Add parallel Print Page Options

Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda. Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear, medd yr Arglwydd. Distrywiaf ddyn ac anifail; distrywiaf adar yr awyr, a physgod y môr; a’r tramgwyddiadau ynghyd â’r annuwiolion; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear, medd yr Arglwydd. Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda, ac ar holl breswylwyr Jerwsalem; a thorraf ymaith o’r lle hwn weddill Baal, ac enw y Chemariaid â’r offeiriaid; A’r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd; a’r addolwyr y rhai a dyngant i’r Arglwydd, a hefyd a dyngant i Malcham; A’r rhai a giliant oddi ar ôl yr Arglwydd; a’r rhai ni cheisiasant yr Arglwydd, ac nid ymofynasant amdano. Distawa gerbron yr Arglwydd Dduw; canys agos yw dydd yr Arglwydd: oherwydd arlwyodd yr Arglwydd aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion. A bydd, ar ddydd aberth yr Arglwydd, i mi ymweled â’r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr. Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac â thwyll. 10 A’r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa o’r ail, a drylliad mawr o’r bryniau. 11 Udwch, breswylwyr Machtes: canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadyddion; a holl gludwyr arian a dorrwyd ymaith. 12 A’r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem â llusernau, ac yr ymwelaf â’r dynion sydd yn ceulo ar eu sorod; y rhai a ddywedant yn eu calon, Ni wna yr Arglwydd dda, ac ni wna ddrwg. 13 Am hynny eu cyfoeth a â yn ysbail, a’u teiau yn anghyfannedd: adeiladant hefyd dai, ond ni phreswyliant ynddynt; a phlannant winllannoedd, ond nid yfant o’r gwin. 14 Agos yw mawr ddydd yr Arglwydd, agos a phrysur iawn, sef llais dydd yr Arglwydd: yno y bloeddia y dewr yn chwerw. 15 Diwrnod llidiog yw y diwrnod hwnnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfanhedd-dra, diwrnod tywyll a du, diwrnod cymylau a thywyllni. 16 Diwrnod utgorn a larwm yn erbyn y dinasoedd caerog, ac yn erbyn y tyrau uchel. 17 A mi a gyfyngaf ar ddynion, a hwy a rodiant megis deillion, am bechu ohonynt yn erbyn yr Arglwydd; a’u gwaed a dywelltir fel llwch, a’u cnawd fel tom. 18 Nid eu harian na’u haur chwaith a ddichon eu hachub hwynt ar ddiwrnod llid yr Arglwydd; ond â thân ei eiddigedd ef yr ysir yr holl dir: canys gwna yr Arglwydd ddiben prysur ar holl breswylwyr y ddaear.