Add parallel Print Page Options

Salm Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.

34 Bendithiaf yr Arglwydd bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad. Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant. Mawrygwch yr Arglwydd gyda mi; a chyd‐ddyrchafwn ei enw ef. Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn. Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd. Y tlawd hwn a lefodd, a’r Arglwydd a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau. Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt. Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo. Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef. 10 Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni. 11 Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd. 12 Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni? 13 Cadw dy dafod rhag drwg, a’th wefusau rhag traethu twyll. 14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi. 15 Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn: a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt. 16 Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear. 17 Y rhai cyfiawn a lefant; a’r Arglwydd a glyw, ac a’u gwared o’u holl drallodau. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd. 19 Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr Arglwydd a’i gwared ef oddi wrthynt oll. 20 Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt. 21 Drygioni a ladd yr annuwiol: a’r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir. 22 Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision: a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.