Numeri 26:33
Beibl William Morgan
33 A Salffaad mab Heffer nid oedd iddo feibion, ond merched: ac enwau merched Salffaad oedd, Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Tirsa.
Read full chapter
Numeri 27:1-11
Beibl William Morgan
27 Yna y daeth merched Salffaad, mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth Manasse mab Joseff; (a dyma enwau ei ferched ef; Mala, Noa, Hogla, Milca, a Tirsa;) 2 Ac a safasant gerbron Moses, a cherbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron y penaethiaid, a’r holl gynulleidfa, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gan ddywedyd, 3 Ein tad ni a fu farw yn yr anialwch; ac nid oedd efe ymysg y gynulleidfa a ymgasglodd yn erbyn yr Arglwydd yng nghynulleidfa Cora, ond yn ei bechod ei hun y bu farw; ac nid oedd meibion iddo. 4 Paham y tynnir ymaith enw ein tad ni o fysg ei dylwyth, am nad oes iddo fab? Dod i ni feddiant ymysg brodyr ein tad. 5 A dug Moses eu hawl hwynt gerbron yr Arglwydd.
6 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 7 Y mae merched Salffaad yn dywedyd yn uniawn; gan roddi dyro iddynt feddiant etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad: trosa iddynt etifeddiaeth eu tad. 8 Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo marw un, ac heb fab iddo, troswch ei etifeddiaeth ef i’w ferch. 9 Ac oni bydd merch iddo, rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w frodyr. 10 Ac oni bydd brodyr iddo; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad. 11 Ac oni bydd brodyr i’w dad; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w gâr nesaf iddo o’i dylwyth; a meddianned hwnnw hi: a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedig, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
Read full chapter
Numeri 36:1-12
Beibl William Morgan
36 Pennau‐cenedl tylwyth meibion Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth meibion Joseff, a ddaethant hefyd, ac a lefarasant gerbron Moses, a cherbron y penaduriaid, sef pennau‐cenedl meibion Israel; 2 Ac a ddywedasant, Yr Arglwydd a orchmynnodd i’m harglwydd roddi’r tir yn etifeddiaeth i feibion Israel wrth goelbren: a’m harglwydd a orchmynnwyd gan yr Arglwydd, i roddi etifeddiaeth Salffaad ein brawd i’w ferched. 3 Os hwy a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau eraill meibion Israel; yna y tynnir ymaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth ein tadau ni, ac a’i chwanegir at etifeddiaeth y llwyth y byddant hwy eiddynt: a phrinheir ar randir ein hetifeddiaeth ni. 4 A phan fyddo y jiwbili i feibion Israel, yna y chwanegir eu hetifeddiaeth hwynt at etifeddiaeth llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt: a thorrir eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein tadau ni. 5 A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, yn ôl gair yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mae llwyth meibion Joseff yn dywedyd yn uniawn. 6 Dyma y gair a orchmynnodd yr Arglwydd am ferched Salffaad, gan ddywedyd, Byddant wragedd i’r rhai y byddo da yn eu golwg eu hun; ond i rai o dylwyth llwyth eu tad eu hun y byddant yn wragedd. 7 Felly ni threigla etifeddiaeth meibion Israel o lwyth i lwyth: canys glynu a wna pob un o feibion Israel yn etifeddiaeth llwyth ei dadau ei hun. 8 A phob merch yn etifeddu etifeddiaeth o lwythau meibion Israel, a fydd wraig i un o dylwyth llwyth ei thad ei hun; fel yr etifeddo meibion Israel bob un etifeddiaeth ei dadau ei hun. 9 Ac na threigled etifeddiaeth o lwyth i lwyth arall; canys llwythau meibion Israel a lynant bob un yn ei etifeddiaeth ei hun. 10 Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth merched Salffaad. 11 Canys Mala, Tirsa, a Hogla, a Milca, a Noa, merched Salffaad, fuant yn wragedd i feibion eu hewythredd. 12 I wŷr o dylwyth Manasse fab Joseff y buant yn wragedd; a thrigodd eu hetifeddiaeth hwynt wrth lwyth tylwyth eu tad.
Read full chapterWilliam Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.