Add parallel Print Page Options

11 Am hynny meddaf, A wrthododd Duw ei bobl? Na ato Duw. Canys yr wyf finnau hefyd yn Israeliad, o had Abraham, o lwyth Benjamin. Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn a adnabu efe o’r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd am Eleias? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd, O Arglwydd, hwy a laddasant dy broffwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau. Eithr pa beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal. Felly gan hynny y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ôl etholedigaeth gras. Ac os o ras, nid o weithredoedd mwyach: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach. Ac os o weithredoedd, nid yw o ras mwyach: os amgen, nid yw gweithred yn weithred mwyach. Beth gan hynny? Ni chafodd Israel yr hyn y mae yn ei geisio: eithr yr etholedigaeth a’i cafodd, a’r lleill a galedwyd; (Megis y mae yn ysgrifenedig, Rhoddes Duw iddynt ysbryd trymgwsg, llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent;) hyd y dydd heddiw. Ac y mae Dafydd yn dywedyd, Bydded eu bord hwy yn rhwyd, ac yn fagl, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt: 10 Tywyller eu llygaid hwy, fel na welant, a chydgryma di eu cefnau hwy bob amser. 11 Gan hynny meddaf, A dramgwyddasant hwy fel y cwympent? Na ato Duw: eithr trwy eu cwymp hwy y daeth iachawdwriaeth i’r Cenhedloedd, i yrru eiddigedd arnynt. 12 Oherwydd paham, os ydyw eu cwymp hwy yn olud i’r byd, a’u lleihad hwy yn olud i’r Cenhedloedd; pa faint mwy y bydd eu cyflawnder hwy? 13 Canys wrthych chwi y Cenhedloedd yr wyf yn dywedyd, yn gymaint â’m bod i yn apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy swydd; 14 Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig a’m gwaed fy hun, ac achub rhai ohonynt. 15 Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymod i’r byd, beth fydd eu derbyniad hwy ond bywyd o feirw? 16 Canys os sanctaidd y blaenffrwyth, y mae’r clamp toes hefyd yn sanctaidd: ac os sanctaidd y gwreiddyn, y mae’r canghennau hefyd felly. 17 Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac a’th wnaethpwyd yn gyfrannog o’r gwreiddyn, ac o fraster yr olewydden; 18 Na orfoledda yn erbyn y canghennau. Ac os gorfoleddi, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi. 19 Ti a ddywedi gan hynny, Torrwyd y canghennau ymaith, fel yr impid fi i mewn. 20 Da; trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, a thithau sydd yn sefyll trwy ffydd. Na fydd uchelfryd, eithr ofna. 21 Canys onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, gwylia rhag nad arbedo dithau chwaith. 22 Gwêl am hynny ddaioni a thoster Duw: sef i’r rhai a gwympasant, toster; eithr daioni i ti, os arhosi yn ei ddaioni ef: os amgen, torrir dithau hefyd ymaith. 23 A hwythau, onid arhosant yn anghrediniaeth, a impir i mewn: canys fe all Duw eu himpio hwy i mewn drachefn. 24 Canys os tydi a dorrwyd ymaith o’r olewydden yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth, a’th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olewydden; pa faint mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holewydden eu hun? 25 Canys nid ewyllysiwn, frodyr, eich bod heb wybod y dirgelwch hwn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun,) ddyfod dallineb o ran i Israel, hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn. 26 Ac felly holl Israel a fydd cadwedig; fel y mae yn ysgrifenedig, Y Gwaredwr a ddaw allan o Seion, ac a dry ymaith annuwioldeb oddi wrth Jacob. 27 A hyn yw’r amod sydd iddynt gennyf fi, pan gymerwyf ymaith eu pechodau hwynt. 28 Felly o ran yr efengyl, gelynion ydynt o’ch plegid chwi: eithr o ran yr etholedigaeth, caredigion ydynt oblegid y tadau. 29 Canys diedifarus yw doniau a galwedigaeth Duw. 30 Canys megis y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw, eithr yr awron a gawsoch drugaredd trwy anufudd‐dod y rhai hyn; 31 Felly hwythau hefyd yr awron a anufuddhasant, fel y caent hwythau drugaredd trwy eich trugaredd chwi. 32 Canys Duw a’u caeodd hwynt oll mewn anufudd‐dod, fel y trugarhâi wrth bawb. 33 O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a’i ffyrdd, mor anolrheinadwy ydynt! 34 Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd? neu pwy a fu gynghorwr iddo ef? 35 Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn? 36 Canys ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth. Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd. Amen.