Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân.

67 Duw a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom: Sela: Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd. Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi. Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela. Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi. Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a Duw, sef ein Duw ni, a’n bendithia. Duw a’n bendithia; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef.