Add parallel Print Page Options

Y mae drwg a welais dan haul, a hwnnw yn fawr ymysg dynion: Gŵr y rhoddodd Duw iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisiau dim i’w enaid a’r a ddymunai; a Duw heb roi gallu iddo i fwyta ohoni, ond estron a’i bwyty. Dyma wagedd, ac y mae yn ofid blin.

Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir â daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef. Canys mewn oferedd y daeth, ac yn y tywyllwch yr ymedy, a’i enw a guddir â thywyllwch. Yntau ni welodd mo’r haul, ac ni wybu ddim: mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i’r llall.

Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynyddoedd, eto ni welodd efe ddaioni: onid i’r un lle yr â pawb? Holl lafur dyn sydd dros ei enau, ac eto ni ddiwellir ei enaid ef. Canys pa ragoriaeth sydd i’r doeth mwy nag i’r annoeth? beth sydd i’r tlawd a fedr rodio gerbron y rhai byw?

Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd. 10 Beth bynnag fu, y mae enw arno; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson â’r neb sydd drech nag ef.

11 Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd, beth yw dyn well? 12 Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a dreulia efe fel cysgod? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul?