Add parallel Print Page Options

15 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion, Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i dir eich preswylfod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i chwi, Ac offrymu ohonoch aberth tanllyd i’r Arglwydd, offrwm poeth, neu aberth, wrth dalu adduned, neu mewn offrwm gwirfodd, neu ar eich gwyliau gosodedig, gan wneuthur arogl peraidd i’r Arglwydd, o’r eidionau, neu o’r praidd: Yna offrymed yr hwn a offrymo ei rodd i’r Arglwydd, o beilliaid ddegfed ran, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew, yn fwyd‐offrwm. Ac offrwm di gyda’r offrwm poeth, neu yr aberth, bedwaredd ran hin o win am bob oen, yn ddiod‐offrwm. A thi a offrymi yn fwyd‐offrwm gyda hwrdd, o beilliaid ddwy ddegfed ran, wedi ei gymysgu trwy drydedd ran hin o olew. A thrydedd ran hin o win yn ddiod‐offrwm a offrymi yn arogl peraidd i’r Arglwydd. A phan ddarperych lo buwch yn offrwm poeth, neu yn aberth yn talu adduned, neu aberth hedd i’r Arglwydd; Yna offrymed yn fwyd‐offrwm gyda llo y fuwch, o beilliaid dair degfed ran wedi ei gymysgu trwy hanner hin o olew. 10 Ac offrwm hanner hin o win yn ddiod‐offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 11 Felly y gwneir am bob ych, neu am bob hwrdd, neu am oen, neu am fyn. 12 Yn ôl y rhifedi a ddarparoch, felly y gwnewch i bob un, yn ôl eu rhifedi. 13 Pob priodor a wna’r pethau hyn felly, wrth offrymu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd. 14 A phan ymdeithio dieithrddyn, neu yr hwn sydd yn eich plith trwy eich cenedlaethau, a darparu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd; fel y gwneloch chwi, felly gwnaed yntau. 15 Yr un ddeddf fydd i chwi o’r dyrfa, ac i’r ymdeithydd dieithr; deddf dragwyddol yw trwy eich cenedlaethau: megis yr ydych chwi, felly y bydd y dieithr gerbron yr Arglwydd. 16 Un gyfraith, ac un ddefod, fydd i chwi, ac i’r ymdeithydd a ymdeithio gyda chwi.

17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 18 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i’r tir yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo; 19 Yna pan fwytaoch o fara’r tir, y dyrchefwch offrwm dyrchafael i’r Arglwydd. 20 O flaenion eich toes yr offrymwch deisen yn offrwm dyrchafael: fel offrwm dyrchafael y llawr dyrnu, felly y dyrchefwch hithau. 21 O ddechrau eich toes y rhoddwch i’r Arglwydd offrwm dyrchafael trwy eich cenedlaethau.

22 A phan eloch dros y ffordd, ac na wneloch yr holl orchmynion hyn, y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses, 23 Sef yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi trwy law Moses, o’r dydd y gorchmynnodd yr Arglwydd, ac o hynny allan, trwy eich cenedlaethau; 24 Yna bydded, os allan o olwg y gynulleidfa y gwnaed dim trwy anwybod, i’r holl gynulleidfa ddarparu un bustach ieuanc yn offrwm poeth, i fod yn arogl peraidd i’r Arglwydd, â’i fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm, wrth y ddefod, ac un bwch geifr yn bech‐aberth. 25 A gwnaed yr offeiriad gymod dros holl gynulleidfa meibion Israel, a maddeuir iddynt; canys anwybodaeth yw: a dygant eu hoffrwm, aberth tanllyd i’r Arglwydd, a’u pech‐aberth, gerbron yr Arglwydd, am eu hanwybodaeth. 26 A maddeuir i holl gynulleidfa meibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg; canys digwyddodd i’r holl bobl trwy anwybod.

27 Ond os un dyn a becha trwy amryfusedd; yna offrymed afr flwydd yn offrwm dros bechod. 28 A gwnaed yr offeiriad gymod dros y dyn a becho yn amryfus, pan becho trwy amryfusedd gerbron yr Arglwydd, gan wneuthur cymod drosto; a maddeuir iddo. 29 Yr hwn a aned o feibion Israel, a’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg, un gyfraith fydd i chwi am wneuthur pechod trwy amryfusedd.

30 Ond y dyn a wnêl bechod mewn rhyfyg, o briodor, neu o ddieithr; cablu yr Arglwydd y mae: torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl. 31 Oherwydd iddo ddiystyru gair yr Arglwydd, a thorri ei orchymyn ef; llwyr dorrer ymaith y dyn hwnnw: ei anwiredd fydd arno.

32 Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffeithwch, cawsant ŵr yn cynuta ar y dydd Saboth. 33 A’r rhai a’i cawsant ef, a’i dygasant ef, sef y cynutwr, at Moses, ac at Aaron, ac at yr holl gynulleidfa. 34 Ac a’i dodasant ef mewn dalfa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo. 35 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Lladder y gŵr yn farw: llabyddied yr holl gynulleidfa ef â meini o’r tu allan i’r gwersyll. 36 A’r holl gynulleidfa a’i dygasant ef i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

37 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 38 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad, trwy eu cenedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glas ar eddi y godre. 39 A bydded i chwi yn rhidens, i edrych arno, ac i gofio holl orchmynion yr Arglwydd, ac i’w gwneuthur hwynt; ac na chwiliwch yn ôl eich calonnau eich hunain, nac yn ôl eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn puteinio ar eu hôl: 40 Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orchmynion i, ac y byddoch sanctaidd i’ch Duw. 41 Myfi ydyw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, i fod i chwi yn Dduw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

