’ch erbyn: O Ganaan, gwlad y Philistiaid, mi a’th ddifethaf, fel na byddo cyfanheddwr. 6 A bydd glan y môr yn drigfâu ac yn fythod i fugeiliaid, ac yn gorlannau defaid. 7 A bydd y fro yn rhan i weddill tŷ Jwda; porant arnynt: yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr: canys yr Arglwydd eu Duw a ymwêl â hwynt, ac a ddychwel eu caethiwed.
8 Clywais waradwyddiad Moab, a chabledd meibion Ammon, â’r hwn y gwaradwyddasant fy mhobl, ac yr ymfawrygasant yn erbyn eu terfynau hwynt. 9 Am hynny fel mai byw fi, medd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Fel Sodom y bydd Moab, a meibion Ammon fel Gomorra: danhadldir, a phyllau halen, ac anghyfanheddle tragwyddol: gweddill fy mhobl a’u difroda, a gweddill fy nghenedl a’u meddianna hwynt. 10 Hyn a ddaw iddynt am eu balchder, am iddynt waradwyddo ac ymfawrygu yn erbyn pobl Arglwydd y lluoedd. 11 Ofnadwy a fydd yr Arglwydd iddynt: canys efe a newyna holl dduwiau y ddaear; ac addolant ef bob un o’i fan, sef holl ynysoedd y cenhedloedd.
12 Chwithau hefyd, yr Ethiopiaid, a leddir â’m cleddyf. 13 Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd, ac a ddifetha Asyria, ac a wna Ninefe yn anghyfannedd, ac yn sych fel diffeithwch. 14 A diadellau a orweddant yn ei chanol hi, holl anifeiliaid y cenhedloedd: y pelican a’r dylluan hefyd a letyant ar gap y drws; eu llais a gân yn y ffenestri; anghyfanhedd-dra a fydd yn y gorsingau: canys efe a ddinoetha y cedrwaith. 15 Hon yw y ddinas hoyw oedd yn trigo yn ddiofal, yn dywedyd yn ei chalon, Myfi sydd, ac nid oes ond myfi: pa fodd yr aeth yn anghyfannedd, yn orweddfa anifeiliaid! pawb a’r a êl heibio iddi, a’i hwtia, ac a ysgwyd ei law arni.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.