Salmau 149
Beibl William Morgan
149 Molwch yr Arglwydd. Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd, a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint. 2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin. 3 Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn. 4 Oherwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth. 5 Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau. 6 Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo; 7 I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd; 8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau, a’u pendefigion â gefynnau heyrn; 9 I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.