Add parallel Print Page Options

Drachefn y daeth gair Arglwydd y lluoedd ataf, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Eiddigeddais eiddigedd mawr dros Seion ac â llid mawr yr eiddigeddais drosti. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dychwelais at Seion, a thrigaf yng nghanol Jerwsalem; a Jerwsalem a elwir Dinas y gwirionedd; a mynydd Arglwydd y lluoedd, Y mynydd sanctaidd. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Hen wŷr a hen wragedd a drigant eto yn heolydd Jerwsalem, a phob gŵr â’i ffon yn ei law oherwydd amlder dyddiau. A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwarae yn ei heolydd hi. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Os anodd yw hyn yn y dyddiau hyn yng ngolwg gweddill y bobl hyn, ai anodd fyddai hefyd yn fy ngolwg i? medd Arglwydd y lluoedd. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain, ac o dir machludiad haul. A mi a’u dygaf hwynt, fel y preswyliont yng nghanol Jerwsalem: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a byddaf finnau iddynt hwythau yn Dduw mewn gwirionedd ac mewn cyfiawnder.

Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Cryfhaer eich dwylo chwi, y rhai ydych yn clywed yn y dyddiau hyn y geiriau hyn o enau y proffwydi, y rhai oedd yn y dydd y sylfaenwyd tŷ Arglwydd y lluoedd, fel yr adeiledid y deml. 10 Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd na chyflog i ddyn, na llog am anifail; na heddwch i’r un a elai allan, nac a ddelai i mewn, gan y gorthrymder: oblegid gyrrais yr holl ddynion bob un ym mhen ei gymydog. 11 Ond yn awr ni byddaf fi i weddill y bobl hyn megis yn y dyddiau gynt, medd Arglwydd y lluoedd. 12 Canys bydd yr had yn ffynadwy; y winwydden a rydd ei ffrwyth, a’r ddaear a rydd ei chynnyrch, a’r nefoedd a roddant eu gwlith: a pharaf i weddill y bobl hyn feddiannu yr holl bethau hyn. 13 A bydd, mai megis y buoch chwi, tŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd; felly y’ch gwaredaf chwi, a byddwch yn fendith: nac ofnwch, ond cryfhaer eich dwylo. 14 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Fel y meddyliais eich drygu chwi, pan y’m digiodd eich tadau, medd Arglwydd y lluoedd, ac nid edifarheais; 15 Felly drachefn y meddyliais yn y dyddiau hyn wneuthur lles i Jerwsalem, ac i dŷ Jwda: nac ofnwch.

16 Dyma y pethau a wnewch chwi; Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth; 17 Ac na fwriedwch ddrwg neb i’w gilydd yn eich calonnau; ac na hoffwch lw celwyddog: canys yr holl bethau hyn a gaseais, medd yr Arglwydd.

18 A gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 19 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ympryd y pedwerydd mis, ac ympryd y pumed, ac ympryd y seithfed, ac ympryd y degfed, a fydd i dŷ Jwda yn llawenydd a hyfrydwch, ac yn uchel wyliau daionus: gan hynny cerwch wirionedd a heddwch. 20 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Bydd eto, y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer: 21 Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i’r llall, gan ddywedyd, Awn gan fyned i weddïo gerbron yr Arglwydd, ac i geisio Arglwydd y lluoedd: minnau a af hefyd. 22 Ie, pobloedd lawer a chenhedloedd cryfion a ddeuant i geisio Arglwydd y lluoedd yn Jerwsalem, ac i weddïo gerbron yr Arglwydd. 23 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Yn y dyddiau hynny y bydd i ddeg o ddynion, o bob tafodiaith y cenhedloedd, ymaflyd, ymaflyd, meddaf, yng ngodre gŵr o Iddew, gan ddywedyd, Awn gyda chwi: canys clywsom fod Duw gyda chwi.

The Lord Promises to Bless Jerusalem

The word of the Lord Almighty came to me.

This is what the Lord Almighty says: “I am very jealous(A) for Zion; I am burning with jealousy for her.”

This is what the Lord says: “I will return(B) to Zion(C) and dwell in Jerusalem.(D) Then Jerusalem will be called the Faithful City,(E) and the mountain(F) of the Lord Almighty will be called the Holy Mountain.(G)

This is what the Lord Almighty says: “Once again men and women of ripe old age will sit in the streets of Jerusalem,(H) each of them with cane in hand because of their age. The city streets will be filled with boys and girls playing there.(I)

This is what the Lord Almighty says: “It may seem marvelous to the remnant of this people at that time,(J) but will it seem marvelous to me?(K)” declares the Lord Almighty.

This is what the Lord Almighty says: “I will save my people from the countries of the east and the west.(L) I will bring them back(M) to live(N) in Jerusalem; they will be my people,(O) and I will be faithful and righteous to them as their God.(P)

This is what the Lord Almighty says: “Now hear these words, ‘Let your hands be strong(Q) so that the temple may be built.’ This is also what the prophets(R) said who were present when the foundation(S) was laid for the house of the Lord Almighty. 10 Before that time there were no wages(T) for people or hire for animals. No one could go about their business safely(U) because of their enemies, since I had turned everyone against their neighbor. 11 But now I will not deal with the remnant of this people as I did in the past,”(V) declares the Lord Almighty.

12 “The seed will grow well, the vine will yield its fruit,(W) the ground will produce its crops,(X) and the heavens will drop their dew.(Y) I will give all these things as an inheritance(Z) to the remnant of this people.(AA) 13 Just as you, Judah and Israel, have been a curse[a](AB) among the nations, so I will save(AC) you, and you will be a blessing.[b](AD) Do not be afraid,(AE) but let your hands be strong.(AF)

14 This is what the Lord Almighty says: “Just as I had determined to bring disaster(AG) on you and showed no pity when your ancestors angered me,” says the Lord Almighty, 15 “so now I have determined to do good(AH) again to Jerusalem and Judah.(AI) Do not be afraid. 16 These are the things you are to do: Speak the truth(AJ) to each other, and render true and sound judgment(AK) in your courts;(AL) 17 do not plot evil(AM) against each other, and do not love to swear falsely.(AN) I hate all this,” declares the Lord.

18 The word of the Lord Almighty came to me.

19 This is what the Lord Almighty says: “The fasts of the fourth,(AO) fifth,(AP) seventh(AQ) and tenth(AR) months will become joyful(AS) and glad occasions and happy festivals for Judah. Therefore love truth(AT) and peace.”

20 This is what the Lord Almighty says: “Many peoples and the inhabitants of many cities will yet come, 21 and the inhabitants of one city will go to another and say, ‘Let us go at once to entreat(AU) the Lord and seek(AV) the Lord Almighty. I myself am going.’ 22 And many peoples and powerful nations will come to Jerusalem to seek the Lord Almighty and to entreat him.”(AW)

23 This is what the Lord Almighty says: “In those days ten people from all languages and nations will take firm hold of one Jew by the hem of his robe and say, ‘Let us go with you, because we have heard that God is with you.’”(AX)

Footnotes

  1. Zechariah 8:13 That is, your name has been used in cursing (see Jer. 29:22); or, you have been regarded as under a curse.
  2. Zechariah 8:13 Or and your name will be used in blessings (see Gen. 48:20); or and you will be seen as blessed