Add parallel Print Page Options

A bu, yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu, fod newyn yn y wlad: a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab, efe a’i wraig, a’i ddau fab. Ac enw y gŵr oedd Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion, Effrateaid o Bethlehem Jwda. A hwy a ddaethant i wlad Moab, ac a fuant yno. Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw; a hithau a’i dau fab a adawyd.

Read full chapter

A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau; a’r wraig a adawyd yn amddifad o’i dau fab, ac o’i gŵr.

A hi a gyfododd, a’i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i’r Arglwydd ymweled â’i bobl gan roddi iddynt fara. A hi a aeth o’r lle yr oedd hi ynddo, a’i dwy waudd gyda hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Jwda. A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, Ewch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam: gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â’r meirw, ac â minnau.

Read full chapter

10 A hwy a ddywedasant wrthi, Diau y dychwelwn ni gyda thi at dy bobl di. 11 A dywedodd Naomi, Dychwelwch, fy merched: i ba beth y deuwch gyda mi? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth, i fod yn wŷr i chwi? 12 Dychwelwch, fy merched, ewch ymaith: canys yr ydwyf fi yn rhy hen i briodi gŵr. Pe dywedwn, Y mae gennyf obaith, a bod heno gyda gŵr, ac ymddŵyn meibion hefyd; 13 A arhosech chwi amdanynt hwy, hyd oni chynyddent hwy? a ymarhosech chwi amdanynt hwy, heb wra? Nage, fy merched: canys y mae mawr dristwch i mi o’ch plegid chwi, am i law yr Arglwydd fyned i’m herbyn. 14 A hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant eilwaith: ac Orpa a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi. 15 A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith. 16 A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: canys pa le bynnag yr elych di, yr af finnau; ac ym mha le bynnag y lletyech di, y lletyaf finnau: dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th Dduw di fy Nuw innau: 17 Lle y byddych di marw, y byddaf finnau farw, ac yno y’m cleddir; fel hyn y gwnelo yr Arglwydd i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau. 18 Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyda hi, yna hi a beidiodd â dywedyd wrthi hi.

19 Felly hwynt ill dwy a aethant, nes iddynt ddyfod i Bethlehem. A phan ddaethant i Bethlehem, yr holl ddinas a gyffrôdd o’u herwydd hwynt; a dywedasant, Ai hon yw Naomi? 20 A hi a ddywedodd wrthynt hwy, Na elwch fi Naomi; gelwch fi Mara: canys yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn â mi. 21 Myfi a euthum allan yn gyflawn, a’r Arglwydd a’m dug i eilwaith yn wag: paham y gelwch chwi fi Naomi, gan i’r Arglwydd fy narostwng, ac i’r Hollalluog fy nrygu? 22 Felly y dychwelodd Naomi, a Ruth y Foabes ei gwaudd gyda hi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab: a hwy a ddaethant i Bethlehem yn nechrau cynhaeaf yr heiddiau.

Read full chapter

Ac i ŵr Naomi yr ydoedd câr, o ŵr cadarn nerthol, o dylwyth Elimelech, a’i enw Boas. A Ruth y Foabes a ddywedodd wrth Naomi, Gad i mi fyned yn awr i’r maes, a lloffa tywysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafr yn ei olwg. Hithau a ddywedodd wrthi, Dos, fy merch.

Read full chapter

A’r gwas yr hwn oedd yn sefyll wrth y medelwyr a atebodd, ac a ddywedodd, Y llances o Moab ydyw hi, yr hon a ddychwelodd gyda Naomi o wlad Moab:

Read full chapter

11 A Boas a atebodd, ac a ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen.

Read full chapter

18 A hi a’i cymerth, ac a aeth i’r ddinas: a’i chwegr a ganfu yr hyn a gasglasai hi: hefyd hi a dynnodd allan, ac a roddodd iddi yr hyn a weddillasai hi, wedi cael digon. 19 A dywedodd ei chwegr wrthi hi, Pa le y lloffaist heddiw, a pha le y gweithiaist? bydded yr hwn a’th adnabu yn fendigedig. A hi a fynegodd i’w chwegr pwy y gweithiasai hi gydag ef; ac a ddywedodd, Enw y gŵr y gweithiais gydag ef heddiw, yw Boas. 20 A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, Bendigedig fyddo efe gan yr Arglwydd, yr hwn ni pheidiodd â’i garedigrwydd tua’r rhai byw a’r rhai meirw. Dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, Agos i ni yw y gŵr hwnnw, o’n cyfathrach ni y mae efe.

Read full chapter

22 A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd, Da yw, fy merch, i ti fyned gyda’i lancesi ef, fel na ruthront i’th erbyn mewn maes arall. 23 Felly hi a ddilynodd lancesau Boas i loffa, nes darfod cynhaeaf yr haidd a chynhaeaf y gwenith: ac a drigodd gyda’i chwegr.

Read full chapter

Yna Naomi ei chwegr a ddywedodd wrthi, Fy merch, oni cheisiaf fi orffwystra i ti, fel y byddo da i ti? Ac yn awr onid yw Boas o’n cyfathrach ni, yr hwn y buost ti gyda’i lancesi? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu. Ymolch gan hynny, ac ymira, a gosod dy ddillad amdanat, a dos i waered i’r llawr dyrnu: na fydd gydnabyddus i’r gŵr, nes darfod iddo fwyta ac yfed. A phan orweddo efe, yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi; a dos, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd; ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych. A hi a ddywedodd wrthi, Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi.

A hi a aeth i waered i’r llawr dyrnu, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai ei chwegr iddi.

Read full chapter

16 A phan ddaeth hi at ei chwegr, hi a ddywedodd, Pwy ydwyt ti, fy merch? A hi a fynegodd iddi yr hyn oll a wnaethai y gŵr iddi hi. 17 A hi a ddywedodd, Y chwe mesur hyn o haidd a roddodd efe i mi: canys dywedodd wrthyf, Nid ei yn waglaw at dy chwegr. 18 Yna y dywedodd hithau, Aros fy merch, oni wypech pa fodd y digwyddo y peth hyn: canys ni orffwys y gŵr, nes gorffen y peth hyn heddiw.

Read full chapter

Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr, Y rhan o’r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab.

Read full chapter

Yna y dywedodd Boas, Y diwrnod y prynych di y maes o law Naomi, ti a’i pryni hefyd gan Ruth y Foabes, gwraig y marw, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef.

Read full chapter

A dywedodd Boas wrth yr henuriaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi heddiw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a’r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi.

Read full chapter

14 A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni’th adawodd di heb gyfathrachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel. 15 Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i’th benwynni: canys dy waudd, yr hon a’th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion. 16 A Naomi a gymerth y plentyn, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo. 17 A’i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.

Read full chapter