Add parallel Print Page Options

118 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd. Dyweded tŷ Aaron yn awr, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd. Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd. Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd; yr Arglwydd a’m clybu, ac a’m gosododd mewn ehangder. Yr Arglwydd sydd gyda mi, nid ofnaf: beth a wna dyn i mi? Yr Arglwydd sydd gyda mi ymhlith fy nghynorthwywyr: am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion. Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn dyn. Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn tywysogion. 10 Yr holl genhedloedd a’m hamgylchynasant: ond yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith. 11 Amgylchynasant fi; ie, amgylchynasant fi: ond yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith. 12 Amgylchynasant fi fel gwenyn; diffoddasant fel tân drain: oherwydd yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith. 13 Gan wthio y gwthiaist fi, fel y syrthiwn: ond yr Arglwydd a’m cynorthwyodd. 14 Yr Arglwydd yw fy nerth a’m cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi. 15 Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster. 16 Deheulaw yr Arglwydd a ddyrchafwyd: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster. 17 Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd. 18 Gan gosbi y’m cosbodd yr Arglwydd: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth. 19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd. 20 Dyma borth yr Arglwydd; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo. 21 Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi. 22 Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl. 23 O’r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni. 24 Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo. 25 Atolwg, Arglwydd, achub yn awr: atolwg, Arglwydd pâr yn awr lwyddiant. 26 Bendigedig yw a ddêl yn enw yr Arglwydd: bendithiasom chwi o dŷ yr Arglwydd. 27 Duw yw yr Arglwydd, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor. 28 Fy Nuw ydwyt ti, a mi a’th glodforaf: dyrchafaf di, fy Nuw. 29 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.