Add parallel Print Page Options

12 Baich gair yr Arglwydd i Israel, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaear, ac yn llunio ysbryd dyn ynddo. Wele fi yn gwneuthur Jerwsalem yn ffiol gwsg i’r bobloedd oll o amgylch, pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Jerwsalem.

A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerwsalem yn faen trwm i’r holl bobloedd: pawb a ymlwytho ag ef, yn ddiau a rwygir, er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef. Y diwrnod hwnnw, medd yr Arglwydd, y trawaf bob march â syndra, a’i farchog ag ynfydrwydd; ac agoraf fy llygaid ar dŷ Jwda, a thrawaf holl feirch y bobl â dallineb. A thywysogion Jwda a ddywedant yn eu calon, Nerth i mi fydd preswylwyr Jerwsalem yn Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt.

Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerwsalem. Yr Arglwydd a geidw bebyll Jwda yn gyntaf, megis nad ymfawrygo gogoniant tŷ Dafydd, a gogoniant preswylwyr Jerwsalem, yn erbyn Jwda. Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr Arglwydd breswylwyr Jerwsalem: a bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thŷ Dafydd fydd fel Duw, fel angel yr Arglwydd o’u blaen hwynt.

Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerwsalem. 10 A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerwsalem, ysbryd gras a gweddïau; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig-anedig, ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig. 11 Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerwsalem, megis galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon. 12 A’r wlad a alara, pob teulu wrtho ei hun; teulu tŷ Dafydd wrtho ei hun, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; 13 Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Simei wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; 14 Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun, a’u gwragedd wrthynt eu hunain.