Supplementary Offerings

15 The Lord said to Moses, “Speak to the Israelites and say to them: ‘After you enter the land I am giving you(A) as a home and you present to the Lord food offerings from the herd or the flock,(B) as an aroma pleasing to the Lord(C)—whether burnt offerings(D) or sacrifices, for special vows or freewill offerings(E) or festival offerings(F) then the person who brings an offering shall present to the Lord a grain offering(G) of a tenth of an ephah[a] of the finest flour(H) mixed with a quarter of a hin[b] of olive oil. With each lamb(I) for the burnt offering or the sacrifice, prepare a quarter of a hin of wine(J) as a drink offering.(K)

“‘With a ram(L) prepare a grain offering(M) of two-tenths of an ephah[c](N) of the finest flour mixed with a third of a hin[d] of olive oil,(O) and a third of a hin of wine(P) as a drink offering.(Q) Offer it as an aroma pleasing to the Lord.(R)

“‘When you prepare a young bull(S) as a burnt offering or sacrifice, for a special vow(T) or a fellowship offering(U) to the Lord, bring with the bull a grain offering(V) of three-tenths of an ephah[e](W) of the finest flour mixed with half a hin[f] of olive oil, 10 and also bring half a hin of wine(X) as a drink offering.(Y) This will be a food offering, an aroma pleasing to the Lord.(Z) 11 Each bull or ram, each lamb or young goat, is to be prepared in this manner. 12 Do this for each one, for as many as you prepare.(AA)

13 “‘Everyone who is native-born(AB) must do these things in this way when they present a food offering as an aroma pleasing to the Lord.(AC) 14 For the generations to come,(AD) whenever a foreigner(AE) or anyone else living among you presents a food(AF) offering(AG) as an aroma pleasing to the Lord, they must do exactly as you do. 15 The community is to have the same rules for you and for the foreigner residing among you; this is a lasting ordinance for the generations to come.(AH) You and the foreigner shall be the same before the Lord: 16 The same laws and regulations will apply both to you and to the foreigner residing among you.(AI)’”

17 The Lord said to Moses, 18 “Speak to the Israelites and say to them: ‘When you enter the land to which I am taking you(AJ) 19 and you eat the food of the land,(AK) present a portion as an offering to the Lord.(AL) 20 Present a loaf from the first of your ground meal(AM) and present it as an offering from the threshing floor.(AN) 21 Throughout the generations to come(AO) you are to give this offering to the Lord from the first of your ground meal.(AP)

Offerings for Unintentional Sins

22 “‘Now if you as a community unintentionally fail to keep any of these commands the Lord gave Moses(AQ) 23 any of the Lord’s commands to you through him, from the day the Lord gave them and continuing through the generations to come(AR) 24 and if this is done unintentionally(AS) without the community being aware of it,(AT) then the whole community is to offer a young bull for a burnt offering(AU) as an aroma pleasing to the Lord,(AV) along with its prescribed grain offering(AW) and drink offering,(AX) and a male goat for a sin offering.[g](AY) 25 The priest is to make atonement for the whole Israelite community, and they will be forgiven,(AZ) for it was not intentional(BA) and they have presented to the Lord for their wrong a food offering(BB) and a sin offering.(BC) 26 The whole Israelite community and the foreigners residing among them will be forgiven, because all the people were involved in the unintentional wrong.(BD)

27 “‘But if just one person sins unintentionally,(BE) that person must bring a year-old female goat for a sin offering.(BF) 28 The priest is to make atonement(BG) before the Lord for the one who erred by sinning unintentionally, and when atonement has been made, that person will be forgiven.(BH) 29 One and the same law applies to everyone who sins unintentionally, whether a native-born Israelite or a foreigner residing among you.(BI)

30 “‘But anyone who sins defiantly,(BJ) whether native-born or foreigner,(BK) blasphemes the Lord(BL) and must be cut off from the people of Israel.(BM) 31 Because they have despised(BN) the Lord’s word and broken his commands,(BO) they must surely be cut off; their guilt remains on them.(BP)’”

The Sabbath-Breaker Put to Death

32 While the Israelites were in the wilderness,(BQ) a man was found gathering wood on the Sabbath day.(BR) 33 Those who found him gathering wood brought him to Moses and Aaron and the whole assembly, 34 and they kept him in custody, because it was not clear what should be done to him.(BS) 35 Then the Lord said to Moses, “The man must die.(BT) The whole assembly must stone him outside the camp.(BU) 36 So the assembly took him outside the camp and stoned him(BV) to death,(BW) as the Lord commanded Moses.(BX)

Tassels on Garments

37 The Lord said to Moses, 38 “Speak to the Israelites and say to them: ‘Throughout the generations to come(BY) you are to make tassels on the corners of your garments,(BZ) with a blue cord on each tassel. 39 You will have these tassels to look at and so you will remember(CA) all the commands of the Lord, that you may obey them and not prostitute yourselves(CB) by chasing after the lusts of your own hearts(CC) and eyes. 40 Then you will remember to obey all my commands(CD) and will be consecrated to your God.(CE) 41 I am the Lord your God, who brought you out of Egypt to be your God.(CF) I am the Lord your God.(CG)’”

Footnotes

  1. Numbers 15:4 That is, probably about 3 1/2 pounds or about 1.6 kilograms
  2. Numbers 15:4 That is, about 1 quart or about 1 liter; also in verse 5
  3. Numbers 15:6 That is, probably about 7 pounds or about 3.2 kilograms
  4. Numbers 15:6 That is, about 1 1/3 quarts or about 1.3 liters; also in verse 7
  5. Numbers 15:9 That is, probably about 11 pounds or about 5 kilograms
  6. Numbers 15:9 That is, about 2 quarts or about 1.9 liters; also in verse 10
  7. Numbers 15:24 Or purification offering; also in verses 25 and 27