Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

109 Na thaw, O Dduw fy moliant. Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: â thafod celwyddog y llefarasant i’m herbyn. Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas; ac ymladdasant â mi heb achos. Am fy ngharedigrwydd y’m gwrthwynebant: minnau a arferaf weddi. Talasant hefyd i mi ddrwg am dda, a chas am fy nghariad. Gosod dithau un annuwiol arno ef; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef. Pan farner ef, eled yn euog; a bydded ei weddi yn bechod. Ychydig fyddo ei ddyddiau; a chymered arall ei swydd ef. Bydded ei blant yn amddifaid, a’i wraig yn weddw. 10 Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef, a chardotant: ceisiant hefyd eu bara o’u hanghyfannedd leoedd. 11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef. 12 Na fydded neb a estynno drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef. 13 Torrer ymaith ei hiliogaeth ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf. 14 Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd; ac na ddileer pechod ei fam ef. 15 Byddant bob amser gerbron yr Arglwydd, fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o’r tir: 16 Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid ohono y truan a’r tlawd, a’r cystuddiedig o galon, i’w ladd. 17 Hoffodd felltith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho. 18 Ie, gwisgodd felltith fel dilledyn; a hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn, ac fel olew i’w esgyrn. 19 Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisgo efe, ac fel gwregys a’i gwregyso efe yn wastadol. 20 Hyn fyddo tâl fy ngwrthwynebwyr gan yr Arglwydd, a’r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid. 21 Tithau, Arglwydd Dduw, gwna erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi. 22 Canys truan a thlawd ydwyf fi, a’m calon a archollwyd o’m mewn. 23 Euthum fel cysgod pan gilio: fel locust y’m hysgydwir. 24 Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd; a’m cnawd a guriodd o eisiau braster. 25 Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau. 26 Cynorthwya fi, O Arglwydd fy Nuw; achub fi yn ôl dy drugaredd: 27 Fel y gwypont mai dy law di yw hyn; mai ti, Arglwydd, a’i gwnaethost. 28 Melltithiant hwy, ond bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was. 29 Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth, ac ymwisgant â’u cywilydd, megis â chochl. 30 Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â’m genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer. 31 Oherwydd efe a saif ar ddeheulaw y tlawd, i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.