Add parallel Print Page Options

Baich gair yr Arglwydd yn nhir Hadrach, a Damascus fydd ei orffwysfa ef: pan fyddo llygaid dyn ar yr Arglwydd, fel yr eiddo holl lwythau Israel. A Hamath hefyd a derfyna wrthi; Tyrus a Sidon hefyd, er ei bod yn ddoeth iawn. A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa, ac a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd. Wele, yr Arglwydd a’i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr; a hi a ysir â thân. Ascalon a’i gwêl, ac a ofna; a Gasa, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o’i gobaith; difethir hefyd y brenin allan o Gasa, ac Ascalon ni chyfanheddir. Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid. A mi a gymeraf ymaith ei waed o’i enau, a’i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i’n Duw ni, fel y byddo megis pennaeth yn Jwda, ac Ecron megis Jebusiad. A gwersyllaf o amgylch fy nhŷ rhag y llu, rhag a êl heibio, a rhag a ddychwelo; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach: canys yn awr gwelais â’m llygaid.

Bydd lawen iawn, ti ferch Seion; a chrechwena, ha ferch Jerwsalem: wele dy frenin yn dyfod atat: cyfiawn ac achubydd yw efe; y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen. 10 Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim, a’r march oddi wrth Jerwsalem, a’r bwa rhyfel a dorrir: ac efe a lefara heddwch i’r cenhedloedd: a’i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd eithafoedd y ddaear. 11 A thithau, trwy waed dy amod y gollyngais dy garcharorion o’r pydew heb ddwfr ynddo.

12 Trowch i’r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddiw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddauddyblyg: 13 Pan anelwyf Jwda i mi, ac y llanwyf y bwa ag Effraim, ac y cyfodwyf dy feibion di, Seion, yn erbyn dy feibion di, Groeg, ac y’th wnelwyf fel cleddyf gŵr grymus: 14 A’r Arglwydd a welir trostynt, a’i saeth ef a â allan fel mellten: a’r Arglwydd Dduw a gân ag utgorn, ac a gerdd â chorwyntoedd y deau. 15 Arglwydd y lluoedd a’u hamddiffyn hwynt: a hwy a ysant, ac a ddarostyngant gerrig y dafl; yfant, a therfysgant megis mewn gwin, a llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau yr allor. 16 A’r Arglwydd eu Duw a’u gwared hwynt y dydd hwnnw fel praidd ei bobl: canys fel meini coron y byddant, wedi eu dyrchafu yn fanerau ar ei dir ef. 17 Canys pa faint yw ei ddaioni ef, a pha faint ei degwch ef! ŷd a lawenycha y gwŷr ieuainc, a gwin y gwyryfon.