Add parallel Print Page Options

ALEFF

119 Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr Arglwydd. Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon. Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef. Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal. O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau! Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion. Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder. Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol.

BETH

Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di. 10 A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion. 11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn. 12 Ti, Arglwydd, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau. 13 A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau. 14 Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud. 15 Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf. 16 Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.

GIMEL

17 Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air. 18 Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di. 19 Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion. 20 Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser. 21 Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion. 22 Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg: oblegid dy dystiolaethau di a gedwais. 23 Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau. 24 A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr.

DALETH

25 Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air. 26 Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau. 27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau. 28 Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air. 29 Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith. 30 Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen. 31 Glynais wrth dy dystiolaethau: O Arglwydd, na’m gwaradwydda. 32 Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.

HE

33 Dysg i mi, O Arglwydd, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd. 34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon. 35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys. 36 Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd‐dra. 37 Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd. 38 Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di. 39 Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda. 40 Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.

FAU

41 Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air. 42 Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais. 43 Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais. 44 A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd. 45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf. 46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf. 47 Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais. 48 A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.

SAIN

49 Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio. 50 Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a’m bywhaodd i. 51 Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di. 52 Cofiais, O Arglwydd, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais. 53 Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di. 54 Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod. 55 Cofiais dy enw, Arglwydd, y nos; a chedwais dy gyfraith. 56 Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di.

CHETH

57 O Arglwydd, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau. 58 Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air. 59 Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di. 60 Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion. 61 Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di. 62 Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder. 63 Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion. 64 Llawn yw y ddaear o’th drugaredd, O Arglwydd: dysg i mi dy ddeddfau.

TETH

65 Gwnaethost yn dda â’th was, O Arglwydd, yn ôl dy air. 66 Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais. 67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di. 68 Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau. 69 Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon. 70 Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di. 71 Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau. 72 Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.

IOD

73 Dy ddwylo a’m gwnaethant, ac a’m lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion. 74 Y rhai a’th ofnant a’m gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di. 75 Gwn, Arglwydd, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist. 76 Bydded, atolwg, dy drugaredd i’m cysuro, yn ôl dy air i’th wasanaethwr. 77 Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch. 78 Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di. 79 Troer ataf fi y rhai a’th ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau. 80 Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na’m cywilyddier.

CAFF

81 Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl. 82 Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y’m diddeni? 83 Canys ydwyf fel costrel mewn mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau. 84 Pa nifer yw dyddiau dy was? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant? 85 Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di. 86 Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y’m herlidiasant; cymorth fi. 87 Braidd na’m difasant ar y ddaear; minnau ni adewais dy orchmynion. 88 Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.

LAMED

89 Yn dragywydd, O Arglwydd, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd. 90 Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif. 91 Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth. 92 Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd. 93 Byth nid anghofiaf dy orchmynion: canys â hwynt y’m bywheaist. 94 Eiddot ti ydwyf, cadw fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais. 95 Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi. 96 Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.

MEM

97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. 98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. 99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. 100 Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. 101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. 102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. 103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. 104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.

NUN

105 Llusern yw dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr. 106 Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder. 107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O Arglwydd, yn ôl dy air. 108 Atolwg, Arglwydd, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau. 109 Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith. 110 Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion. 111 Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth: oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt. 112 Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.

SAMECH

113 Meddyliau ofer a gaseais: a’th gyfraith di a hoffais. 114 Fy lloches a’m tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf. 115 Ciliwch oddi wrthyf, rai drygionus: canys cadwaf orchmynion fy Nuw. 116 Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith. 117 Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol. 118 Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt. 119 Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau. 120 Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.

AIN

121 Gwneuthum farn a chyfiawnder: na ad fi i’m gorthrymwyr. 122 Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i’r beilchion fy ngorthrymu. 123 Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder. 124 Gwna i’th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau. 125 Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall, fel y gwypwyf dy dystiolaethau. 126 Amser yw i’r Arglwydd weithio: diddymasant dy gyfraith di. 127 Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth. 128 Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.

PE

129 Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt. 130 Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar. 131 Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di. 132 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw. 133 Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf. 134 Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion. 135 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau. 136 Afonydd o ddyfroedd a redant o’m llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.

TSADI

137 Cyfiawn ydwyt ti, O Arglwydd, ac uniawn yw dy farnedigaethau. 138 Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn. 139 Fy sêl a’m difaodd; oherwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di. 140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi. 141 Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion. 142 Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a’th gyfraith sydd wirionedd. 143 Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch. 144 Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.

COFF

145 Llefais â’m holl galon; clyw fi, O Arglwydd: dy ddeddfau a gadwaf. 146 Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau. 147 Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais. 148 Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di. 149 Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: Arglwydd, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau. 150 Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di. 151 Tithau, Arglwydd, wyt agos; a’th holl orchmynion sydd wirionedd. 152 Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.

RESH

153 Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith. 154 Dadlau fy nadl, a gwared fi: bywha fi yn ôl dy air. 155 Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di. 156 Dy drugareddau, Arglwydd, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau. 157 Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau. 158 Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di. 159 Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion: Arglwydd, bywha fi yn ôl dy drugarowgrwydd. 160 Gwirionedd o’r dechreuad yw dy air; a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.

SCHIN

161 Tywysogion a’m herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di. 162 Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer. 163 Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais. 164 Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau. 165 Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt. 166 Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O Arglwydd; a gwneuthum dy orchmynion. 167 Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt. 168 Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.

TAU

169 Nesaed fy ngwaedd o’th flaen, Arglwydd: gwna i mi ddeall yn ôl dy air. 170 Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air. 171 Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau. 172 Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder. 173 Bydded dy law i’m cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais. 174 Hiraethais, O Arglwydd, am dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch. 175 Bydded byw fy enaid, fel y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi. 176 Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.