Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.

49 Clywch hyn, yr holl bobloedd; gwrandewch hyn, holl drigolion y byd: Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd. Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall. Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn. Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau? Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth. Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw: (Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:) Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth. 10 Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill. 11 Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain. 12 Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir. 13 Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd: eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i’w hymadrodd. Sela. 14 Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern; angau a ymborth arnynt; a’r rhai cyfiawn a lywodraetha arnynt y bore; a’u tegwch a dderfydd yn y bedd, o’u cartref. 15 Eto Duw a wared fy enaid i o feddiant uffern: canys efe a’m derbyn i. Sela. 16 Nac ofna pan gyfoethogo un, pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef: 17 Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef. 18 Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid: canmolant dithau, o byddi da wrthyt dy hun. 19 Efe a â at genhedlaeth ei dadau, ac ni welant oleuni byth. 20 Dyn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.