Salmau 48
Beibl William Morgan
Cân a Salm i feibion Cora.
48 Mawr yw yr Arglwydd, a thra moliannus, yn ninas ein Duw ni, yn ei fynydd sanctaidd. 2 Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr. 3 Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa. 4 Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd. 5 Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst. 6 Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor. 7 Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr. 8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni: Duw a’i sicrha hi yn dragywydd. Sela. 9 Meddyliasom, O Dduw, am dy drugaredd yng nghanol dy deml. 10 Megis y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw. 11 Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau. 12 Amgylchwch Seion, ac ewch o’i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi. 13 Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl. 14 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.