Add parallel Print Page Options

Weithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd. Ysgrifennu yr un pethau atoch, gennyf fi yn wir nid yw flin, ac i chwithau y mae yn ddiogel. Gochelwch gŵn, gochelwch ddrwgweithwyr, gochelwch y cyd‐doriad. Canys yr enwaediad ydym ni, y rhai ydym yn gwasanaethu Duw yn yr ysbryd, ac yn gorfoleddu yng Nghrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd: Ac er bod gennyf achos i ymddiried, ie, yn y cnawd. Os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy: Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o genedl Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrëwr o’r Hebreaid; yn ôl y ddeddf yn Pharisead; Yn ôl sêl, yn erlid yr eglwys; yn ôl y cyfiawnder sydd yn y ddeddf, yn ddiargyhoedd. Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist. Ie, yn ddiamau, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd: er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr enillwyf Grist, Ac y’m ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o’r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd: 10 Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef, gan fod wedi fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef; 11 Os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd atgyfodiad y meirw: 12 Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eisoes, neu fod eisoes wedi fy mherffeithio; eithr dilyn yr wyf, fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu. 13 Y brodyr, nid wyf fi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael: ond un peth, gan anghofio’r pethau sydd o’r tu cefn, ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen, 14 Yr ydwyf yn cyrchu at y nod, am gamp uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu. 15 Cynifer gan hynny ag ydym berffaith, syniwn hyn: ac os ydych yn synied dim yn amgen, hyn hefyd a ddatguddia Duw i chwi. 16 Er hynny, y peth y daethom ato, cerddwn wrth yr un rheol, syniwn yr un peth. 17 Byddwch ddilynwyr i mi, frodyr, ac edrychwch ar y rhai sydd yn rhodio felly, megis yr ydym ni yn siampl i chwi. 18 (Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awron hefyd dan wylo yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt; 19 Diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai yw eu bol, a’u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai sydd yn synied pethau daearol.) 20 Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd; o’r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist: 21 Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni, fel y gwneler ef yr un ffurf â’i gorff gogoneddus ef, yn ôl y nerthol weithrediad trwy yr hwn y dichon efe, ie, ddarostwng pob peth iddo ei hun.