Add parallel Print Page Options

Caniad y graddau.

129 Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr: Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid: eto ni’m gorfuant. Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion. Yr Arglwydd sydd gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol. Gwaradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Seion. Byddant fel glaswellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith: A’r hwn ni leinw y pladurwr ei law; na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes. Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, Bendith yr Arglwydd arnoch: bendithiwn chwi yn enw yr Arglwydd.